bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 Corinthians 10
2 Corinthians 10
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 11 →
1
A Yr wyf i, Pawl, yn erfyn arnoch er mwyn addfwynder a thiriondeb Crist — myfi “sydd mor ostyngedig pan fyddwyf yn eich plith, wyneb yn wyneb, ond yn dangos cryn hyder tuag atoch pan fyddwyf yn absennol” —
2
yr wyf yn crefu arnoch na bo galw arnaf pan ddelwyf i’ch plith, i ddangos yn eofn y cyfryw hyder y bwriadaf anturio arno, tuag at rywrai sy’n tybied mai yn ôl y cnawd y rhodiwn.
3
Canys er ein bod yn rhodio yn y cnawd nid yn ôl y cnawd yr ydym yn milwrio,
4
oblegid arfau ein milwriaeth nid cnawdol mohonynt, eithr nerthol dros Dduw ydynt i dynnu cestyll i’r llawr
5
trwy ddymchwel ymresymiadau a phob gwrthglawdd a ddyrchefir yn erbyn gwybodaeth o Dduw a dwyn pob bwriad yn gaeth fel y byddo’n ufudd i Grist.
6
Parod ydym hefyd i gosbi pob anufudd-dod pan gyflawner eich ufudd-dod chwi.
7
Ar yr hyn sydd yn y golwg yr edrychwch. Os bu i neb ei ddarbwyllo’i hun ei fod yn eiddo i Grist, ystyried hyn drachefn rhyngddo ac ef ei hun, megis y mae ef yn eiddo i Grist felly ninnau hefyd.
8
Canys os ymffrostiaf braidd yn ormod gyda golwg ar yr awdurdod a roddes yr Arglwydd inni er adeiladaeth ac nid er dinistr i chwi, ni’m cywilyddir —
9
er na fynnwn ymddangos fel pe bawn am eich dychrynu trwy lythyrau.
10
Canys, meddir, y mae’r llythyrau yn bwysfawr a grymus, ond y mae presenoldeb y corff yn edlychaidd a’r ymadrodd yn gwbl ddirmygedig.
11
Ystyried y cyfryw un hynyma, mai megis yr ydym ar air mewn llythyrau pan fyddom yn absennol felly hefyd yr ydym mewn gweithred pan fyddom yn bresennol.
12
Canys ni feiddiwn ein rhestru ein hunain ymhlith rhai o’r rheini sy’n eu cymeradwyo eu hunain na’n cymharu ein hunain â hwynt. Ond nid ydynt hwy, wrth eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain ac wrth eu barnu eu hunain wrthynt eu hunain, yn dangos deallgarwch.
13
Ond nyni nid ymffrostiwn yn ddifesur, eithr yn ôl mesur y rhandir a rannodd Duw yn fesur i ni y cyraeddasom hyd atoch chwithau.
14
Canys nid ydym, fel pe baem heb ddyfod atoch chwi, yn gor-ymestyn dros y terfyn, oherwydd atoch chwithau y daethom gyda’r cyntaf, yng ngwasanaeth efengyl Crist.
15
Nid ydym yn rhedeg i eithafion gan ymffrostio yn ymdrechion llafurus pobl eraill, eithr gobeithio yr ydym y bydd cynnydd dirfawr yn ein rhandir trwy gynnydd eich ffydd chwi,
16
fel y gallom gyhoeddi’r efengyl y tu hwnt i’ch terfynau chwi yn hytrach nag ymffrostio yn yr hyn a gyflawnwyd eisoes yn rhandir rhywun arall.
17
Y neb sy’n ymffrostio ymffrostied yn yr Arglwydd.
18
Canys nid y sawl sy’n ei gymeradwyo ei hun sydd dderbyniol ond y sawl y mae’r Arglwydd yn ei gymeradwyo.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13