bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 Corinthians 4
2 Corinthians 4
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 5 →
1
Am hynny, gan fod gennym y weinidogaeth hon, megis y cawsom drugaredd, nid ydym yn gwangalonni.
2
Eithr ymwrthodasom â’r pethau a gelir o gywilydd, heb rodio mewn cyfrwystra na llygru gair Duw, ond drwy eglurhad y gwirionedd yr ydym yn ein cymeradwyo ein hunain i bob cydwybod ddynol gerbron Duw.
3
Ac os ydyw ein hefengyl ni hefyd dan orchudd, yn y rhai a gollir y mae’n orchuddiedig,
4
sef yn y rhai y dallodd duw’r byd hwn feddyliau y digred ynddynt, fel na lewyrchai iddynt oleuni gogoniant efengyl y Crist sy’n ddelw Duw.
5
Canys nid ni ein hunain a bregethwn eithr Iesu Grist yr Arglwydd, a ninnau’n weision i chwi er mwyn Iesu.
6
Oblegid y Duw a ddywedodd “O dywyllwch llewyrcha goleuni,” ef hefyd a lewyrchodd yn ein calonnau ni fel y byddai goleuni gwybodaeth gogoniant Duw yn wyneb Crist.
7
Y mae’r trysor hwn gennym mewn llestri pridd fel y byddo godidowgrwydd y gallu yn eiddo Duw ac nid yn deillio ohonom ni.
8
Ym mhob dim yr ydym yn orthrymedig ond nid mewn cyfyngder, mewn penbleth ond nid mewn anobaith,
9
yn cael ein herlid ond heb ein llwyr-adael, yn cael ein bwrw i lawr ond heb ein difetha,
10
yn wastadol yn dwyn oddi amgylch yn y corff farwolaeth yr Iesu fel yr amlyger hefyd fywyd yr Iesu yn ein corff ni.
11
Canys yn wastadol fe’n traddodir ni sy’n fyw, i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr amlyger hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni.
12
Y mae marwolaeth felly yn gweithio ynom ni, a bywyd ynoch chwi.
13
A chan fod gennym yr un ysbryd ffyddiog, megis yr ysgrifennwyd Credais, am hynny lleferais, yr ydym ninnau’n credu ac oblegid hynny yn llefaru hefyd,
14
am ein bod yn gwybod mai’r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu a’n cyfyd ninnau gydag Iesu ac a’n cyflwyna gyda chwi.
15
Canys y mae’r cwbl er eich mwyn chwi, fel y byddo gras, wedi ymhelaethu ohono oherwydd diolchgarwch y lliaws, yn dra chyfoethog er gogoniant i Dduw.
16
Oherwydd paham nid ydym yn gwangalonni, eithr hyd yn oed os yw ein dyn allanol yn dadfeilio, er hynny ein dyn mewnol a adnewyddir o ddydd i ddydd.
17
Canys y mae’r cystudd ysgafn dros ennyd yn cynhyrchu’n anfesuradwy ac yn fwyfwy i ni dragwyddol bwys o ogoniant
18
gan nad ydym yn edrych ar y pethau gweledig eithr ar y pethau anweledig. Canys y pethau gweledig dros dymor y maent, ond y mae’r pethau anweledig yn dragwyddol.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13