bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Hebrews 10
Hebrews 10
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 11 →
1
Canys gan mai cysgod sydd gan y Gyfraith o ddaionus bethau i ddyfod, ac nid delw y gwrthrychau, nis gallant gyda'r un aberthau flwyddyn ar ol blwyddyn, y rhai a offrymant yn wastadol, byth berffeithio y rhai a agoshânt.
2
Pe amgen, oni pheidiasent â'u hoffrymu, gan na fyddai mwyach gydwybod o bechodau gan yr addolwyr, gan eu bod wedi eu glanhâu unwaith am byth?
3
Eithr yn yr aberthau hynny, y mae adgoffâd o bechodau bob blwyddyn;
4
canys amhosibl yw i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau.
5
Gan hynny, pan yn dyfod i'r byd, efe a ddywed, Aberth ac offrwm nis mynnaist, Ond corph a gymhwysaist i mi;
6
Mewn cyfan boeth‐offrymau a phech‐aberthau ni'th foddlonwyd;
7
Yna dywedais, Wele fi wedi dyfod, (Yn rhôl y llyfr yr ysgrifennwyd am danaf). I wneuthur dy ewyllys di, O Dduw.
8
Wrth ddywedyd uchod, Aberthau ac offrymau a chyfan boeth‐offrymau a phech‐aberthau nis mynnaist, ac ni'th foddlonwyd ynddynt, y rhai yn ol y Gyfraith a offrymir,
9
yna y dywedodd, Wele fi wedi dyfod i wneuthur dy ewyllys di, yn hyn y mae yn tynnu ymaith y cyntaf fel y sefydlo yr ail.
10
Ac yn yr ewyllys hwn yr ydym ni wedi ein sancteiddio trwy offrymiad corph Iesu Grist unwaith am byth.
11
Ac y mae pob offeiriad yn wir yn sefyll o ddydd i ddydd yn gwasanaethu ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai ni allant byth dynnu ymaith bechodau;
12
ond hwn, wedi iddo offrymu un aberth dros bechodau, am byth a eisteddodd ar ddeheulaw Duw;
13
o hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion yn droedfaingc i'w draed.
14
Canys âg un offrwm y mae wedi perffeithio am byth y rhai sydd yn cael eu sancteiddio.
15
Ond tystiolaetha yr Yspryd Glân hefyd i ni, canys wedi iddo ddywedyd,
16
Hwn yw y Cyfamod a amodaf â hwynt, Ar ol y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, Gan roddi fy nghyfreithiau yn eu calon, Mi a'u hysgrifennaf hefyd ar eu meddwl,
17
Ychwanega, A'u pechodau a'u hanwireddau ni chofiaf mwy.
18
Yn awr lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm am bechod.
19
Am, hynny, frodyr, gan fod gennym hyfder i fyned i mewn i'r Cysegr yng ngwaed yr Iesu,
20
yr hon a agorodd efe i ni yn ffordd newydd a byw, trwy y llen, hynny yw, ei gnawd ef,
21
ac offeiriad mawr ar dŷ Dduw,
22
nesâwn a chalon gywir mewn llawn‐sicrwydd ffydd, ein calonnau wedi eu taenellu oddiwrth gydwybod ddrwg, a'n corph wedi ei olchi â dwfr glân.
23
Daliwn afael yng nghyffes ein gobaith fel y byddo yn ddiysgog; canys ffyddlawn yw yr hwn a addawodd;
24
ac ystyriwn ein gilydd er ein cyffroi i gariad a gweithredoedd hardd‐deg;
25
heb roddi i fyny y cynnulliad o honom ein hunain ynghyd, megys y mae arfer rhai, eithr gan galonogi ein gilydd, a hynny yn fwy, o gymaint a'ch bod yn gweled y Dydd yn nesâu.
26
Canys pan o'n gwirfodd y parhawn i bechu, ar ol derbyn llawn‐wybodaeth o'r gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau yn aros mwyach,
27
eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farn, ac angerdd tân ar fedr ysu y gwrthwynebwyr.
28
Un a ddirmygo Gyfraith Moses sydd yn marw heb dosturi ar air dau neu dri o dystion;
29
pa faint gwaeth cospedigaeth, dybygwch, y bernir haeddu o'r hwn a fathrodd dan draed Fab Duw, ac a gyfrifodd waed y Cyfamod, yn yr hwn y sancteiddiwyd ef, yn beth aflan, ac a sarhâodd Yspryd y gras?
30
Canys adwaenom yr hwn a ddywedodd, I mi y perthyn dial, myfi a dalaf. A thrachefn, Yr Arglwydd a farna ei bobl.
31
Peth ofnadwy yw syrthio i ddwylaw Duw byw.
32
Ond gelwch i'ch cof y dyddiau yn yr amser o'r blaen yn y rhai, wedi eich goleuo, chwi a ddaliasoch i fyny dan ymdrechfa fawr o ddyoddefiadau;
33
weithiau trwy gael eich gwneuthur yn ddrych cyhoeddus mewn gwaradwyddiadau a gorthrymderau, weithiau trwy ddyfod yn gyfranogion â'r rhai oeddent yn yr un cyflwr.
34
Canys chwi a gyd‐ymdeimlasoch â'r rhai mewn rhwymau, ac a gymerasoch yspeilio eich meddiannau gyda llawenydd, gan wybod fod gennych eich hunain yn feddiant gwell ac arosol.
35
Am hynny na fwriwch ymaith eich hyfder, yr hwn sydd gyfryw ag y mae iddo daledigaeth fawr.
36
Canys y mae angen hir‐ymaros arnoch, fel, gan wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid.
37
Canys eto ychydig bychan bach, Yr Hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda.
38
Eithr fy ngŵr cyfiawn a fydd byw trwy ffydd, Ac os tyn yn ol, nid ymhyfryda fy enaid ynddo.
39
Eithr nid ydym ni o'r rhai sydd yn tynnu yn ol i golledigaeth, eithr o'r rhai sydd ganddynt ffydd i gaffaeliad enaid.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13