bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Hebrews 9
Hebrews 9
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 10 →
1
Yr oedd am hynny gan y Cyfamod cyntaf ordeiniadau gwasanaeth a chysegr materol;
2
canys tabernacl a ddodrefnwyd, y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canwyllyr, a'r bwrdd, a'r bara gosod; yr hwn a elwir y Cysegr.
3
A thu hwnt i'r ail len, tabernacl a elwir y Cysegr Sancteiddiolaf,
4
yn yr hwn yr oedd allor aur yr arogldarth, ac arch y Cyfamod wedi ei goreuro o amgylch, yn yr hon yr oedd y crochan aur yn dal y manna, a gwialen Aaron, yr hon a flagurodd, a llechau y Cyfamod;
5
ac uwch ei phen cerubiaid y Gogoniant, yn cysgodi y Gymodfa; am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan.
6
A'r pethau hyn wedi eu trefnu felly, i'r tabernacl cyntaf yr ä yn wastadol yr offeiriaid, gan gyflawni y gwasanaethau;
7
ond i'r ail, unwaith yn y flwyddyn, yr a yr Arch‐offeiriad yn unig, nid heb waed, yr hwn a offryma drosto ei hun a thros gyfeiliornadau y bobl —
8
yr Yspryd Glân yn hyspysu hyn, nad yw y ffordd i'r Cysegr wedi ei hamlygu eto, tra y mae y tabernacl cyntaf yn sefyll,
9
a hyn sydd gyffelybiaeth am yr amser presennol, yn ol yr hon y mae rhoddion ac aberthau yn cael eu hoffrymu, nas gallant, o ran cydwybod, berffeithio yr addolydd,
10
yn unig ar sail bwydydd a diodydd, ac amrywiol olchiadau, — ordeiniadau y cnawd, wedi eu gosod hyd adeg diwygiad.
11
Eithr Crist wedi dyfod atom, fel Arch‐offeiriad y daionus bethau i ddyfod, trwy y tabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o'r greadigaeth hon;
12
ac nid trwy waed geifr a lloi, ond trwy ei waed ei hun, a aeth i mewn, unwaith am byth, i'r Cysegr, wedi ennill prynedigaeth dragwyddol.
13
Canys os ydyw gwaed geifr a theirw a lludw anner yn taenellu y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i lanhâd y cnawd,
14
pa faint mwy y bydd i waed y Crist, yr hwn trwy yr Ysbryd tragwyddol a'i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, lanhau eich cydwybod oddiwrth weithredoedd meirwon i wasanaethu y Duw byw?
15
Ac o herwydd hyn y mae Efe yn Gyfryngwr Cyfamod Newydd fel wedi i farwolaeth gymeryd lle gyda golwg ar brynedigaeth oddiwrth y troseddau yn erbyn y cyfamod cyntaf, y cai y rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol.
16
Canys lle y mae cymun‐rodd, rhaid dygwyddo marwolaeth y cymun‐roddwr.
17
Canys wedi marw dynion y mae cymun‐rodd yn sicr; canys nis gall fod un amser mewn grym pan mae y cymun‐roddwr yn fyw.
18
O herwydd paham nid yw hyd y nod y cyfamod cyntaf wedi ei gysegru heb waed.
19
Canys wedi llefaru pob gorchymyn yn ol y Gyfraith gan Moses wrth yr holl bobl, efe a gymerodd waed lloi a geifr, gyda dwfr a gwlan porphor ac isop, ac a daenellodd y llyfr ei hun, ynghyd a'r holl bobl,
20
gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y cyfamod a orchymynodd Duw mewn perthynas i chwi.
21
A'r tabernacl, a holl lestri y gwasanaeth a daenellodd efe â'r gwaed yr un modd.
22
A bron y dywedwn mai â gwaed y glanhêir pob peth yn ol y Gyfraith, ac ar wahan i dywallt gwaed nid oes maddeuant.
23
Rhaid oedd gan hynny i'r adluniau sydd yn y nefoedd gael eu glanhau â'r pethau hyn, eithr y pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na'r rhai hyn.
24
Canys nid i gysegr o waith llaw, gwrthlun y gwir gysegr, yr aeth Crist i mewn, ond i'r nef ei hun, i ymddangos ger bron wyneb Duw drosom ni;
25
nac eto fel yr offrymai ei hun yn fynych fel y mae yr Arch‐offeiriad yn myned i mewn i'r Cysegr bob blwyddyn â gwaed dyeithr;
26
pe amgen rhaid fuasai iddo fod wedi dyoddef yn fynych er seiliad y byd; ond yn awr, unwaith am byth, yng nghyflawniad yr oesoedd, y mae efe wedi ei amlygu er dileu pechod trwy ei aberth ei hun.
27
Ac megys y penodir i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn,
28
felly hefyd y Crist, wedi ei offrymu unwaith, i ddwyn pechodau llawer, a welir yr ail waith heb bechod, gan y rhai sydd yn awyddus‐ddisgwyl am dano, er iachawdwriaeth.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13