bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ezekiel 29
Ezekiel 29
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 30 →
1
Ar y deuddegfed dydd o'r degfed mis yn y ddegfed flwyddyn, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2
"Fab dyn, tro dy wyneb yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a phroffwyda yn ei erbyn ef ac yn erbyn yr Aifft gyfan.
3
Llefara a dweud, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf yn dy erbyn, O Pharo, brenin yr Aifft, y ddraig fawr sy'n ymlusgo yng nghanol ei hafonydd, ac yn dweud, "Myfi biau'r Neil, myfi a'i gwnaeth."
4
Rhof fachau yn dy safn, a gwneud i bysgod dy afonydd lynu wrth gen dy groen; tynnaf di i fyny o ganol dy afonydd gyda'u holl bysgod yn glynu wrth gen dy groen.
5
Fe'th fwriaf i'r anialwch, ti a holl bysgod dy afonydd; syrthi ar wyneb y ddaear heb dy gasglu na'th gladdu; rhof di'n fwyd i'r anifeiliaid gwylltion a'r adar.
6
Yna bydd holl drigolion yr Aifft yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, oherwydd iti fod yn ffon o frwyn i du375? Israel.
7
Pan gydiodd yr Aifft ynot 'i law, torraist eu hysgwyddau a'u niweidio; pan bwysodd arnat, torraist ac ysigo eu llwynau.
8
Felly fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf am ddwyn cleddyf arnat a thorri ymaith ohonot ddyn ac anifail; bydd gwlad yr Aifft yn anrhaith ac yn ddiffeithwch.
9
Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD. Oherwydd iti ddweud, "Myfi biau'r Neil, myfi a'i gwnaeth",
10
am hynny yr wyf yn dy erbyn ac yn erbyn dy afonydd, a gwnaf wlad yr Aifft yn ddiffeithwch llwyr ac yn dir anrheithiedig o Migdol hyd Aswan, hyd derfyn Ethiopia.
11
Ni throedia dyn nac anifail trwyddi, ac fe fydd yn anghyfannedd am ddeugain mlynedd.
12
Fe wnaf wlad yr Aifft yn anrhaith ymysg gwledydd anrheithiedig, a bydd ei dinasoedd yn anrheithiedig am ddeugain mlynedd ymysg dinasoedd anghyfannedd. Byddaf yn gwasgaru'r Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac yn eu chwalu trwy'r gwledydd.
13
"'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Ar derfyn deugain mlynedd fe gasglaf yr Eifftiaid o blith y bobloedd lle gwasgarwyd hwy,
14
ac fe adferaf lwyddiant yr Aifft, a'u dychwelyd i wlad Pathros, gwlad eu hynafiaid, ac yno byddant yn deyrnas fechan.
15
Hi fydd yr isaf o'r teyrnasoedd, ac ni ddyrchafa mwy goruwch y cenhedloedd; fe'i gwnaf mor fychan fel na lywodraetha eto dros y cenhedloedd.
16
Ni fydd yr Aifft mwyach yn hyder i du375? Israel, ond bydd yn eu hatgoffa o'u trosedd gynt, yn troi ati am gymorth. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.'"
17
Ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf yn y seithfed flwyddyn ar hugain, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
18
"Fab dyn, gwnaeth Nebuchadnesar brenin Babilon i'w fyddin lafurio'n galed yn erbyn Tyrus, nes bod pob pen yn foel a phob ysgwydd yn ddolurus, ond ni chafodd ef na'i fyddin elw o Tyrus am eu llafur caled.
19
Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: 'Yr wyf am roi gwlad yr Aifft i Nebuchadnesar brenin Babilon, a bydd yn cymryd ei chyfoeth; yr anrhaith a gymer a'r ysbail a ladrata ohoni fydd y tl i'w fyddin.
20
Rhoddais iddo wlad yr Aifft yn gyflog am ei waith, oherwydd i mi y buont yn gweithio,' medd yr Arglwydd DDUW.
21
"'Y dydd hwnnw, paraf i gorn dyfu i du375? Israel, a gwnaf iti agor dy enau yn eu mysg, a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'"
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 30 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48