bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 Corinthians 13
2 Corinthians 13
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
1
Hwn yw’r trydydd tro yr wyf yn dyfod atoch. Yng ngenau dau neu dri o dystion y sefydlir pob gair.
2
Rhagfynegais pan oeddwn yn bresennol yr ail dro a rhagfynegaf yn awr yn f’absen i’r cyn-bechaduriaid ac i bawb o’r lleill nad arbedaf neb os deuaf drachefn,
3
yn gymaint â’ch bod yn ceisio prawf mai Crist sy’n llefaru ynof. Nid gwan yw ef tuag atoch eithr nerthol ynoch.
4
Y mae’n wir y croeshoeliwyd ef o wendid ond y mae’n byw, er hynny, trwy nerth Duw. Ac yr ydym ninnau’n wan ynddo ef, eithr byddwn fyw gydag ef trwy nerth Duw yr hwn a amlygir tuag atoch.
5
Profwch eich hunain a ydych yn y ffydd; chwiliwch eich hunain. Neu oni wyddoch amdanoch eich hunain fod Iesu Grist ynoch? Hynny yw oddieithr eich bod yn anghymeradwy.
6
Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymeradwy.
7
Eithr yr ydym yn gweddïo ar Dduw na bo i chwi wneuthur dim drwg, nid er mwyn i ni ymddangos yn gymeradwy, ond er mwyn i chwi wneuthur yr hyn sydd dda ac i ninnau fod megis yn anghymeradwy.
8
Canys ni allwn ni wneuthur dim yn erbyn y gwirionedd, eithr yn hytrach o blaid y gwirionedd.
9
Oblegid llawen ydym pan fyddom ni’n wan a chwithau’n gadarn. Am hyn hefyd y gweddïwn, sef am eich perffeithio.
10
Oblegid hyn yr ysgrifennaf y pethau hyn yn f’absen fel na bo i mi, pan fyddwyf yn bresennol, arfer gerwinder yn ôl yr awdurdod a roddes yr Arglwydd i mi er adeiladaeth ac nid er dinistr.
11
Bellach, frodyr, byddwch lawen, ymberffeithiwch, ymgysurwch, byddwch yn unfryd, byddwch yn heddychol, a bydd Duw’r cariad a’r heddwch gyda chwi.
12
Cyferchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Y mae’r holl saint, yma, yn eich cyfarch.
13
Boed gras yr Arglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân gyda phawb ohonoch.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13