bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Hebrews 2
Hebrews 2
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 3 →
1
O herwydd hyn rhaid i ni roddi sylw helaethach i'r pethau a glybuwyd, rhag un amser i ni gael ein cludo heibio iddynt.
2
Canys os bu sicr y gair a lefarwyd trwy angelion, ac os derbyniodd pob troseddiad ac anufudd‐dod gyfiawn daledigaeth,
3
pa fodd y dïangwn ni, wedi esgeuluso iachawdwriaeth mor fawr? yn gyfryw a gafodd ar y dechreu ei llefaru trwy yr Arglwydd, a sicrhâwyd i ni gan y rhai a glywsant;
4
Duw hefyd yn cyd‐dystiolaethu trwy arwyddion a rhyfeddodau, ac amrywiol nerthoedd a chyfraniadau yr Yspryd Glân, yn ol ei ewyllys ei hun.
5
Canys nid i angelion y darostyngodd efe y Byd sydd ar Ddyfod, am yr hwn yr ydym yn llefaru.
6
Eithr tystiolaethodd rhyw un mewn rhyw fan, gan ddywedyd, Pa beth yw dyn, i ti i'w gofio? Neu fab dyn i ti ymweled âg ef?
7
Ti a'i gwnaethost ychydig yn llai nag angelion; A gogoniant ac anrhydedd y coronaist ef; [Ac a'i gosodaist ef ar weithredoedd dy ddwylaw ];
8
Ti a ddarostyngaist bob peth dan ei draed ef; canys mewn darostwng yr oll iddo, ni adawodd efe ddim heb ei ddarostwng iddo. Ond yn awr nid ydym ni eto yn gweled yr oll wedi ei ddarostwng iddo.
9
Ond yr ydym yn canfod yr hwn a wnaed ychydig yn llai nag angelion, Iesu, o herwydd dyoddefaint ei Farwolaeth, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd, fel trwy ras Duw y profai flas marwolaeth dros bob un.
10
Canys gweddai iddo ef, o herwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth, pan yn arwain meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysydd eu hiachawdwriaeth trwy ddyoddefiadau.
11
Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a'r rhai a sancteiddir, o Un Tad y maent oll; am ba achos nid oes arno gywilydd eu galw yn frodyr,
12
gan ddywedyd, Mynegaf dy enw i'm brodyr, Ynghanol y Gynnulleidfa y canaf dy fawl.
13
A thrachefn, Myfi fyddaf yn ymddiried ynddo. A thrachefn, Wele fi a'r plant a roddes Duw i mi.
14
Oblegyd hynny, gan fod y plant wedi cyfranogi o waed a chnawd, yntau hefyd mewn cyffelyb fodd a gyfranogodd o'r un pethau, fel trwy farwolaeth y dirymai efe yr hwn sydd ganddo nerth marwolaeth, hynny yw, y Diafol,
15
ac y gwaredai hwynt, y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt trwy eu holl fywyd yn ddarostyngedig i gaethiwed.
16
Canys, bid sicr, nid mewn angelion y cymer efe afael, eithr efe a gymer afael yn hâd Abraham:
17
am ba achos y dylai ym mhob peth ei wneud yn gyffelyb i'w frodyr, fel y byddai yn Arch‐offeiriad trugarog a ffyddlawn yn y pethau a berthynant i Dduw, er gwneuthur cymod dros bechodau y bobl:
18
Canys yn yr hyn y dyoddefodd ef ei hun gan gael ei demtio, efe a ddichon gynorthwyo y rhai a demtir.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13