bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Hebrews 6
Hebrews 6
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 7 →
1
Am hynny, gan adael heibio yr ymadrodd dechreuol am y Crist, dyger ni ymlaen at berffeithrwydd, heb osod i lawr drachefn i ni ein hunain sail i edifeirwch oddiwrth weithredoedd meirwon, a ffydd tu ag at Dduw,
2
i athrawiaeth bedyddiadau ac arddodiad dwylaw, ac adgyfodiad y meirw hefyd a'r Farn dragwyddol:
3
a hyn a wnawn os caniata Duw.
4
Canys mewn perthynas i'r rhai a gawsant unwaith eu goleuo, ac a brofasant y rhodd nefol, ac a wnaed yn gyfranogion o'r Yspryd Glân,
5
ac a brofasant mor dda yw Gair Duw a galluoedd yr Oes ar ddyfod,
6
ac a syrthiasant ymaith, amhosibl yw eu hadnewyddu drachefn i edifeirwch, gan eu bod yn croeshoelio iddynt eu hunain Fab Duw, ac yn ei warthruddo yn gyhoeddus.
7
Canys y tir yr hwn a yfodd y gwlaw sydd yn mynych ddyfod arno, ac sydd yn dwyn llysiau cymhwys i'r rhai y llafurir ef erddynt, sydd yn derbyn bendith oddiwrth Dduw;
8
eithr os yn dwyn drain ac ysgall y mae yn wrthodedig ac yn agos i felldith, diwedd yr hwn fydd ei losgi.
9
Ond yr ydym yn llawn gredu am danoch chwi, anwyliaid, y pethau gwell ac ynglyn wrth iachawdwriaeth, er mai fel hyn y llefarwn.
10
Canys nid yw Duw yn anghyfiawn fel yr anghofio eich gwaith a'r cariad a ddangosasoch tu ag at ei enw ef, pan weiniasoch i'r saint, ac y parhêwch i weini.
11
A chwenychwn i bob un o honoch ddangos yr un dyfalwch i gyrhaedd llawn‐sicrwydd gobaith hyd y diwedd;
12
fel nad eloch yn fusgrell, ond yn efelychwyr y rhai trwy ffydd ac amynedd sydd yn etifeddu yr addewidion.
13
Canys wedi gwneud addewid i Abraham, Duw, oblegyd na allai dyngu i neb mwy, a dyngodd iddo ei hun,
14
gan ddywedyd, Yn wir, gan fendithio mi a'th fendithiaf, a chan amlhau, mi a'th amlhâf;
15
ac felly wedi hir ymaros, efe a gafodd yr addewid.
16
Canys dynion yn wir sydd yn tyngu i un a fo mwy, ac y mae y llw yn derfyn iddynt hwy ar bob gwrth‐ddywedyd hyd at sicrhâd.
17
Yn hyn, Duw, gan ewyllysio dangos yn helaethach i etifeddion yr Addewid anghyfnewidioldeb ei gyngor, a gyfryngodd â llw,
18
fel trwy ddau beth anghyfnewidiol, yn y rhai y mae yn amhosibl i Dduw ddywedyd celwydd, y gallem ni gael calondid cryf, y rhai a ffoisom i gymeryd gafael yn y gobaith a osodwyd o'n blaen,
19
yr hwn sydd gennym megys angor yr enaid, yn ddyogel ac yn sicr, ac yn myned i'r tu fewn i'r llen,
20
i'r man yr aeth yr Iesu yn rhag‐redegydd drosom ni, wedi ei wneuthur yn Arch‐offeiriad yn dragywydd yn ol urdd Melchisedec.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13