bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Hebrews 8
Hebrews 8
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 9 →
1
A'r prif bwynt yn y pethau a ddywedir yw hyn. Y mae gennym y fath Arch‐offeiriad, yr hwn a eisteddodd ar ddeheulaw gorsedd‐faingc y Mawredd yn y nefoedd;
2
gweinidog y Cysegr a'r gwir Dabernacl, yr hwn a osododd yr Arglwydd, ac nid dyn.
3
Canys pob Arch‐offeiriad a benodir i offrymu rhoddion ac aberthau: o herwydd paham rhaid bod gan hwn hefyd yr hyn a offryma.
4
Yn awr gan hynny pe byddai efe ar y ddaear, ni fyddai yn offeiriad mewn un modd, gan fod y rhai sydd yn offrymu y rhoddion yn ol y Gyfraith,
5
yn gyfryw ag sydd yn gwasanaethu darlun a chysgod y pethau nefol, megys y dadguddiwyd i Moses pan oedd ar fedr gosod i fyny y Tabernacl; canys, Gwel, medd efe, ar wneuthur o honot bob peth yn ol y cynllun a ddangoswyd i ti yn y Mynydd.
6
Ond yn awr efe a gafodd weinidogaeth mwy rhagorol, o gymaint ag y mae hefyd yn Gyfryngwr Cyfamod gwell, yr hwn sydd wedi ei ddeddf‐osod ar addewidion gwell.
7
Canys pe buasai y cyntaf hwnnw yn ddifeius, yna ni cheisiasid lle i'r ail.
8
Canys gan feio arnynt y dywed efe, Wele ddyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, A mi a gwblhâf gyfamod newydd â thŷ Israel ac â thŷ Juda;
9
Nid yn ol y Cyfamod yr hwn a wnaethum â'u Tadau, Yn y dydd yr ymaflais yn eu llaw i'w dwyn hwy o dir yr Aipht, oblegid nid arhosasant hwy yn fy nghyfamod i, A minnau a'u hesgeulusais hwythau, medd yr Arglwydd.
10
Oblegyd hwn yw y cyfamod a amodaf â thŷ Israel Ar ol y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd: Gan roddi fy nghyfreithiau yn eu meddwl, Mi a'u hysgrifennaf hefyd ar eu calon; A byddaf iddynt yn Dduw, A hwythau a fyddant i minnau yn bobl:
11
Ac ni ddysgant bob un ei gyd‐ddinesydd, A phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd yr Arglwydd, canys pawb a'm hadnabyddant i, O fychan i fawr o honynt.
12
Oblegyd trugarog fyddaf wrth eu hanghyfiawnderau, A'u pechodau ni chofiaf mwy.
13
Wrth ddywedyd, Cyfamod newydd, y mae efe wedi gwneuthur y cyntaf yn hen; canys y mae yr hyn sydd yn heneiddio ac yn oedrannus yn agos i ddiflaniad.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13