bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 Corinthians 3
2 Corinthians 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 4 →
1
Ai dechrau drachefn ein cymeradwyo ein hunain yr ydym? Neu a oes arnom angen llythyrau cymeradwyaeth atoch chwi neu oddi wrthych chwi megis y mae ar rai?
2
Ein llythyr ni ydych chwi, wedi ei ysgrifennu yn ein calonnau, yn hysbys i bawb ac yn ddarllenadwy ganddynt.
3
Amlwg yw mai llythyr Crist ydych wedi ei weinyddu gennym ni, wedi ei ysgrifennu nid ag inc ond ag Ysbryd y Duw byw, nid ar lechau cerrig ond ar lechau o gnawd, sef ar galonnau.
4
Y mae gennym y cyfryw hyder trwy Grist tuag at Dduw.
5
Ni olyga hyn ein bod yn gymwys ohonom ein hunain i farnu dim, fel pe bai’n deillio ohonom ni ein hunain, eithr o Dduw y mae ein cymhwyster
6
gan mai ef hefyd a’n cymhwysodd i fod yn weinidogion cyfamod newydd, nid o’r llythyren ond o’r Ysbryd. Canys y mae’r llythyren yn lladd ond yr ysbryd yn bywhau.
7
Ac os bu gweinidogaeth angau a gerfiwyd mewn llythrennau ar gerrig mewn gogoniant, fel na allai meibion Israel graffu ar wyneb Moses oblegid gogoniant ei wyneb, er mai gogoniant yn diflannu ydoedd,
8
pa wedd na fydd gweinidogaeth yr ysbryd yn fwy fyth mewn gogoniant?
9
Canys os bu gweinidogaeth y gollfarn yn ogoniant, mwy o lawer y mae gweinidogaeth cyfiawnder yn rhagori mewn gogoniant.
10
Canys yn yr olygwedd hon ni bu ogoneddus yr hyn a ogoneddwyd oblegid y gogoniant tra rhagorol.
11
Canys os daeth y diflanedig trwy ogoniant, mwy o lawer yw’r arhosol o ran gogoniant.
12
Felly gan fod gennym y cyfryw obaith, yr ydym yn arfer rhyddid mawr
13
heb wneuthur yr un modd ag yr ysgrifennwyd: Moses a osodai orchudd ar ei wyneb fel na chraffai meibion Israel ar ddarfyddiad yr hyn oedd yn diflannu.
14
Eithr caledwyd eu meddyliau. Canys hyd heddiw y mae’r un gorchudd yn aros ar ddarlleniad yr Hen Gyfamod heb ei dynnu ymaith, gan mai yng Nghrist y dileir ef.
15
Canys hyd heddiw, pa bryd bynnag y darllenir Moses, y mae gorchudd wedi ei daenu ar eu calon.
16
Eithr pryd bynnag y try at yr Arglwydd symudir y gorchudd.
17
Yr Arglwydd yw’r Ysbryd. A lle y mae Ysbryd yr Arglwydd yno y mae rhyddid.
18
A nyni oll gan syllu ag wyneb diorchudd, megis mewn drych, ar ogoniant yr Arglwydd, a newidir i’r un ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan yr Arglwydd, yr Ysbryd.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13