bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Hebrews 7
Hebrews 7
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 8 →
1
Canys y Melchisedec hwn, brenin Salem, offeiriad y Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu âg Abraham yn dychwelyd o ddymchweliad y brenhinoedd, ac a'i bendithiodd ef;
2
i'r hwn hefyd y rhannodd Abraham ddegwm o'r cwbl: Yr hwn yn gyntaf o'i ddeongli, yw Brenin Cyfiawnder, ac yna hefyd Brenin Salem, yr hyn yw Brenin Heddwch;
3
heb dâd, heb fam, heb achyddiaeth, heb fod ganddo na dechreu dyddiau na diwedd einioes, eithr wedi ei gyffelybu i Fab Duw, efe a erys yn offeiriad i fythol barhad.
4
Ystyriwch pa mor fawr oedd hwn, i'r hwn y rhoddodd Abraham y patriarch ddegwm allan o'r goreuon o'r ysbail.
5
Ac yn wir y rhai sydd o feibion Lefi yn derbyn yr offeiriadaeth, y mae ganddynt orchymyn i ddegymu y bobl yn ol y Gyfraith, hynny yw, eu brodyr eu hunain, er eu bod wedi dyfod allan o lwynau Abraham.
6
Eithr yr hwn nid oedd ei achyddiaeth o honynt hwy a ddegymodd Abraham, ac a fendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion ganddo.
7
Ac yn ddiddadl hollol y llai a fendithir gan y gwell.
8
Ac yma dynion a'r sydd yn marw sydd yn derbyn degymau, ond yno, tystiolaethir iddo ei fod yn fyw.
9
Ac, fel y gellir dywedyd, trwy Abraham Lefi hefyd, yr hwn sydd yn derbyn degymau, sydd wedi ei ddegymu;
10
oblegyd yr oedd efe eto yn lwynau ei dâd, pan gyfarfu Melchisedec âg ef.
11
Os oedd, gan hynny, berffeithiad trwy yr offeiriadaeth Lefiticaidd (canys ar ei sail hi y derbyniodd y bobl y Gyfraith), pa raid mwyach oedd i offeiriad gwahanol gyfodi yn ol urdd Melchisedec, ac nid i'w alw yn ol urdd Aaron?
12
Canys pan newidir yr offeiriadaeth, o angenrheidrwydd, y mae cyfnewidiad Cyfraith yn bod hefyd.
13
Canys efe am yr hwn y dywedir y pethau hyn, i lwyth gwahanol y perthynai, o'r hwn nid oes neb wedi gweini wrth yr allor.
14
Canys tra‐amlwg ydyw mai o Juda y mae ein Harglwydd ni wedi cyfodi, am yr hwn lwyth ni lefarodd Moses ddim gyda golwg ar offeiriaid.
15
Ac y mae hyn yn eglurach o lawer eto, os oes yn ol cyffelybiaeth Melchisedec offeiriad gwahanol yn cyfodi,
16
yr hwn sydd wedi ei wneuthur felly, nid yn ol Cyfraith gorchymyn cnawdol, ond yn ol gallu bywyd anatodol;
17
canys tystiolaethir am dano, Ti wyt offeiriad yn dragywydd, yn ol urdd Melchisedec.
18
Canys yn wir y mae ar un llaw ddiddymiad i orchymyn rhagfynedol o herwydd ei wendid a'i afles
19
(oblegyd ni pherffeithiodd y Gyfraith ddim), ac ar y llaw arall, dygiad i mewn ar hynny obaith gwell, trwy yr hwn yr ydym yn nesâu at Dduw.
20
A chan belled ag nad ydyw heb lw (canys hwynt‐hwy yn wir ydynt wedi dyfod yn arch‐offeiriaid heb lw,
21
ond hwn gyda llw, trwy yr hwn sydd yn dywedyd wrtho, Tyngodd yr Arglwydd, ac ni bydd edifar ganddo, Tydi wyt offeiriad yn dragywydd):
22
mor bell a hynny hefyd y daeth Iesu yn Fachnïydd cyfamod gwell.
23
A hwynt‐hwy yn wir a ddaethant yn offeiriaid aml eu rhif, o herwydd lluddias iddynt trwy farwolaeth aros ymlaen;
24
ond efe gan ei fod yn aros yn dragywydd, y mae ganddo yr offeiriadaeth yn anhoradwy.
25
Am hynny hefyd y mae efe yn gallu achub yn gwbl hollol y rhai sydd yn dyfod trwyddo ef at Dduw, gan ei fod yn byw bob amser i eiriol drostynt.
26
Canys y fath Arch‐offeiriad a weddai i ninnau, sanctaidd, diddrwg, dihalog, wedi ei ddiddoli oddiwrth y pechaduriaid, ac wedi ei wneuthur yn uwch na'r nefoedd;
27
yr hwn ni raid iddo o ddydd i ddydd, fel yr Arch‐offeiriaid, offrymu aberthau, yn gyntaf am ei bechodau ei hun, yna dros bechodau y bobl; canys hyn a wnaeth efe unwaith am byth pan offrymodd ei hun.
28
Canys y mae y Gyfraith yn penodi dynion yn Arch‐offeiriaid a chanddynt wendid, ond y mae gair y llw, yr hwn sydd wedi'r Gyfraith, yn penodi y Mab, yr hwn a berffeithiwyd yn dragwyddol.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13