bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ezekiel 21
Ezekiel 21
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 22 →
1
Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2
"Fab dyn, tro dy wyneb tua Jerwsalem, a llefara yn erbyn ei chysegr a phroffwyda yn erbyn tir Israel.
3
Dywed wrth dir Israel, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf fi yn dy erbyn; tynnaf fy nghleddyf o'i wain a thorri ymaith ohonot y cyfiawn a'r drygionus.
4
Oherwydd fy mod am dorri ymaith ohonot y cyfiawn a'r drygionus y tynnir fy nghleddyf o'i wain yn erbyn pawb o'r de i'r gogledd.
5
Yna bydd pob un yn gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi tynnu fy nghleddyf o'i wain; ni fydd yn dychwelyd yno byth eto.'
6
Ac yn awr, fab dyn, griddfan; griddfan yn chwerw o'u blaenau chalon ddrylliedig.
7
A phan ofynnant iti pam dy fod yn griddfan, fe ddywedi, 'Oherwydd y newyddion; pan ddaw, bydd pob calon yn toddi, pob llaw yn llipa, pob ysbryd yn pallu a phob glin yn ddu373?r. Fe ddigwydd, ac y mae ar ddyfod, medd yr Arglwydd DDUW.'"
8
Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
9
"Fab dyn, proffwyda a dweud, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Cleddyf! Cleddyf wedi ei hogi, a hefyd wedi ei loywi
10
wedi ei hogi er mwyn lladd, a'i loywi i fflachio fel mellten! O fy mab, fe chwifir gwialen i ddilorni pob eilun pren!
11
Rhoddwyd y cleddyf i'w loywi, yn barod i law ymaflyd ynddo; y mae'r cleddyf wedi ei hogi a'i loywi, yn barod i'w roi yn llaw y lladdwr.'
12
Gwaedda ac uda, fab dyn, oherwydd y mae yn erbyn fy mhobl, yn erbyn holl dywysogion Israel fe'u bwrir hwythau i'r cleddyf gyda'm pobl; felly trawa dy glun.
13
Oherwydd bydd profi. Pam yr ydych yn dilorni'r wialen? Ni lwydda, medd yr Arglwydd DDUW.
14
"Ac yn awr, fab dyn, proffwyda, a thrawa dy ddwylo yn erbyn ei gilydd; chwifier y cleddyf ddwywaith a thair cleddyf i ladd ydyw, cleddyf i wneud lladdfa fawr, ac y mae'n chwyrlo o'u hamgylch.
15
Er mwyn i'w calon doddi, ac i lawer ohonynt syrthio, yr wyf wedi gosod cleddyf dinistr wrth eu holl byrth. Och! Fe'i gwnaed i ddisgleirio fel mellten, ac fe'i tynnir i ladd.
16
Tro'n finiog i'r dde ac i'r chwith, i ble bynnag y pwyntia dy flaen.
17
Byddaf finnau hefyd yn taro fy nwylo, ac yna'n tawelu fy llid. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd."
18
Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
19
"Yn awr, fab dyn, noda ddwy ffordd i gleddyf brenin Babilon ddod, a'r ddwy yn arwain o'r un wlad, a gosod fynegbost ar ben y ffordd sy'n dod i'r ddinas.
20
Noda un ffordd i'r cleddyf ddod yn erbyn Rabba'r Ammoniaid, a'r llall yn erbyn Jwda a Jerwsalem gaerog.
21
Oherwydd fe oeda brenin Babilon ar y groesffordd lle mae'r ddwy ffordd yn fforchi, i geisio argoel; bydd yn bwrw coelbren saethau, yn ymofyn 'i eilunod ac yn edrych ar yr afu.
22
Yn ei law dde bydd coelbren Jerwsalem, iddo roi gorchymyn i ladd, codi bonllef rhyfel, gosod peiriannau hyrddio yn erbyn y pyrth, codi esgynfa ac adeiladu gwarchglawdd.
23
Bydd yn ymddangos yn argoel twyllodrus i'r rhai sy'n deyrngar iddo, ond bydd ef yn dwyn eu trosedd i gof ac yn eu caethiwo.
24
Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd ichwi ddwyn eich trosedd i gof trwy eich gwrthryfel agored, ac amlygu eich pechodau yn y cyfan a wnewch, oherwydd i chwi wneud hyn, fe'ch caethiwir.
25
"A thithau, dywysog annuwiol a drygionus Israel, yr un y daeth ei ddydd yn amser y gosb derfynol,
26
fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Diosg y benwisg a thyn y goron; nid fel y bu y bydd; dyrchefir yr isel a darostyngir yr uchel.
27
Adfail! Adfail! Yn adfail na fu ei bath y gwnaf hi, nes i'r hwn a'i piau trwy deg ddod, ac imi ei rhoi iddo ef.
28
"Yn awr, fab dyn, proffwyda a dywed, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth yr Ammoniaid a'u heilun: Cleddyf! Cleddyf wedi ei dynnu i ladd, wedi ei loywi i ddifa ac i ddisgleirio fel mellten!
29
Er bod gweledigaethau gau amdanat ac argoelion twyllodrus ynglu375?n thi, fe'th osodir ar yddfau'r drygionus sydd i'w lladd, sef y rhai y daeth eu dydd yn amser y gosb derfynol.
30
Yna, dychweler ef i'w wain. Yn y lle y crwyd di, yng ngwlad dy gynefin, y barnaf di.
31
Tywalltaf fy llid arnat a chwythu fy nig tanllyd drosot; rhoddaf di yn nwylo dynion creulon, dynion medrus i ddinistrio.
32
Byddi'n gynnud i dn, bydd dy waed trwy'r tir, ac ni chofir amdanat. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.'"
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48