bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ezekiel 7
Ezekiel 7
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 8 →
1
Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2
"Tithau, fab dyn, dywed, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth dir Israel: Diwedd! Daeth y diwedd ar bedwar cwr y wlad.
3
Daeth y diwedd yn awr arnat ti, ac anfonaf fy nig arnat; barnaf di yn l dy ffyrdd, a thalaf iti am dy holl ffieidd-dra.
4
Ni fyddaf yn tosturio wrthyt, ac ni fyddaf yn trugarhau, ond talaf iti am dy ffyrdd ac am y ffieidd-dra sydd yn dy ganol. Yna cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
5
"'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Trychineb ar ben trychineb! Y mae'n dod!
6
Daeth diwedd! Daeth y diwedd! Y mae wedi cychwyn yn dy erbyn! Fe ddaeth!
7
Fe ddaeth y farn arnat ti sy'n byw yn y wlad; daeth yr amser, agos yw'r dydd; y mae terfysg, ac nid llawenydd, ar y mynyddoedd.
8
Yn awr, ar fyrder, tywalltaf fy llid arnat a chyflawni fy nig tuag atat; barnaf di yn l dy ffyrdd, a thalu iti am dy holl ffieidd-dra.
9
Ni fyddaf yn tosturio wrthyt, nac yn trugarhau; talaf iti am dy ffyrdd ac am y ffieidd-dra sydd yn dy ganol. Yna cewch wybod mai myfi'r ARGLWYDD sy'n taro.
10
"'Dyma'r dydd! Fe ddaeth! Aeth y farn allan. Blagurodd anghyfiawnder, blodeuodd traha,
11
tyfodd trais yn anghyfiawnder dybryd; ni adewir neb ohonynt, neb o'r dyrfa, na dim o'u cyfoeth na dim o werth.
12
Daeth yr amser, cyrhaeddodd y dydd. Na fydded i'r prynwr lawenhau nac i'r gwerthwr ofidio, oherwydd daeth dicter ar y dyrfa i gyd.
13
Ni ddychwel y gwerthwr at yr hyn a werthodd, cyhyd ag y byddant ill dau'n fyw; oherwydd ni throir yn l y weledigaeth ynglu375?n 'r dyrfa. O achos drygioni ni fydd yr un ohonynt yn dal gafael yn ei einioes.
14
Er iddynt ganu utgorn a gwneud popeth yn barod, nid yr un allan i ryfel, oherwydd y mae fy nicter ar y dyrfa i gyd.
15
"'Oddi allan y mae cleddyf, ac oddi mewn haint a newyn; bydd y rhai sydd allan yn y maes yn marw trwy'r cleddyf, a'r rhai sydd yn y ddinas yn cael eu hysu gan newyn a haint.
16
Bydd yr holl rai a ddihangodd i'r mynyddoedd, fel colomennod y dyffryn, pob un ohonynt yn griddfan am ei ddrygioni.
17
Bydd pob llaw yn llipa a phob glin fel glastwr;
18
byddant yn gwisgo sachliain, ac wedi eu gorchuddio braw; bydd cywilydd ar bob wyneb a moelni ar bob pen.
19
Taflant eu harian i'r strydoedd, a bydd eu haur fel peth aflan; ni fedr eu harian na'u haur eu gwaredu yn nydd digofaint yr ARGLWYDD; ac ni fedrant ddigoni eu heisiau na llenwi eu stumogau; ond eu camwedd fydd eu cwymp.
20
Yr oeddent yn llawenhau balchder yn eu tlysau hardd, ac yn eu gwneud yn ddelwau ffiaidd ac atgas; am hynny yr wyf yn eu hystyried yn aflan.
21
Fe'u rhoddaf yn ysbail yn nwylo estroniaid, ac yn anrhaith i rai drygionus y ddaear, a halogir hwy.
22
Trof fy wyneb oddi wrthynt, a halogir fy nhrysor; daw ysbeilwyr i mewn yno a'i halogi a gwneud anrhaith.
23
"'Am fod y wlad yn llawn o dywallt gwaed, a'r ddinas yn llawn o drais,
24
dof 'r rhai gwaethaf o'r cenhedloedd yno, a byddant yn meddiannu eu tai; rhoddaf derfyn ar falchder y rhai cedyrn, ac fe halogir eu cysegrleoedd.
25
Y mae dychryn ar ddyfod, a byddant yn ceisio heddwch, ond heb ei gael.
26
Daw trallod ar ben trallod, a sibrydion ar ben sibrydion; ceisiant weledigaeth gan y proffwyd, a bydd y gyfraith yn pallu gan yr offeiriad, a chyngor gan yr henuriaid.
27
Bydd y brenin mewn galar, a'r tywysog wedi ei wisgo ag arswyd, a bydd dwylo pobl y wlad yn crynu. Gwnaf hwy yn l eu ffyrdd, a barnaf hwy yn l eu safonau eu hunain; a chnt wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'"
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48