bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ezekiel 16
Ezekiel 16
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 17 →
1
Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2
"Fab dyn, gwna i Jerwsalem sylweddoli ei ffieidd-dra,
3
a dywed wrthi, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth Jerwsalem: O wlad Canaan yr wyt o ran dy dras a'th enedigaeth; Amoriad oedd dy dad, a'th fam yn Hethiad.
4
Ac am dy enedigaeth, ar ddydd dy eni ni thorrwyd llinyn dy fogail, na'th olchi mewn du373?r i'th lanhau, na'th rwbio halen, na'th rwymo chadach.
5
Ni thosturiodd neb wrthyt i wneud yr un o'r pethau hyn i ti, nac i drugarhau wrthyt; ond fe'th luchiwyd allan i'r maes, oherwydd fe'th ffieiddiwyd y diwrnod y ganwyd di.
6
"'Yna fe ddeuthum heibio iti, a'th weld yn ymdrybaeddu yn dy waed, a dywedais wrthyt yn dy waed, "Bydd fyw."
7
Gwneuthum iti dyfu fel planhigyn y maes; tyfaist a chynyddu a chyrraedd aeddfedrwydd. Chwyddodd dy fronnau a thyfodd dy wallt, er dy fod yn llwm a noeth.
8
"'Deuthum heibio iti drachefn a sylwi arnat, a gweld dy fod yn barod am gariad; taenais gwr fy mantell drosot a chuddio dy noethni. Tynghedais fy hun iti, a gwneud cyfamod thi, medd yr Arglwydd DDUW, a daethost yn eiddo imi.
9
Golchais di mewn du373?r a glanhau'r gwaed oddi arnat, a'th eneinio ag olew.
10
Gwisgais di mewn brodwaith a rhoi iti sandalau lledr; rhoddais liain main amdanat a'th orchuddio sidan.
11
Addurnais di thlysau, a rhoi breichledau am dy freichiau a chadwyn am dy wddf;
12
rhoddais fodrwy yn dy drwyn, tlysau ar dy glustiau a choron hardd ar dy ben.
13
Yr oeddit wedi dy addurno ag aur ac arian, a'th wisgo lliain, sidan a brodwaith; yr oeddit yn bwyta peilliaid, ml ac olew; yr oeddit yn hynod o brydferth, a chodaist i fod yn frenhines.
14
Aethost yn enwog ymysg y cenhedloedd o achos dy brydferthwch, oherwydd fe'i perffeithiwyd trwy'r harddwch a roddais i arnat, medd yr Arglwydd DDUW.
15
"'Ond aethost i ymddiried yn dy brydferthwch, a phuteiniaist oherwydd dy enwogrwydd; yr oeddit yn cynnig dy gorff i unrhyw un a i heibio, ac yntau'n ei gymryd.
16
Cymeraist rai o'th ddillad, a gwneud i ti dy hun uchelfeydd lliwgar, a phuteiniaist yno; ni fu peth fel hyn, ac ni fydd ychwaith.
17
Cymeraist hefyd dy dlysau prydferth, y tlysau o aur ac arian a roddais iti, a gwnaethost i ti dy hun eilunod gwryw a phuteinio gyda hwy;
18
cymeraist dy ddillad o frodwaith i'w gorchuddio, ac offrymu fy olew a'm harogldarth o'u blaenau.
19
A'r bwyd a roddais iti oherwydd bwydais di pheilliaid, olew a ml fe'i rhoddaist o'u blaenau yn arogldarth hyfryd; fel hyn y bu, medd yr Arglwydd DDUW.
20
Cymeraist dy feibion a'th ferched, a oedd yn blant i mi, a'u hoffrymu yn fwyd iddynt; a oedd hyn yn llai o beth na'th buteindra?
21
Lleddaist fy mhlant a'u haberthu i'r eilunod.
22
Ac yn dy holl ffieidd-dra a'th buteindra, ni chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, pan oeddit yn llwm a noeth ac yn ymdrybaeddu yn dy waed.
23
"'Wedi dy holl ddrygioni (Gwae! Gwae di! medd yr Arglwydd DDUW),
24
adeiledaist i ti dy hun lwyfan, a gwnaethost iti uchelfa ym mhob sgwr.
25
Ar ben pob stryd codaist dy uchelfa, a halogi dy brydferthwch gan ledu dy goesau i bob un a i heibio, a phuteinio'n ddiddiwedd.
26
Puteiniaist gyda'r Eifftiaid, dy gymdogion trachwantus, ac ennyn fy nig 'th buteindra diddiwedd.
27
Estynnais innau fy llaw yn dy erbyn, a lleihau dy diriogaeth; rhoddais di i ddymuniad dy elynion, merched y Philistiaid, a gywilyddiwyd gan dy ffordd anllad.
28
Puteiniaist hefyd gyda'r Asyriaid, am dy fod heb dy ddigoni; ac wedi iti buteinio, nid oeddit eto wedi cael digon.
29
Cynyddaist dy buteindra hyd at Caldea, gwlad o fasnachwyr, ac eto ni chefaist ddigon.
30
"'Mor ddolurus yw dy galon, medd yr Arglwydd DDUW, dy fod yn gwneud yr holl bethau hyn, ac yn gweithredu fel putain ddigywilydd!
31
Pan godaist dy lwyfan ar ben pob stryd, a gwneud dy uchelfa ym mhob sgwr, eto nid oeddit yn union fel putain, gan dy fod yn dirmygu tl.
32
O wraig o butain, cymeraist estroniaid yn lle dy u373?r.
33
Derbyn tl y mae pob putain, ond rhoi tl yr wyt ti i'th holl gariadon, gan eu llwgrwobrwyo i ddod atat o bob man i buteinio gyda thi.
34
Yr wyt yn wahanol i wragedd eraill yn dy buteindra; nid oes neb yn dy geisio di; yr wyt yn rhoi tl yn lle derbyn tl, a dyna'r gwahaniaeth.
35
"'Felly, butain, gwrando ar air yr ARGLWYDD.
36
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Am iti fod yn gwbl anllad, a dangos dy noethni wrth buteinio gyda'th gariadon, ac oherwydd dy holl eilunod ffiaidd, ac am iti roi iddynt waed dy blant,
37
felly, fe gasglaf ynghyd dy holl gariadon y cefaist bleser gyda hwy, y rhai yr oeddit yn eu caru a'r rhai yr oeddit yn eu casu. Fe'u casglaf ynghyd yn dy erbyn o bob man, ac fe'th ddinoethaf o'u blaenau, ac fe welant dy holl noethni.
38
Rhof arnat gosb godinebwyr a rhai'n tywallt gwaed, a dwyn arnat waed llid ac eiddigedd.
39
A rhof di yn nwylo dy gariadon; bwriant i lawr dy lwyfan a dinistrio dy uchelfeydd, tynnant dy ddillad oddi amdanat, a chymryd dy dlysau hardd a'th adael yn llwm a noeth.
40
Dnt thyrfa yn dy erbyn, ac fe'th labyddiant cherrig a'th rwygo 'u cleddyfau.
41
Llosgant dy dai, a rhoi cosb arnat yng ngu373?ydd llawer o wragedd. Rhof ddiwedd ar dy buteindra, ac ni fyddi'n talu eto i'th gariadon.
42
Yna gwnaf i'm llid gilio, a throf ymaith fy eiddigedd oddi wrthyt; ymdawelaf, ac ni ddigiaf rhagor.
43
Am iti anghofio dyddiau dy ieuenctid, a'm cynddeiriogi 'r holl bethau hyn, felly byddaf finnau'n peri i'r hyn a wnaethost ddod ar dy ben di dy hun, medd yr Arglwydd DDUW. Oni wnaethost anlladrwydd yn ogystal 'th holl ffieidd-dra?
44
"'Bydd pob un sy'n defnyddio diarhebion yn dweud y ddihareb hon amdanat: "Fel y fam y bydd y ferch."
45
Yr wyt ti'n ferch i'th fam, a gasaodd ei gu373?r a'i phlant, ac yn chwaer i'th chwiorydd, a gasaodd eu gwu375?r a'u plant; Hethiad oedd eich mam, a'ch tad yn Amoriad.
46
Dy chwaer hynaf oedd Samaria, a oedd yn byw gyda'i merched tua'r gogledd, a'th chwaer ieuengaf oedd Sodom, a oedd yn byw gyda'i merched tua'r de.
47
Nid yn unig fe gerddaist yn eu ffyrdd hwy a dilyn eu ffieidd-dra, ond ymhen ychydig amser yr oeddit yn fwy llygredig na hwy yn dy holl ffyrdd.
48
Cyn wired 'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, ni wnaeth dy chwaer Sodom a'i merched fel y gwnaethost ti a'th ferched.
49
Hyn oedd drygioni dy chwaer Sodom: yr oedd hi a'i merched yn falch, yn gorfwyta, ac mewn esmwythyd diofal; ond ni roesant gymorth i'r tlawd anghenus.
50
Bu iddynt ymddyrchafu a gwneud ffieidd-dra o'm blaen; felly fe'u symudais ymaith, fel y gwelaist.
51
Ni wnaeth Samaria chwaith hanner dy ddrygioni di. Gwnaethost fwy o ffieidd-dra na hwy, a pheri i'th chwiorydd ymddangos yn gyfiawn ar gyfrif yr holl bethau ffiaidd a wnaethost ti.
52
Derbyn di felly warth, oherwydd sicrheaist ddedfryd ffafriol i'th chwiorydd; am fod dy ddrygioni di yn fwy ffiaidd na'r eiddo hwy, ymddangosant hwy yn fwy cyfiawn na thi. Felly, cywilyddia a derbyn dy warth, oherwydd gwnaethost i'th chwiorydd ymddangos yn gyfiawn.
53
"'Eto, adferaf eu llwyddiant llwyddiant Sodom a'i merched, a llwyddiant Samaria a'i merched ac adferaf dy lwyddiant dithau gyda hwy,
54
er mwyn iti dderbyn dy warth, a bod arnat gywilydd o'r cyfan a wnaethost, er iti ddwyn cysur iddynt hwy.
55
Bydd dy chwiorydd Sodom a Samaria, a'u merched, yn dychwelyd i'w cyflwr blaenorol, a byddi dithau a'th ferched yn dychwelyd i'ch cyflwr blaenorol.
56
Nid oedd unrhyw sn gennyt am dy chwaer Sodom yn nydd dy falchder,
57
cyn datguddio dy ddrygioni. Ond yn awr daethost fel hithau, yn destun gwaradwydd i ferched Edom a'r holl rai sydd o'u hamgylch, ac i ferched Philistia, sef yr holl rai o'th amgylch sy'n dy ddilorni.
58
Byddi'n derbyn cosb dy anlladrwydd a'th ffieidd-dra, medd yr ARGLWYDD.
59
"'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwnaf thi yn l dy haeddiant, am iti ddiystyru llw a thorri cyfamod;
60
eto fe gofiaf fi fy nghyfamod thi yn nyddiau dy ieuenctid, a sefydlaf gyfamod tragwyddol thi.
61
Yna, fe gofi dy ffyrdd, a chywilyddio pan dderbynni dy chwiorydd, y rhai hu375?n na thi a'r rhai iau na thi; rhof hwy yn ferched i ti, ond nid oherwydd fy nghyfamod thi.
62
Felly, sefydlaf fy nghyfamod thi, a byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
63
Fe gofi a chywilyddio, ac nid agori dy enau rhagor, oherwydd dy warth pan faddeuaf fi iti am y cyfan a wnaethost, medd yr Arglwydd DDUW.'"
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48