bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Hebrews 4
Hebrews 4
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 5 →
1
Ofnwn gan hynny, rhag o ddygwydd fod addewid wedi ei gadael i ni fyned i mewn i'w orphwysfa ef, i neb o honoch ymddangos ei fod wedi syrthio yn fyr o honi.
2
Canys efengylwyd i ninnau megys i hwythau; ond y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oeddynt hwy wedi eu cyd‐dymheru trwy ffydd â'r rhai a glywsant.
3
Canys yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn i'r Orphwysfa, fel y dywedodd efe, Fel y tyngais yn fy llid, Ni ddeuant i mewn i'm Gorphwysfa, Er fod y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd.
4
Canys efe a ddywedodd mewn rhyw fan am y seithfed dydd fel hyn: A gorphwysodd Duw ar y seithfed dydd oddiwrth ei holl weithredoedd.
5
Ac yn y fan hon drachefn, Ni ddeuant i mewn i'm Gorphwysfa.
6
Am hynny, gan fod eto yn aros fod rhai i fyned i mewn iddi, ac nad aeth y rhai y pregethwyd iddynt yn flaenorol i mewn o herwydd anufudd‐dod,
7
y mae efe drachefn yn pennu rhyw ddydd, Heddyw, gan ddywedyd yn Dafydd, ar ol cymaint o amser, megys y dywedwyd o'r blaen, Heddyw, os clywoch ei lais ef, Na chaledwch eich calonnau.
8
Canys pe rhoddasai Josua iddynt hwy orphwysdra, ni lefarasai efe ar ol hynny am ddydd arall.
9
Y mae gan hynny Sabbath‐Orphwysfa eto yng nghadw i bobl Dduw.
10
Canys yr hwn a aeth i mewn i'w Orphwysfa ef, hwnnw hefyd a orphwysodd oddiwrth ei weithredoedd, megys y gwnaeth Duw oddiwrth yr eiddo yntau.
11
Byddwn yn eiddgar gan hynny i fyned i mewn i'r Orphwysfa honno, fel na bo i neb syrthio yn ol yr unrhyw esiampl o anufudd‐dod.
12
Canys byw yw Gair Duw, ac effeithiol, a llymach nag un cleddyf dau‐finiog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad enaid ac yspryd, cymalau a mêr hefyd, ac yn medru barnu dymuniadau a meddyliau y galon;
13
ac nid oes creadur yn anamlwg yn ei olwg ef, eithr y mae pob peth yn noeth ac yn agored i lygaid yr hwn y mae gennym i roddi cyfrif iddo.
14
Gan fod gennym, gan hynny, Arch‐offeiriad Mawr, yr hwn a aeth trwy y nefoedd, Iesu Mab Duw, daliwn afael yn ein cyffes.
15
Canys nid oes gennym Arch‐offeiriad heb allu cydymdeimlo â'n gwendidau, ond wedi ei demtio ym mhob peth yn gyffelyb i ninnau, heb bechod.
16
Nesäwn, gan hynny, gyda hyfder, at orseddfaingc y gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymhorth mewn pryd.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13