bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 Corinthians 11
2 Corinthians 11
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 12 →
1
Gwyn fyd na chyd-ddygech ag ychydig ffolineb ar fy rhan. Eithr yr ydych hefyd yn cyd-ddwyn â mi.
2
Canys yr wyf yn eiddigeddus drosoch ag eiddigedd oddi wrth Dduw gan fy mod wedi eich dyweddïo i un gŵr fel y gallwn eich cyflwyno yn forwyn bur i Grist.
3
Ond y mae ofn arnaf rhag o bosibl, megis y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwystra, y llygrir eich meddyliau a bod iddynt wyro oddi wrth yr unplygrwydd a’r purdeb sy’n gweddu tuag at Grist.
4
Canys os daw rhywun ar ei dro a phregethu ohono Iesu arall na phregethasom ni, neu os derbyniwch Ysbryd arall na dderbyniasoch neu efengyl arall na chofleidiwyd gennych, yr ydych yn goddef yn ddigon rhwydd.
5
Yr wyf yn ystyried na fûm mewn unrhyw fodd yn ddistadlach na’r “uwch-apostolion.”
6
A hyd yn oed os anhyddysg ydwyf o ran ymadrodd eto nid felly yr wyf o ran gwybodaeth, fel y gwnaed yn eglur i chwi, ym mhob modd a cherbron pawb.
7
A gyflawnais i, tybed, drosedd wrth fy narostwng fy hun fel y dyrchefid chwi, sef oblegid fy mod wedi pregethu efengyl Duw yn rhad i chwi?
8
Ysbeiliais eglwysi eraill drwy gymryd tâl er mwyn eich gwasanaethu chwi,
9
a phan oeddwn yn bresennol gyda chwi ac mewn eisiau ni bûm yn faich ar neb. Canys cyflenwodd y brodyr a ddaeth o Facedonia fy angen. Gan hynny fe ymgedwais ym mhob dim rhag bod yn feichus i chwi a gwnaf hynny eto.
10
Cyn wired â bod gwirionedd Crist ynof ni chaeir yr ymffrost hwn rhagof ym mharthau Achaia.
11
Paham? Ai oblegid nad ydwyf yn eich caru? Duw a ŵyr.
12
Ond yr hyn yr wyf yn ei wneuthur a wnaf eto er mwyn torri ymaith gyfle’r rhai sy’n chwennych cyfle yn y gobaith y ceir eu bod, yn y peth yr ymffrostiant o’i blegid, ar yr un tir â ninnau.
13
Canys ffug-apostolion yw’r cyfryw rai, gweithwyr twyllodrus, yn ymrithio fel apostolion i Grist.
14
Ac nid rhyfeddod yw hynny, canys y mae Satan ei hun yn ymrithio fel angel goleuni.
15
Nid ydyw’n beth mawr, felly, os yw ei weision hefyd yn ymrithio fel gweision cyfiawnder. Bydd eu diwedd hwynt yn cyfateb i’w gweithredoedd.
16
Dywedaf drachefn, na thybied neb fy mod yn ynfyd; ac onid e derbyniwch fi hyd yn oed fel un ynfyd, fel y gallwyf innau ymffrostio rhyw ychydig.
17
Yr hyn a ddywedaf nid yn ôl yr Arglwydd y’i dywedaf eithr megis mewn ynfydrwydd, gan hyderu bod hyn o sail i’r ymffrost.
18
Gan fod llawer yn ymffrostio yn ôl y cnawd ymffrostiaf innau.
19
Canys er eich bod yn ddoethion yr ydych yn dygymod yn eithaf bodlon ag ynfydion.
20
Oblegid os darostwng rhywun chwi i gaethiwed, os llarpia rhywun chwi, os cipia rhywun chwi, os ymfawrha rhywun, neu os tery rhywun chwi ar eich wyneb, yr ydych yn goddef hynny.
21
Er anghlod yr wyf yn dywedyd mai gwan fuom ni. Ac eto ym mha beth bynnag y mae neb yn ymhonni — yn ffôl yr wyf yn siarad — yr wyf innau’n ymhonni.
22
Ai Hebreaid ydynt? Felly finnau. Ai Israeliaid ydynt? Felly finnau. Ai had Abraham ydynt? Felly finnau.
23
Ai gweision i Grist ydynt? Llefaraf yn ynfyd, myfi’n fwy felly; mewn caledwaith yn helaethach, mewn carcharau yn amlach, dan wialenodiau y tu hwnt i fesur, mewn perygl einioes yn aml.
24
Gan yr Iddewon y cefais bumwaith ddeugain gwialennod namyn un,
25
fe’m curwyd deirgwaith â gwiail, unwaith fe’m llabyddiwyd, bûm deirgwaith mewn llongddrylliad, treuliais noswaith a diwrnod yn y dyfnfor.
26
Bûm mewn teithiau yn aml, mewn peryglon wrth groesi afonydd, mewn peryglon oddi wrth ladron, mewn peryglon oddi wrth fy nghyd-genedl, mewn peryglon oddi wrth genhedloedd eraill, mewn peryglon yn y ddinas, mewn peryglon yn yr anialwch, mewn peryglon ar fôr, mewn peryglon ymhlith gau-frodyr,
27
mewn llafur a lludded, heb gwsg yn aml, mewn newyn a syched, ar fy nghythlwng yn aml, mewn oerfel a noethni.
28
Heb sôn am bethau eraill y mae gofal beunyddiol arnaf, pryder oblegid yr holl eglwysi.
29
Pwy sy’n wan nad wyf innau’n wan? Pwy sy’n tramgwyddo nad wyf innau ar dân?
30
Os oes ymffrostio i fod, am y pethau a berthyn i’m gwendid yr ymffrostiaf.
31
Duw a Thad yr Arglwydd Iesu, yr hwn sy’n fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd.
32
Yn Namascws gosododd rhaglaw’r brenin Aretas wyliadwriaeth ar ddinas y Damasceniaid er mwyn fy nal,
33
a thrwy ffenestr y’m gollyngwyd i waered mewn basged ar hyd y mur ac y dihengais o’i ddwylo.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13