bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Hebrews 12
Hebrews 12
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 13 →
1
Gan hynny bydded i ninnau hefyd, gan fod gennym yn ein hamgylchu gwmwl mor fawr o dystion, gan osod ymaith bob pwys a'r pechod sydd barod i'n hamgylchynu, trwy amynedd redeg yr yrfa a osodir o'n blaen,
2
gan graffu ar Ben‐Tywysog a Pherffeithydd ffydd, Iesu, yr hwn er mwyn y llawenydd a osodwyd o'i flaen a ddyoddefodd y Groes, gan ddirmygu cywilydd, ac a eisteddodd ar ddeheulaw gorsedd Duw.
3
Canys cymharwch yr hwn sydd wedi dyoddef y fath wrth‐ddywedyd gan y pechaduriaid yn eu herbyn eu hunain, fel na flinoch yn eich eneidiau, gan ymollwng.
4
Ni wrthwynebasoch eto hyd at waed yn eich hymdrech yn erbyn pechod.
5
A chwi a ollyngasoch dros gof y cyngor, yr hwn sydd yn traethu wrthych fel meibion: Fy Mab, na ddibrisia ddysgyblaeth yr Arglwydd, Ac nac ymollwng pan y'th ddyger i brawf ganddo;
6
Canys yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei garu y mae yn ei ddysgyblu, ac yn fflangellu pob mab a dderbynio.
7
Er mwyn dysgyblaeth yr ydych yn dyoddef; fel at feibion y mae Duw yn ymddwyn tu ag atoch; canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei ddysgyblu?
8
Ac os heb ddysgyblaeth yr ydych, o'r hon y mae pawb wedi dyfod yn gyfrannog, yna bastardiaid ac nid meibion ydych.
9
Ac eto, cawsom dadau ein cnawd i'n dysgyblu, a pharchasom hwynt; onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dâd yr ysprydoedd, a byw?
10
Canys hwynt‐hwy yn wir am ychydig ddyddiau a'n dysgyblent, fel y gwelent hwy yn dda; eithr efe er ein llesâd, fel y cyfranogem o'i sancteiddrwydd ef.
11
Pob dysgyblaeth am y presennol yn wir, nid ymdengys yn fater o lawenydd ond o dristwch; eithr ar ol hynny y mae yn cynhyrchu ffrwyth tangnefeddus i'r rhai sydd wedi eu hyfforddi trwyddi, sef ffrwyth cyfiawnder.
12
Oherwydd paham, unionwch y dwylaw sydd yn llaesu a'r gliniau sydd yn cael eu parlysu,
13
a gwnewch lwybrau uniawn i'ch traed, fel na throer yr aelod cloff o'i le, ond yr iachâer ef yn hytrach.
14
Dilynwch heddwch â phawb, a'r sancteiddiad heb yr hwn ni wêl neb yr Arglwydd,
15
gan edrych yn ddyfal rhag i neb syrthio yn fyr o ras Duw; rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny ac yn eich trallodi, a thrwyddo i'r lliaws gael eu halogi;
16
rhag bod un puteiniwr, neu anghrefyddol, megys Esau, yr hwn am un pryd o fwyd a werthodd ei enedigaeth‐fraint ei hun.
17
Canys chwi a wyddoch, hyd y nod pan wedi hynny yr oedd yn ewyllysio etifeddu y fendith, ddarfod ei wrthod ef, (canys ni chafodd le i edifeirwch), er iddo â dagrau ei dyfal‐geisio hi.
18
Canys nid ydych chwi wedi dyfod at fynydd y gellid cyffwrdd âg ef, ac at dân sydd wedi bod yn llosgi, ac at dduwch a chaddug dudew, a thymhestl, a sain udgorn,
19
a llais geiriau, yr hwn lais y rhai a'i clywsant a ddeisyfasant na ychwanegid air wrthynt.
20
Canys ni allent oddef yr hyn a orchymynasid, os hyd yn nod bwystfil a gyffwrdd â'r mynydd, llabyddir ef.
21
Ac mor ofnadwy oedd yr olygfa, fel y dywedodd Moses, Yr wyf yn ofni ac yn crynu.
22
Eithr yr ydych chwi wedi dyfod i Fynydd Sion, a Dinas Duw byw, Jerusalem nefol, at fyrddiynnau o angelion yn cadw gwyl,
23
ac at gynulleidfa y cyntaf‐anedigion sydd wedi eu cofrestru yn y nefoedd, ac at Dduw pawb fel Barnwr, ac at ysprydoedd y cyfiawnion wedi eu perffeithio,
24
ac at Gyfryngwr Cyfamod newydd, Iesu, ac at waed taenelliad yn llefaru yn rhagorach nag Abel.
25
Gwelwch na wrthodoch yr hwn sydd yn llefaru; canys os hwynt‐hwy ni ddiangasant ar y ddaear pan wrthodasant yr hwn a'u rhybuddiai, mwy o lawer ni ddiangwn ni, y rhai ydym yn troi ymaith oddiwrth yr hwn sydd yn ein rhybuddio o'r nefoedd:
26
llais yr hwn a ysgydwodd y ddaear y pryd hwnnw; ond yn awr a addawodd, gan ddywedyd, Eto unwaith, mi a ysgydwaf nid yn unig y ddaear, ond y nef hefyd.
27
A'r gair, Eto unwaith, a arddengys symudiad y pethau a ysgydwir fel pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso y pethau nad ysgydwir.
28
O herwydd paham, gan dderbyn teyrnas nad ysgydwir, bydded gennym ras, trwy yr hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd gyda duwiolfrydedd ac ofn;
29
canys hefyd y mae ein Duw ni yn dân ysol.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13