bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 Corinthians 7
2 Corinthians 7
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 8 →
1
Am hynny, anwylyd, gan fod gennym yr addewidion hyn, glanhawn ein hunain oddi wrth bob halogrwydd cnawd ac ysbryd gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.
2
Gwnewch le i ni. Ni wnaethom gam â neb, ni lygrasom neb, ni thwyllasom neb.
3
Nid i’ch condemnio yr wyf yn llefaru. Canys dywedais eisoes eich bod yn ein calonnau fel y byddom farw a byw gyda’n gilydd.
4
Mawr yw fy rhyddid tuag atoch, mawr yw fy ymffrost o’ch plegid. Yr wyf yn gyflawn o ran diddanwch, yr wyf yn orlawn o ran gorfoledd ym mhob gorthrymder a ddaw i’n rhan.
5
Canys yn wir, wedi dyfod ohonom i Facedonia ni chafodd ein cnawd ddim gorffwys, eithr ym mhob dim y’n cystuddiwyd. Oddi allan brwydrau, oddi mewn ofnau.
6
Eithr cysurwr y rhai darostyngedig, sef Duw, a’n cysurodd ni trwy ddyfodiad Titws.
7
Ac nid yn unig trwy ei ddyfodiad eithr hefyd trwy’r cysur a gafodd ef yn eich plith. Adroddodd wrthym am eich hiraeth, eich gofid a’ch sêl o’m plaid nes i mi lawenhau’n fwy fyth.
8
Canys os perais dristwch i chwi drwy’r llythyr nid yw’n edifar gennyf; os hefyd y bu’n edifar gennyf — gwelaf fod y llythyr hwnnw wedi eich tristáu,
9
er nad dim ond dros dro — erbyn hyn yr wyf yn llawen, nid oblegid eich bod wedi profi tristwch eithr oblegid eich bod wedi tristáu hyd at edifeirwch. Canys fe’ch tristawyd yn ôl ewyllys Duw, fel na chaffech eich niweidio mewn unrhyw fodd drwom ni.
10
Oblegid y mae tristwch yn ôl ewyllys Duw yn cynhyrchu edifeirwch er iachawdwriaeth sydd ddiedifarus. Ond y mae tristwch y byd yn cynhyrchu marwolaeth.
11
Wele, atolwg, gymaint eiddgarwch a barodd y tristwch sydd wrth fodd Duw i chwi a pha gyfiawnhad, pa ddicllonedd, pa ofn, pa hiraeth, pa sêl, pa gosbedigaeth. Fe’ch dangosasoch eich hunain ym mhob rhyw fodd yn bur yn y drafodaeth.
12
Gan hynny os ysgrifennais atoch, nid oblegid y sawl a wnaeth anghyfiawnder nac oblegid y sawl a’i dioddefodd y gwneuthum hynny, eithr fel yr amlygid yn eich plith, gerbron Duw, eich eiddgarwch drosom ni.
13
Oblegid hyn y cysurwyd ni. Ond heblaw y cysur a ddaeth i’n rhan ni cawsom orfoledd llawer mwy oblegid y gorfoledd a ddaeth i ran Titws, canys cafodd ei ysbryd orffwystra drwy bawb ohonoch chwi.
14
Canys os ymffrostiais ddim wrtho o’ch plegid chwi ni’m cywilyddiwyd, eithr megis y llefarasom bopeth wrthych mewn gwirionedd, felly hefyd y gwireddwyd ein hymffrost gerbron Titws.
15
Y mae ganddo serch eithriadol gynnes tuag atoch wrth gofio am ufudd-dod pawb ohonoch, pa fodd y derbyniasoch ef gydag ofn a chryndod.
16
Y mae’n llawen gennyf fy mod, ym mhob dim, yn gallu ymddiried ynoch.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13