bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 Corinthians 6
2 Corinthians 6
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 7 →
1
Gan ein bod yn gyd-weithwyr yr ydym hefyd yn eich annog i beidio â derbyn gras Duw yn ofer.
2
Canys dywed Mewn amser cymeradwy y gwrandewais arnat Ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynorthwyais di. Wele yn awr yr amser cymeradwy, wele yn awr ddydd iachawdwriaeth.
3
Nid ydym yn rhoddi unrhyw dramgwydd mewn unrhyw fodd, fel na feier y weinidogaeth,
4
eithr ym mhob dim yr ydym yn ein cymeradwyo ein hunain fel gweinidogion Duw: mewn amynedd mawr, mewn gorthrymderau, mewn anffodion, mewn cyfyngderau,
5
dan ergydion, mewn carcharau, mewn terfysgoedd, mewn lluddedion, mewn aml golli cwsg a bod heb fwyd,
6
mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hirymaros, mewn caredigrwydd, yn yr Ysbryd Glân, mewn cariad diragrith,
7
yng ngair y gwirionedd, yn nerth Duw, drwy arfau cyfiawnder ar dde ac aswy,
8
drwy ogoniant ac anfri, drwy anghlod a chlod. Yr ydym megis twyllwyr ac eto’n eirwir,
9
megis rhai nid adweinir ac eto’n adnabyddus, megis rhai yn marw ac wele byw ydym, megis rhai a gosbir ac eto heb ein rhoddi i farwolaeth,
10
megis rhai athrist ac eto yn llawenhau yn wastadol, megis tlodion ac eto yn cyfoethogi llawer, megis rhai heb ddim ganddynt ac eto yn meddiannu popeth.
11
Agorwyd ein genau tuag atoch, Corinthiaid, ehangwyd ein calon.
12
Ni chyfyngir arnoch ynom ni, ond y mae’n gyfyng arnoch yn eich ymysgaroedd chwi.
13
Fel y galloch dalu’r un faint yn ôl — megis wrth blant i mi y llefaraf — ymehengwch chwithau hefyd.
14
Na ieuer chwi’n anghydweddol â rhai digred. Canys pa gydgyfranogiad a all fod rhwng cyfiawnder ac anghyfraith, neu beth sy’n gyffredin rhwng goleuni a thywyllwch?
15
Pa gytgord sydd rhwng Crist a Beliar neu pa gyfran sydd i’r credadun gyda’r anghredadun?
16
Pa gydfod sydd rhwng teml Dduw ac eilunod? Oblegid teml y Duw byw ydym ni, megis y dywedodd Duw: Trigaf yn eu plith a rhodiaf yn eu canol, A byddaf yn Dduw iddynt a byddant hwy yn bobl i mi.
17
Am hynny Ewch allan o’u canol hwynt Ac ymwahenwch, medd yr Arglwydd, Ac na chyffyrddwch â’r hyn sy’n aflan A myfi a’ch derbyniaf chwi.
18
A byddaf i chwi yn Dad A byddwch chwi i mi yn feibion a merched, Medd yr Arglwydd Hollalluog.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13