bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 Corinthians 5
2 Corinthians 5
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 6 →
1
Canys gwyddom os datodir ein daearol drigle yn y babell fod gennym adeilad oddi wrth Dduw, sef trigle nid o waith llaw ond un tragwyddol yn y nefoedd.
2
Ac yn wir griddfan yr ydym yn hwn gan ein bod yn awyddus am gael ein harwisgo â’n preswylfa nefol.
3
Os byddwn felly wedi ein harwisgo, nid yn noethion y’n ceir.
4
Gan hynny yr ydym ni sydd yn y babell, yn griddfan o dan ein baich, oblegid nid ydym yn dymuno cael ein dadwisgo eithr ein harwisgo, fel y llyncer yr hyn sydd farwol gan fywyd.
5
A’r sawl a weithiodd arnom i’r perwyl hwn yw Duw, yr hwn a roddes yr Ysbryd yn ernes inni.
6
Yr ydym, oblegid hyn, yn hyderus bob amser gan ein bod yn gwybod bod cartrefu yn y corff yn golygu ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd.
7
Canys wrth ffydd y rhodiwn, nid wrth olwg.
8
Mawr ynteu yw ein hyder, ac y mae’n llawer gwell gennym fod oddi cartref o’r corff â chartrefu gyda’r Arglwydd.
9
Gan hynny yr ydym hefyd yn ymorchestu i ryngu bodd iddo pa un bynnag ai gartref ai oddi cartref y byddom.
10
Canys y mae’n rhaid i bawb ohonom ymddangos gerbron brawdle Crist, fel y derbynio pob un yr hyn a wnaed trwy’r corff, yn ôl yr hyn a gyflawnodd — bid dda, bid ddrwg.
11
A nyni, gan hynny, yn gwybod beth yw ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio dynion ac fe’n gwnaed yn hysbys i Dduw. Hyderaf ein bod hefyd wedi ein gwneud yn hysbys yn eich cydwybodau chwi.
12
Nid ydym drachefn yn ein cymeradwyo ein hunain i chwi, eithr rhoddi i chwi yr ydym achlysur ymffrost o’n plegid, fel y bo gennych rywbeth i wynebu’r rhai sy’n ymffrostio yn yr hyn sydd yn y golwg ac nid yn y galon.
13
Canys os o’n pwyll yr ydym, i Dduw y mae hynny; os yn ein hiawn bwyll yr ydym, i chwi yr ydym felly.
14
Canys y mae cariad Crist â’i orfod arnom gan ein bod wedi barnu hyn — fod un wedi marw dros bawb ac felly fod pawb wedi marw.
15
A thros bawb y bu farw fel na byddo i’r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain eithr i’r hwn a fu farw drostynt ac a gyfodwyd.
16
Felly nyni, o hyn allan, nid adwaenom neb yn ôl y cnawd. A hyd yn oed os adnabuom Grist yn ôl y cnawd, eto ar hyn o bryd nid ydym mwyach yn ei adnabod fel hynny.
17
Felly os yw neb yng Nghrist y mae’n greadur newydd. Darfu’r hen bethau; wele daeth pethau newydd.
18
Ac y mae’r cwbl o Dduw, yr hwn a’n cymododd ni ag ef ei hun drwy Grist, ac a roddes i ni weinidogaeth y cymod,
19
sef bod Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun heb gyfrif iddynt eu troseddau ac wedi gosod ynom ni air y cymod.
20
Llysgenhadau dros Grist gan hynny ydym ni, megis pe bai Duw yn eich annog drwom ni. Yr ydym yn erfyn dros Grist, cymoder chwi â Duw.
21
Yr hwn nid adnabu bechod a wnaeth ef yn bechod drosom ni, fel y’n gwnelid ni’n gyfiawnder Duw drwyddo ef.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13