bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ezekiel 20
Ezekiel 20
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 21 →
1
Ar y degfed dydd o'r pumed mis yn y seithfed flwyddyn, daeth rhai o henuriaid Israel i ymofyn 'r ARGLWYDD, ac yr oeddent yn eistedd o'm blaen.
2
Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
3
"Fab dyn, llefara wrth henuriaid Israel a dywed wrthynt: 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Ai i ymofyn mi y daethoch? Cyn wired 'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, ni adawaf i chwi ymofyn mi.'
4
A wnei di eu barnu? A wnei eu barnu, fab dyn? Pr iddynt wybod am ffieidd-dra eu hynafiaid,
5
a dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yn y dydd y dewisais Israel, tyngais wrth ddisgynyddion tylwyth Jacob, a datguddiais fy hun iddynt yng ngwlad yr Aifft; tyngais wrthynt a dweud, "Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw."
6
Y diwrnod hwnnw tyngais wrthynt y byddwn yn dod hwy allan o wlad yr Aifft i'r wlad a geisiais iddynt, gwlad yn llifeirio o laeth a ml, y decaf o'r holl wledydd.
7
Dywedais wrthynt, "Pob un ohonoch, bwriwch ymaith y pethau atgas y mae eich llygaid yn syllu arnynt, a pheidiwch 'ch halogi eich hunain ag eilunod yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw."
8
"'Ond bu iddynt wrthryfela yn f'erbyn a gwrthod gwrando arnaf; ni wnaeth yr un ohonynt fwrw ymaith y pethau atgas yr oedd eu llygaid yn syllu arnynt, na gadael eilunod yr Aifft. Bwriadwn dywallt fy llid a dod 'm dicter arnynt yng ngwlad yr Aifft;
9
eto gweithredais er mwyn fy enw rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd yr oeddent yn eu mysg, a datguddiais fy hun yn eu gu373?ydd trwy fynd ag Israel allan o wlad yr Aifft.
10
Felly euthum hwy allan o wlad yr Aifft a mynd hwy i'r anialwch.
11
Rhoddais iddynt fy neddfau, a pheri iddynt wybod fy marnau; pwy bynnag a'u gwna, bydd fyw trwyddynt.
12
Rhoddais iddynt hefyd fy Sabothau yn arwydd rhyngom, er mwyn iddynt wybod fy mod i, yr ARGLWYDD, yn eu sancteiddio.
13
"'Ond gwrthryfelodd tylwyth Israel yn f'erbyn yn yr anialwch. Nid oeddent yn dilyn fy neddfau, ac yr oeddent yn gwrthod fy marnau er mai'r sawl a'u gwna a fydd byw ac yn halogi'n llwyr fy Sabothau. Yna bwriadwn dywallt fy llid arnynt yn yr anialwch a'u difetha;
14
eto gweithredais er mwyn fy enw, rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd y deuthum hwy allan yn eu gu373?ydd.
15
Tyngais wrthynt yn yr anialwch na fyddwn yn dod hwy i'r wlad a roddais iddynt, gwlad yn llifeirio o laeth a ml, y decaf o'r holl wledydd,
16
oherwydd iddynt wrthod fy marnau a pheidio chadw fy neddfau, ond halogi fy Sabothau, am fod eu calon yn dilyn eu heilunod.
17
Eto edrychais mewn tosturi arnynt, rhag eu dinistrio, ac ni roddais ddiwedd arnynt yn yr anialwch.
18
Dywedais wrth eu plant yn yr anialwch, "Peidiwch dilyn deddfau eich rhieni, na chadw eu barnau, na halogi eich hunain 'u heilunod.
19
Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw; dilynwch fy neddfau a gwylio eich bod yn cadw fy marnau.
20
Cadwch fy Sabothau'n sanctaidd, iddynt fod yn arwydd rhyngom, a chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw."
21
"'Ond gwrthryfelodd eu plant yn fy erbyn. Nid oeddent yn dilyn fy neddfau, nac yn cadw fy marnau er mai'r sawl a'u gwna a fydd byw ac yr oeddent yn halogi fy Sabothau. Yna bwriadwn dywallt fy llid a dod 'm dicter arnynt yn yr anialwch.
22
Ond ateliais fy llaw a gweithredais er mwyn fy enw, rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd y deuthum hwy allan yn eu gu373?ydd.
23
Tyngais wrthynt yn yr anialwch y byddwn yn eu gwasgaru ymysg y cenhedloedd ac yn eu chwalu trwy'r gwledydd,
24
oherwydd iddynt beidio gwneud fy marnau, ond gwrthod fy neddfau, halogi fy Sabothau, a throi eu llygaid at eilunod eu hynafiaid.
25
Yn wir, rhoddais iddynt ddeddfau heb fod yn dda, a barnau na allent fyw wrthynt;
26
gwneuthum iddynt eu halogi eu hunain 'u rhoddion trwy aberthu pob cyntafanedig, er mwyn imi eu brawychu, ac er mwyn iddynt wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'
27
"Felly, fab dyn, llefara wrth du375? Israel a dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yn hyn hefyd y bu i'ch hynafiaid fy nghablu a bod yn anffyddlon imi.
28
Pan ddeuthum hwy i'r wlad yr oeddwn wedi tyngu y byddwn yn ei rhoi iddynt, a hwythau'n gweld bryn uchel neu bren deiliog, fe offryment aberthau yno a chyflwyno rhoddion a'm digiai; rhoddent yno eu harogldarth peraidd, a thywallt eu diodoffrwm.
29
Yna dywedais wrthynt, "Beth yw'r uchelfa hon yr ewch iddi?" A gelwir hi yn Bama hyd y dydd hwn.'
30
"Am hynny, dywed wrth du375? Israel, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: A ydych yn eich halogi eich hunain fel y gwnaeth eich hynafiaid, a phuteinio gyda'u heilunod atgas?
31
Pan gyflwynwch eich rhoddion, a gwneud i'ch plant fynd trwy'r tn, yr ydych yn eich halogi eich hunain 'ch holl eilunod hyd heddiw. Sut y gadawaf i chwi ymofyn mi, du375? Israel? Cyn wired 'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, ni adawaf i chwi ymofyn mi.
32
"'Yr ydych yn dweud, "Byddwn fel y cenhedloedd, fel pobloedd y gwledydd, yn addoli pren a charreg"; ond yn sicr ni ddigwydd yr hyn sydd yn eich meddwl.
33
Cyn wired 'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, llywodraethaf drosoch llaw gref, braich estynedig ac llid tywalltedig.
34
Dof chwi o blith y cenhedloedd, a'ch casglu o'r gwledydd lle gwasgarwyd chwi, llaw gref, braich estynedig ac llid tywalltedig.
35
Dof chwi i anialwch y cenhedloedd a'ch barnu yno wyneb yn wyneb.
36
Fel y bernais eich hynafiaid yn anialwch gwlad yr Aifft, felly y barnaf chwithau, medd yr Arglwydd DDUW.
37
Gwnaf i chwi fynd heibio dan y wialen, a'ch dwyn i rwymyn y cyfamod.
38
Fe garthaf o'ch plith y rhai sy'n gwrthryfela ac yn codi yn f'erbyn; er imi ddod hwy o'r wlad lle maent yn aros, eto nid nt i dir Israel. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'
39
"A chwithau, du375? Israel, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Aed pob un ohonoch i addoli ei eilunod. Yna byddwch yn siu373?r o wrando arnaf fi, ac ni fyddwch yn halogi fy enw sanctaidd 'ch rhoddion ac 'ch eilunod.
40
Oherwydd ar fy mynydd sanctaidd, ar fynydd uchel Israel, medd yr Arglwydd DDUW, y bydd holl du375? Israel, a phob un sydd yn y wlad, yn fy addoli, ac yno y derbyniaf hwy. Yno y ceisiaf eich aberthau a'ch offrymau gorau, ynghyd 'ch holl aberthau sanctaidd.
41
Fe'ch derbyniaf chwi fel arogldarth peraidd, pan ddof chwi allan o blith y cenhedloedd, a'ch casglu o'r gwledydd lle gwasgarwyd chwi, a sancteiddiaf fy hun ynoch chwi yng ngu373?ydd y cenhedloedd.
42
Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan ddof chwi i dir Israel, y wlad y tyngais y byddwn yn ei rhoi i'ch hynafiaid.
43
Yno byddwch yn cofio eich ffyrdd, a'r holl bethau a wnaethoch i'ch halogi eich hunain, a byddwch yn eich casu eich hunain am yr holl ddrygioni a wnaethoch.
44
Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan fyddaf yn ymwneud chwi er mwyn fy enw, ac nid yn l eich ffyrdd drygionus a'ch gweithredoedd llygredig, O du375? Israel, medd yr Arglwydd DDUW."
45
Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
46
"Fab dyn, tro dy wyneb i gyfeiriad Teman, a llefara i gyfeiriad y Negef; proffwyda yn erbyn tir coediog y Negef.
47
Dywed wrth goedwig y de, 'Gwrando air yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyma fi'n cynnau tn ynot, ac fe ysir dy holl goed, yr ir a'r crin fel ei gilydd. Ni ddiffoddir y fflam danllyd, ond fe losgir ganddi bob wyneb o'r de i'r gogledd.
48
Bydd pawb yn gweld mai myfi'r ARGLWYDD a fu'n ei chynnau, ac nis diffoddir.'"
49
A dywedais, "Och! Fy Arglwydd DDUW, y maent yn dweud amdanaf, 'Onid llefaru damhegion y mae?'"
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48