bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ezekiel 45
Ezekiel 45
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 44
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 46 →
1
"'Pan fyddwch yn rhannu'r wlad yn etifeddiaeth trwy fwrw coelbren, neilltuwch yn dir cysegredig i'r ARGLWYDD gyfran yn mesur pum mil ar hugain o gufyddau o hyd ac ugain mil o gufyddau o led; a bydd yr holl gyfran yn sanctaidd trwyddi.
2
Bydded pum can cufydd sgwr ohono ar gyfer y cysegr, gyda hanner can cufydd yn dir agored o'i amgylch.
3
Yn y tir cysegredig mesurwch gyfran pum mil ar hugain o gufyddau o hyd a deng mil o gufyddau o led; yma y bydd y cysegr, sef y cysegr sancteiddiaf.
4
Bydd hon yn gyfran gysegredig o'r tir, ar gyfer yr offeiriaid sy'n gwasanaethu yn y cysegr ac yn dynesu i wasanaethu'r ARGLWYDD; bydd yn lle ar gyfer eu tai, yn ogystal ag yn lle sanctaidd i'r cysegr.
5
Bydd cyfran pum mil ar hugain o gufyddau o hyd a deng mil o gufyddau o led yn etifeddiaeth i'r Lefiaid sy'n gwasanaethu yn y deml, iddynt gael dinasoedd i fyw ynddynt.
6
"'Yn gyfochrog 'r tir sanctaidd, neilltuwch yn etifeddiaeth i'r ddinas gyfran pum mil o gufyddau o led a phum mil ar hugain o gufyddau o hyd; bydd hwn yn perthyn i holl du375? Israel.
7
"'Y tywysog fydd piau'r tir o boptu i'r tir cysegredig ac i'r tir sy'n perthyn i'r ddinas. Bydd ei dir ef yn ymestyn tua'r gorllewin ar un ochr, a thua'r dwyrain ar yr ochr arall, ac yn rhedeg yn gyfochrog rhan un o'r llwythau, o derfyn y gorllewin hyd derfyn y dwyrain.
8
Y tir hwn fydd etifeddiaeth y tywysog yn Israel; ac ni chaiff fy nhywysogion orthrymu fy mhobl mwyach, ond gadawant i Israel etifeddu'r wlad yn l ei llwythau.
9
"'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyna ddigon, chwi dywysogion Israel! Rhowch heibio eich trais a'ch gormes; gwnewch yr hyn sy'n gywir a chyfiawn, a pheidiwch throi fy mhobl allan o'u hetifeddiaeth, medd yr Arglwydd DDUW.
10
"'Bydded gennych gloriannau cywir, effa gywir a bath cywir.
11
Y mae'r effa a'r bath i fod o'r un maint, y bath yn pwyso degfed ran o homer a'r effa ddegfed ran o homer; yr homer fydd y safon ar gyfer y ddau.
12
Bydd y sicl yn pwyso ugain gera, a bydd eich mina yn pwyso ugain sicl a phum sicl ar hugain a phymtheg sicl.
13
"'Dyma'r offrwm a ddygwch: y chweched ran o effa o bob homer o wenith, a'r chweched ran o effa o bob homer o haidd.
14
Y rheol ynglu375?n ag olew, gan fesur yn l y bath, fydd: degfed ran o bath o bob corus; y mae corus yn cynnwys deg bath neu homer, gan fod deg bath yn gyfartal homer.
15
Hefyd un ddafad o bob diadell o ddeucant gan holl dylwythau Israel. Byddant yn fwydoffrwm, yn boethoffrwm ac yn heddoffrymau i wneud cymod dros Israel, medd yr Arglwydd DDUW.
16
Bydd holl bobl y wlad yn rhoi'r offrwm hwn i'r tywysog yn Israel.
17
Dyletswydd y tywysog fydd darparu'r poethoffrymau, y bwydoffrymau a'r diodoffrymau ar gyfer y gwyliau, y newydd-loerau a'r Sabothau, sef holl wyliau penodedig tu375? Israel. Bydd yn darparu'r aberth dros bechod, y bwydoffrwm, y poethoffrwm a'r heddoffrymau i wneud cymod dros du375? Israel.
18
"'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf, cymer fustach ifanc di-nam, a phura'r cysegr.
19
Y mae'r offeiriad i gymryd o waed yr aberth dros bechod a'i roi ar byst pyrth y deml, ar bedair cornel silff uchaf yr allor ac ar byst pyrth y cyntedd mewnol.
20
Gwna'r un modd ar y seithfed dydd o'r mis dros unrhyw un a bechodd yn ddifwriad neu trwy anwybodaeth; felly y gwnewch gymod dros y tu375?.
21
"'Ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf, cadwch y Pasg, yn u373?yl am saith diwrnod, pan fyddwch yn bwyta bara croyw.
22
Y diwrnod hwnnw y mae'r tywysog i baratoi bustach yn aberth dros bechod ar ei ran ei hun ac ar ran holl bobl y wlad.
23
Bob dydd yn ystod saith diwrnod yr u373?yl y mae i ddarparu saith bustach a saith hwrdd di-nam yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD, a bwch gafr yn aberth dros bechod.
24
Yn fwydoffrwm y mae i ddarparu effa am bob bustach ac effa am bob hwrdd, gyda hin o olew am bob effa.
25
Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis, ac am saith diwrnod yr u373?yl honno, y mae i ddarparu'r un modd, yn aberth dros bechod, boethoffrwm, bwydoffrwm ac olew.
← Chapter 44
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 46 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48