bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ezekiel 41
Ezekiel 41
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 40
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 42 →
1
Yna aeth mi i mewn i'r deml a mesur y pileri; yr oedd y pileri bob ochr yn chwe chufydd o drwch.
2
Yr oedd y mynediad yn ddeg cufydd o led, a muriau'r mynediad bob ochr yn bum cufydd o drwch. Mesurodd hefyd hyd y deml; yr oedd yn ddeugain cufydd, a'i lled yn ugain cufydd.
3
Yna aeth i'r cysegr nesaf i mewn a mesur pileri'r mynediad, ac yr oeddent yn ddau gufydd o drwch; yr oedd y mynediad yn chwe chufydd o led, a muriau'r mynediad yn saith cufydd o drwch.
4
Mesurodd hefyd hyd y cysegr nesaf i mewn; yr oedd yn ugain cufydd, a'i led yn ugain cufydd ar draws y cysegr. Dywedodd wrthyf, "Dyma'r cysegr sancteiddiaf."
5
Yna mesurodd fur y deml; yr oedd yn chwe chufydd o drwch, ac yr oedd pob ystafell o amgylch y deml yn bedwar cufydd o led.
6
Yr oedd yr ystafelloedd ar dri uchder, y naill ar ben y llall, a deg ar hugain ym mhob uchder. Yr oedd bwtresi o amgylch mur y deml i gynnal yr ystafelloedd, fel nad oeddent yn cael eu cynnal gan fur y deml.
7
Yr oedd yr ystafelloedd o amgylch y deml yn lletach wrth godi o'r naill uchder i'r llall. Yr oedd yr adeiladwaith o amgylch y deml yn codi mewn esgynfeydd, fel bod yr ystafelloedd yn lletach wrth esgyn; ac yr oedd grisiau'n arwain o'r llawr isaf i'r llawr uchaf trwy'r llawr canol.
8
Gwelais fod o amgylch y deml balmant yn sylfaen i'r ystafelloedd, a'i led yr un maint ffon fesur, sef chwe chufydd o hyd.
9
Pum cufydd oedd trwch mur nesaf allan yr ystafelloedd, ac yr oedd y lle agored rhwng ystafelloedd y deml
10
ac ystafelloedd yr offeiriaid yn ugain cufydd o led o amgylch y deml.
11
Yr oedd dau fynediad o'r lle agored i'r ystafelloedd ochr, y naill yn y gogledd a'r llall yn y de; ac yr oedd lled y lle agored yn bum cufydd oddi amgylch.
12
Yr oedd yr adeilad a wynebai gwrt y deml ar ochr y gorllewin yn ddeg cufydd a thrigain o led, a mur yr adeilad yn bum cufydd o drwch oddi amgylch, a hyd yr adeilad yn ddeg cufydd a phedwar ugain.
13
Yna mesurodd y deml; yr oedd yn gan cufydd o hyd, ac yr oedd y cwrt a'r adeilad gyda'i furiau hefyd yn gan cufydd o hyd.
14
Yr oedd lled wyneb y deml a'r cwrt ar ochr y dwyrain yn gan cufydd.
15
Yna mesurodd hyd yr adeilad a wynebai'r cwrt yng nghefn y deml, gyda'i orielau bob ochr, ac yr oedd yn gan cufydd. Yr oedd y deml, y cysegr nesaf i mewn a'r cyntedd yn wynebu'r cwrt,
16
yn ogystal 'r rhiniogau, y ffenestri bychain a'r orielau o amgylch y tri ohonynt, sef y cyfan o'r rhiniog ymlaen, wedi eu byrddio choed; yr oedd y muriau o'r llawr at y ffenestri wedi eu byrddio.
17
Yn y lle uwchben y mynediad i'r cysegr nesaf i mewn, ar y tu allan, a hefyd ar y muriau o amgylch y cysegr mewnol a'r cysegr allanol,
18
yr oedd cerfiadau ar ffurf cerwbiaid a choed palmwydd, sef palmwydd a cherwbiaid bob yn ail. Yr oedd dau wyneb gan bob cerwb,
19
wyneb dyn at y balmwydden ar un ochr, a wyneb llew at y balmwydden ar yr ochr arall. Yr oeddent wedi eu cerfio o amgylch yr holl deml.
20
o'r llawr at y lle uwchben y drws, yr oedd cerwbiaid a phalmwydd wedi eu cerfio ar fur y deml.
21
Yr oedd pyst drws y deml yn sgwr; ac o flaen y cysegr sancteiddiaf yr oedd rhywbeth tebyg
22
i allor o goed, tri chufydd o uchder a dau gufydd o hyd; yr oedd ei chornelau, ei sylfaen a'i hochrau o goed. Dywedodd y dyn wrthyf, "Dyma'r bwrdd sydd o flaen yr ARGLWYDD."
23
Yr oedd drysau dwbl i'r deml ac i'r cysegr sancteiddiaf;
24
yr oedd dwy ddalen i bob drws, a'r ddwy wedi eu bachu wrth ei gilydd.
25
Ar ddrysau'r deml yr oedd cerfiadau o gerwbiaid ac o balmwydd, fel ar y muriau, ac yr oedd cornis pren ar flaen y cyntedd o'r tu allan.
26
Ym muriau'r cyntedd yr oedd ffenestri bychain, a phalmwydd wedi eu cerfio bob ochr. Yr oedd cornis hefyd ar bob un o ystafelloedd ochr y deml.
← Chapter 40
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 42 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48