bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Hebrews 1
Hebrews 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 2 →
1
Duw, wedi iddo lefaru mewn amrywiol rannau ac mewn amrywiol ddulliau er cynt wrth y Tadau yn y Prophwydi
2
yn niwedd y dyddiau hyn a lefarodd wrthym ni mewn Mab, yr hwn a benododd efe yn etifedd pob peth, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe yr oesau;
3
yr hwn, ac efe yn lewyrchiad ei ogoniant ef, ac yn argraph ei sylwedd ef, ac yn cynnal ymlaen yr oll â gair ei allu, wedi iddo effeithio puredigaeth pechodau, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch‐leoedd;
4
wedi myned yn gymaint gwell na'r angelion, o gymaint ag yr etifeddodd Enw mwy rhagorol na hwynt‐hwy.
5
Canys wrth bwy o'r angelion y dywedodd efe erioed, Fy Mab ydwyt Ti, Myfi heddyw a'th genhedlais?. A thrachefn, Myfi a fyddaf iddo ef yn Dâd, Ac efe a fydd i mi yn Fab.
6
A phan fydd wedi dwyn drachefn y Cyntaf‐anedig i'r byd preswyliedig, dywed, Ac addoled holl angelion Duw ef
7
Ac am yr angelion dywed, Yr hwn sydd yn gwneuthur ei angelion yn wyntoedd, a'i weinidogion yn fflam dân;
8
Ond am y Mab: Dy orseddfaingc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd. A Theyrn‐wialen uniondeb yw teyrn‐wialen dy Deyrnas di;
9
Ceraist gyfiawnder, a chasëaist anghyfraith: Am hyn yr eneiniodd Duw, dy Dduw, dydi ag olew gorfoledd, tu hwnt i'th gymdeithion.
10
Ac, Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear, a gwaith dy ddwylaw di yw y nefoedd.
11
Hwy a ddinystrir, ond tydi wyt yn parhau yn ddigyfnewid; A hwynt‐hwy oll fel gwisg a heneiddiant;
12
Ac megys mantell y plygi di hwynt, Fel gwisg, a hwy a newidir; Ond tydi, yr un ydwyt, a'th flynyddoedd ni phallant
13
Ond am ba un o'r angelion y dywedodd efe erioed, Eistedd ar fy neheulaw, Hyd oni osodaf dy elynion yn droed‐faingc i'th draed?
14
Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, yn cael eu danfon i wasanaethu, er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth?
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13