bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ezekiel 43
Ezekiel 43
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 42
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 44 →
1
Yna aeth mi at y porth oedd yn wynebu tua'r dwyrain,
2
a gwelais ogoniant Duw Israel yn dod o'r dwyrain. Yr oedd ei lais fel su373?n llawer o ddyfroedd, ac yr oedd y ddaear yn disgleirio gan ei ogoniant.
3
Yr oedd y weledigaeth yn debyg i'r un a gefais pan ddaeth i ddinistrio'r ddinas, ac i'r un a gefais wrth afon Chebar; a syrthiais ar fy wyneb.
4
Fel yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn dod i mewn i'r deml trwy'r porth oedd yn wynebu tua'r dwyrain,
5
cododd yr ysbryd fi a mynd mi i'r cyntedd nesaf i mewn, ac yr oedd y deml yn llawn o ogoniant yr ARGLWYDD.
6
Fel yr oedd y dyn yn sefyll yn f'ymyl, clywais rywun yn siarad mi o'r deml,
7
ac yn dweud wrthyf, "Fab dyn, dyma le fy ngorsedd, lle gwadnau fy nhraed, a'r lle y byddaf yn trigo ymhlith pobl Israel am byth. Ni fydd yr Israeliaid na'u brenhinoedd byth eto'n halogi fy enw sanctaidd trwy eu puteindra a'r delwau o'u brenhinoedd wedi iddynt farw.
8
Wrth iddynt osod eu rhiniog wrth ochr fy rhiniog i, a physt eu pyrth wrth ochr pyst fy mhyrth i, heb ddim ond mur yn ein gwahanu, bu iddynt halogi fy enw sanctaidd trwy eu ffieidd-dra; a dinistriais hwy yn fy nig.
9
Yn awr, bydded iddynt droi ymaith oddi wrthyf eu puteindra a'r delwau o'u brenhinoedd, ac fe drigaf yn eu plith am byth.
10
"Fab dyn, disgrifia'r deml i bobl Israel, er mwyn iddynt gywilyddio am eu camweddau. Bydded iddynt ystyried y cynllun,
11
ac os byddant yn cywilyddio am y cyfan a wnaethant, dangos iddynt batrwm y deml, ei chynllun, ei hagoriadau a'i mynedfeydd, a'i holl batrwm. Gwna iddynt wybod ei holl ddeddfau a'i holl gyfreithiau; ysgrifenna hwy yn eu gu373?ydd, er mwyn iddynt ddilyn ei phatrwm a chadw ei deddfau.
12
Dyma fydd cyfraith y deml: bydd yr holl diriogaeth oddi amgylch ar ben y mynydd yn gwbl sanctaidd. Dyna gyfraith y deml.
13
"Dyma fesuriadau'r allor mewn cufyddau hir, sef cufydd a dyrnfedd: bydd ei gwaelod yn gufydd o uchder ac yn gufydd o led, gyda chantel rhychwant o led o amgylch yr ymyl. A dyma fydd uchder yr allor:
14
o'r gwaelod ar y llawr hyd y silff isaf, bydd yn ddau gufydd, ac yn gufydd o led; o'r silff leiaf hyd y silff fwyaf bydd yn bedwar cufydd, ac yn gufydd o led.
15
Bydd aelwyd yr allor yn bedwar cufydd o uchder, a bydd pedwar corn yn codi i fyny oddi ar yr aelwyd.
16
Bydd aelwyd yr allor yn sgwr, deuddeg cufydd o hyd a deuddeg cufydd o led.
17
Bydd y silff uchaf hefyd yn sgwr, yn bedwar cufydd ar ddeg o hyd a phedwar cufydd ar ddeg o led, gyda chantel o hanner cufydd, a gwaelod o gufydd oddi amgylch. Bydd grisiau'r allor yn wynebu tua'r dwyrain."
18
Yna dywedodd wrthyf, "Fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyma'r deddfau ynglu375?n ag aberthu poeth-offrymau a thaenellu gwaed ar yr allor, pan fydd wedi ei hadeiladu:
19
yn aberth dros bechod byddi'n rhoi bustach ifanc i'r offeiriaid sy'n Lefiaid o deulu Sadoc, oherwydd hwy fydd yn dynesu ataf i'm gwasanaethu, medd yr Arglwydd DDUW.
20
Byddi'n cymryd o'i waed ac yn ei roi ar bedwar corn yr allor, ar bedair cornel y silff uchaf, ac ar y cantel oddi amgylch; felly byddi'n puro'r allor ac yn gwneud cymod drosti.
21
Byddi'n cymryd bustach yr aberth dros bechod ac yn ei losgi yn y lle penodol yn y deml, y tu allan i'r cysegr.
22
Ar yr ail ddiwrnod yr wyt i offrymu bwch gafr di-nam yn aberth dros bechod, a phuro'r allor, fel y purwyd hi 'r bustach.
23
Wedi iti orffen puro'r allor, yr wyt i aberthu bustach ifanc di-nam, a hwrdd di-nam o'r praidd.
24
Offryma hwy i'r ARGLWYDD, a bydded i'r offeiriaid daenellu halen drostynt a'u haberthu'n boethoffrwm i'r ARGLWYDD.
25
Am saith diwrnod tyrd bwch gafr bob dydd yn aberth dros bechod; tyrd hefyd bustach ifanc a hwrdd o'r praidd, y ddau yn ddi-nam.
26
Am saith diwrnod byddant yn gwneud cymod dros yr allor ac yn ei glanhau, ac felly'n ei chysegru.
27
Ar ddiwedd y dyddiau hyn, sef o'r wythfed diwrnod ymlaen, bydd yr offeiriaid yn aberthu eich poethoffrymau a'ch heddoffrymau ar yr allor; ac yna fe'ch derbyniaf, medd yr Arglwydd DDUW."
← Chapter 42
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 44 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48