bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ezekiel 40
Ezekiel 40
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 39
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 41 →
1
Ar ddechrau'r bumed flwyddyn ar hugain o'n caethglud, ar y degfed o'r mis yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg wedi cwymp y ddinas, ar yr union ddiwrnod hwnnw, daeth llaw yr ARGLWYDD arnaf a mynd mi yno.
2
Mewn gweledigaethau Duw, aeth mi i dir Israel a'm gosod ar fynydd uchel iawn gydag adeiladau tebyg i ddinas ar ei ochr ddeheuol.
3
Cymerodd fi yno, a gwelais ddyn a'i ymddangosiad yn debyg i bres; yr oedd yn sefyll wrth y porth, llinyn o liain a ffon fesur yn ei law.
4
Dywedodd y dyn wrthyf, "Fab dyn, edrych 'th lygaid, gwrando 'th glustiau, a dal sylw ar bopeth a ddangosaf i ti, oherwydd dyna pam y daethpwyd thi yma. Dywed wrth du375? Israel am y cyfan a weli."
5
Gwelais fur yn amgylchu'n llwyr safle'r deml. Yr oedd y ffon fesur yn llaw'r dyn yn chwe chufydd hir, sef cufydd a dyrnfedd; a phan fesurodd y mur yr oedd ei drwch yn hyd y ffon, a'i uchder yn hyd y ffon.
6
Yna aeth at y porth oedd yn wynebu'r dwyrain, ac i fyny ei risiau, a phan fesurodd riniog y porth yr oedd yn hyd y ffon.
7
Yr oedd hyd yr ystafelloedd ochr yn un ffon, a'u lled yn un ffon, a'r mur rhwng yr ystafelloedd yn bum cufydd o led; yr oedd rhiniog y porth ger y cyntedd gyferbyn 'r deml yn hyd un ffon.
8
Yna mesurodd gyntedd y porth,
9
ac yr oedd yn wyth cufydd o ddyfnder, a'i bileri yn ddau gufydd o drwch. Yr oedd cyntedd y porth gyferbyn 'r deml.
10
Y tu mewn i borth y dwyrain yr oedd tair o ystafelloedd ochr o'r ddeutu; yr un oedd mesuriadau'r tair, ac yr oedd y pileri ar bob ochr o'r un mesuriadau.
11
Yna mesurodd led agoriad y porth; yr oedd yn ddeg cufydd, ac yr oedd ei hyd yn dri chufydd ar ddeg.
12
Yr oedd wal cufydd o uchder o flaen yr ystafelloedd, ac yr oedd yr ystafelloedd yn chwe chufydd sgwr.
13
Yna mesurodd y porth o ben mur cefn un ystafell i ben mur cefn yr un gyferbyn; yr oedd yn bum cufydd ar hugain o'r naill agoriad i'r llall.
14
Mesurodd ar hyd y muriau o amgylch y porth o'r tu mewn, a'u cael yn drigain cufydd.
15
Yr oedd y pellter o agoriad y porth i ben draw'r cyntedd yn hanner can cufydd.
16
Yr oedd ffenestri bychain oddi amgylch yn yr ystafelloedd ac yn y muriau y tu mewn i'r porth, ac felly hefyd yn y cyntedd; yr oedd y ffenestri oddi amgylch yn wynebu i mewn, ac yr oedd y pileri wedi eu haddurno phalmwydd.
17
Yna aeth mi i'r cyntedd nesaf allan, a gwelais yno ystafelloedd, a phalmant wedi ei wneud o amgylch y cyntedd; yr oedd deg ar hugain o ystafelloedd yn wynebu'r palmant.
18
Yr oedd y palmant wrth ochr y pyrth, a'r un hyd 'r pyrth; hwn oedd y palmant isaf.
19
Yna mesurodd o'r tu mewn i'r porth isaf at y tu allan i'r cyntedd nesaf i mewn; yr oedd yn gan cufydd ar yr ochr ddwyreiniol ac ar yr ochr ogleddol.
20
Yna mesurodd hyd a lled y porth oedd yn wynebu'r gogledd yn y cyntedd nesaf allan.
21
Yr oedd ei ystafelloedd, tair o'r ddeutu, ei bileri a'i gyntedd yr un mesuriadau rhai'r porth cyntaf; yr oedd yn hanner can cufydd o hyd ac yn bum cufydd ar hugain o led.
22
Yr oedd ei ffenestri, ei gyntedd a'i balmwydd yr un mesuriadau rhai porth y dwyrain; arweiniai saith o risiau ato, ac yr oedd y cyntedd gyferbyn hwy.
23
Yr oedd agoriad i'r cyntedd nesaf i mewn gyferbyn phorth y gogledd, fel yr oedd ym mhorth y dwyrain. Mesurodd o'r naill borth i'r llall, ac yr oedd yn gan cufydd.
24
Yna arweiniodd fi at ochr y de, a gwelais borth yn wynebu'r de. Mesurodd ei bileri a'i gyntedd, a'r un oedd eu mesuriadau 'r lleill.
25
Yr oedd ffenestri o amgylch yn y porth ac yn ei gyntedd, fel ffenestri'r lleill. Hanner can cufydd oedd ei hyd, a phum cufydd ar hugain ei led.
26
Arweiniai saith o risiau ato, ac yr oedd y cyntedd gyferbyn hwy; yr oedd y pileri ar y naill ochr a'r llall wedi eu haddurno phalmwydd.
27
Yn y cyntedd nesaf i mewn yr oedd porth yn wynebu'r de, a mesurodd o'r porth hwn at y porth nesaf allan ar ochr y de; yr oedd yn gan cufydd.
28
Yna aeth mi trwy borth y de i'r cyntedd nesaf i mewn, a mesurodd y porth; yr un oedd ei fesuriadau 'r lleill.
29
Yr oedd ei ystafelloedd, ei bileri a'i gyntedd yr un mesuriadau 'r lleill, ac yr oedd ffenestri o amgylch y porth ac yn ei gyntedd. Hanner can cufydd oedd ei hyd, a phum cufydd ar hugain ei led.
30
Yr oedd cynteddoedd y pyrth o amgylch y cyntedd nesaf i mewn yn bum cufydd ar hugain o led, a phum cufydd o ddyfnder.
31
Wynebai ei gyntedd y cyntedd nesaf allan; yr oedd ei bileri wedi eu haddurno phalmwydd, ac yr oedd wyth o risiau'n arwain ato.
32
Yna aeth mi i'r cyntedd nesaf i mewn ar ochr y dwyrain, a mesurodd y porth; yr un oedd ei fesuriadau 'r lleill.
33
Yr oedd ei ystafelloedd, ei bileri a'i gyntedd yr un mesuriadau 'r lleill, ac yr oedd ffenestri o amgylch y porth ac yn ei gyntedd. Hanner can cufydd oedd ei hyd, a phum cufydd ar hugain ei led.
34
Wynebai ei gyntedd y cyntedd nesaf allan; yr oedd ei bileri wedi eu haddurno phalmwydd, ac yr oedd wyth o risiau'n arwain ato.
35
Yna aeth mi at borth y gogledd, a'i fesur; yr un oedd ei fesuriadau 'r lleill;
36
felly hefyd ei ystafelloedd, ei bileri a'i gyntedd, ac yr oedd ffenestri o'i amgylch. Hanner can cufydd oedd ei hyd, a phum cufydd ar hugain ei led.
37
Wynebai ei gyntedd y cyntedd nesaf allan; yr oedd ei bileri wedi eu haddurno phalmwydd, ac yr oedd wyth o risiau'n arwain ato.
38
Yng nghyntedd y porth yr oedd ystafell ac iddi ddrws, ac yno y golchid y poethoffrwm.
39
Yng nghyntedd y porth yr oedd hefyd ddau fwrdd o boptu, ac arnynt y lleddid y poethoffrwm, yr offrwm dros bechod a'r offrwm dros gamwedd.
40
Yng nghyntedd nesaf allan y porth, wrth ymyl y grisiau oedd yn arwain i borth y gogledd, yr oedd dau fwrdd, a'r ochr arall i'r grisiau hefyd ddau fwrdd.
41
Yr oedd pedwar o fyrddau ar un ochr i'r porth, a phedwar ar yr ochr arall, wyth i gyd; ac arnynt y lleddid yr aberthau.
42
Yr oedd hefyd bedwar bwrdd o feini nadd ar gyfer y poethoffrwm, pob un yn gufydd a hanner o hyd, yn gufydd a hanner o led ac yn gufydd o uchder; arnynt hwy y rhoddid yr offer ar gyfer lladd y poethoffrwm a'r aberthau eraill.
43
Ar y muriau oddi amgylch yr oedd bachau dwbl, dyrnfedd o hyd; yr oedd y byrddau ar gyfer cig yr offrwm.
44
Y tu allan i'r porth nesaf i mewn, a'r tu mewn i'r cyntedd nesaf i mewn, yr oedd dwy ystafell, un ger porth y gogledd ac yn wynebu'r de, ac un ger porth y de ac yn wynebu'r gogledd.
45
Dywedodd wrthyf, "Y mae'r ystafell sy'n wynebu'r de ar gyfer yr offeiriaid sy'n gofalu am y deml,
46
ac y mae'r un sy'n wynebu'r gogledd ar gyfer yr offeiriaid sy'n gofalu am yr allor, sef meibion Sadoc, yr unig rai o feibion Lefi sy'n cael dynesu at yr ARGLWYDD i'w wasanaethu."
47
Yna mesurodd y cyntedd, ac yr oedd yn sgwr, yn gan cufydd o hyd ac yn gan cufydd o led; yr oedd yr allor o flaen y deml.
48
Aeth mi at gyntedd y deml, a mesur pileri'r cyntedd; yr oedd eu trwch yn bum cufydd bob ochr. Yr oedd lled y porth yn bedwar cufydd ar ddeg, a'i furiau yn dri chufydd o led bob ochr.
49
Yr oedd y cyntedd yn ugain cufydd o led, ac yn ddeuddeg cufydd o'r blaen i'r cefn; arweiniai grisiau i fyny ato, ac yr oedd colofnau bob ochr i'r pileri.
← Chapter 39
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 41 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48