bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ezekiel 28
Ezekiel 28
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 29 →
1
Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2
"Fab dyn, dywed wrth lywodraethwr Tyrus, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Ym malchder dy galon fe ddywedaist, "Yr wyf yn dduw, ac yn eistedd ar orsedd y duwiau yng nghanol y mr." Ond dyn wyt, ac nid duw, er iti dybio dy fod fel duw
3
yn ddoethach yn wir na Daniel, heb yr un gyfrinach yn guddiedig oddi wrthyt.
4
Trwy dy ddoethineb a'th ddeall enillaist iti gyfoeth, a chael aur ac arian i'th ystordai.
5
Trwy dy fedr mewn masnach cynyddaist dy gyfoeth, ac aeth dy galon i ymfalcho ynddo.'
6
"Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: 'Oherwydd iti dybio dy fod fel duw,
7
fe ddygaf estroniaid yn dy erbyn, y fwyaf didostur o'r cenhedloedd; tynnant eu cleddyfau yn erbyn gwychder dy ddoethineb, a thrywanu d'ogoniant.
8
Bwriant di i lawr i'r pwll, a byddi farw o'th glwyfau yn nyfnderoedd y mr.
9
A ddywedi, "Duw wyf fi," yng ngu373?ydd y rhai sy'n dy ladd? Dyn wyt, ac nid duw, yn nwylo'r rhai sy'n dy drywanu.
10
Byddi'n profi marwolaeth y dienwaededig trwy ddwylo estroniaid. Myfi a lefarodd,' medd yr Arglwydd DDUW."
11
Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
12
"Fab dyn, cod alarnad am frenin Tyrus a dywed wrtho, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr oeddit yn esiampl o berffeithrwydd, yn llawn doethineb, a pherffaith dy brydferthwch.
13
Yr oeddit yn Eden, gardd Duw, a phob carreg werthfawr yn d'addurno rhuddem, topas ac emrallt, eurfaen, onyx a iasbis, saffir, glasfaen a beryl, ac yr oedd dy fframiau a'th gerfiadau i gyd yn aur; ar ddydd dy eni y paratowyd hwy.
14
Fe'th osodais gyda cherwb gwarcheidiol wedi ei eneinio; yr oeddit ar fynydd sanctaidd Duw, ac yn cerdded ymysg y cerrig tanllyd.
15
Yr oeddit yn berffaith yn dy ffyrdd o ddydd dy eni, nes darganfod drygioni ynot.
16
Fel yr amlhaodd dy fasnach fe'th lanwyd thrais, ac fe bechaist. Felly fe'th fwriais allan fel peth aflan o fynydd Duw, ac esgymunodd y cerwb gwarcheidiol di o fysg y cerrig tanllyd.
17
Ymfalchodd dy galon yn dy brydferthwch, a halogaist dy ddoethineb er mwyn d'ogoniant; lluchiais di i'r llawr, a'th adael i'r brenhinoedd edrych arnat.
18
Trwy dy droseddau aml, ac anghyfiawnder dy fasnach, fe halogaist dy gysegrleoedd; felly gwneuthum i dn ddod allan ohonot a'th ysu, a'th wneud yn lludw ar y ddaear yng ngu373?ydd pawb oedd yn edrych.
19
Y mae pob un ymhlith y bobloedd sy'n d'adnabod wedi ei syfrdanu; aethost yn ddychryn, ac ni cheir mohonot mwyach.'"
20
Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
21
"Fab dyn, tro dy wyneb tua Sidon a phroffwyda yn ei herbyn,
22
a dywed, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf yn dy erbyn, O Sidon, ac amlygaf fy ngogoniant yn dy ganol. Byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan weithredaf fy nghosb arni ac amlygu fy sancteiddrwydd ynddi.
23
Anfonaf bla iddi, a thywallt gwaed ar ei heolydd; syrth y lladdedigion o'i mewn o achos y cleddyf sydd o'i hamgylch. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'
24
"Ni fydd gan du375? Israel mwyach fieri i'w pigo na drain i'w poeni ymysg yr holl gymdogion a fu'n eu dilorni. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.
25
"Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: 'Pan gasglaf du375? Israel o fysg y bobloedd lle gwasgarwyd hwy, ac amlygu fy sancteiddrwydd ynddynt yng ngu373?ydd y cenhedloedd, cnt fyw yn eu tir eu hunain, a roddais i'm gwas Jacob.
26
Byddant yn byw'n ddiogel yno, yn codi tai ac yn plannu gwinllannoedd; byddant yn byw'n ddiogel pan fyddaf fi'n gweithredu barn ar yr holl gymdogion a fu'n eu dilorni. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw.'"
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 29 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48