bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Hebrews 13
Hebrews 13
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
1
Parhaed brawdgarwch.
2
Nac anghofiwch letygarwch i ddyeithriaid, canys trwyddo y lletyodd rhai angelion yn ddiarwybod.
3
Cofiwch y rhai mewn rhwymau, fel rhai wedi eu rhwymo gyd a hwynt; y rhai a ddrygir, megys eich bod eich hunain hefyd yn y corph.
4
Bydded fod priodas yn anrhydeddus ym mhawb, a'r gwely yn ddihalog; eithr puteinwyr a godinebwyr a farna Duw.
5
Bydded eich tueddfryd yn ddiariangar, gan fod yn foddlawn ar y pethau sydd gennych, canys efe ei hun a ddywedodd, Ni'th ollyngaf di o'm gafael o gwbl, ac ni'th adawaf ddim;
6
fel y gallom ddywedyd yn wrol, Yr Arglwydd sydd gynorthwywr i mi, nid ofnaf. Pa beth a wna dyn i mi?
7
Cofiwch eich arweinwyr, yn gyfryw ag a lefarasant i chwi air Duw; a chan ddwys‐ystyried terfyniad eu buchedd, efelychwch eu ffydd.
8
Iesu Grist ddoe a heddyw yr un ac yn dragywydd.
9
Na chluder chwi ymaith gan athrawiaethau amrywiol a dyeithr; canys gwych yw bod y galon wedi ei sefydlu â gras, nid â bwydydd, yn y rhai ni lesâwyd y rhai a rodient ynddynt.
10
Y mae gennym allor o'r hon nid oes awdurdod gan y rhai a wasanaethant y tabernacl i fwyta.
11
Canys yr anifeiliaid, y rhai y dygir eu gwaed i mewn i'r cysegr am bechod gan yr Archoffeiriad, cyrph y rhai hyn a losgir yn hollol tu allan i'r gwersyll:
12
o herwydd paham Iesu hefyd, fel y sancteiddiai y bobl trwy ei waed priod ei hun, a ddyoddefodd tu allan i'r porth.
13
Am hynny, awn allan ato ef tu allan i'r gwersyll, gan ddwyn ei waradwydd ef;
14
canys nid oes gennym yma ddinas arhosol, eithr yr ydym yn dyfal‐geisio yr hon sydd yn dyfod.
15
Trwyddo ef gan hynny offrymwn i fyny aberth moliant yn wastadol i Dduw, hynny yw, ffrwyth gwefusau yn cyffesu i'w enw ef.
16
Ac nac anghofiwch y cymwynasgarwch a'r cyfrannu, canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw.
17
Ufuddhêwch i'ch arweinwyr, ac ymostyngwch iddynt; oblegyd y maent hwy yn effro i wylied ar ran eich eneidiau, megys rhai a roddant gyfrif; fel gyd a llawenydd y gwnelont hyn ac nid gan alaru. Canys difudd i chwi yw hynny.
18
Gweddïwch drosom, canys yr ydym yn argyhoeddedig fod gennym gydwybod lân, gan ewyllysio ym mhob peth ymfucheddu yn hardd.
19
Ac yn helaethach yr wyf yn eich cymhell i wneuthur hyn, fel y'm hadferer i chwi yn gynt.
20
Ond Duw yr heddwch, yr hwn a ddygodd i fyny o blith y meirw Fugail Mawr y defaid, yng ngwaed cyfamod tragwyddol, ein Harglwydd Iesu,
21
a'ch perffeithio ym mhob da er gwneuthur ei ewyllys, gan weithredu ynom yr hyn sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef, trwy Iesu Grist, i'r hwn y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
22
Ond cynghoraf chwi, frodyr, goddefwch air y cyngor; canys ar fyr eiriau yr ysgrifennais atoch.
23
Gwybyddwch fod ein brawd Timotheus wedi ei ollwng yn rhydd, gyda'r hwn, os daw efe yn fuan, y gwelaf chwi.
24
Anerchwch eich holl arweinwyr, a'r holl saint. Y mae y rhai o'r Ital yn eich annerch.
25
Gras fyddo gyda chwi oll. Amen.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13