bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 Corinthians 9
2 Corinthians 9
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 10 →
1
Afraid ynteu yw i mi ysgrifennu atoch ynglŷn â’r gymwynas ar gyfer y saint.
2
Canys gwn am eich ewyllysgarwch a byddaf yn ymffrostio yn eich cylch wrth y Macedoniaid fod Achaia yn barod er y llynedd. Symbylodd eich sêl y rhan fwyaf ohonynt.
3
Er hynny anfonais y brodyr fel na byddo ein hymffrost yn hyn o ran yn ofer eithr y byddoch, megis y dywedais, yn barod.
4
Ofn sydd arnaf rhag i Facedoniaid ddyfod gyda mi a’ch cael yn amharod ac i ni, heb sôn amdanoch chwi, gael ein gwarthruddo yn hyn o hyder.
5
Bernais felly mai anghenraid oedd annog y brodyr i’n rhagflaenu tuag atoch fel y trefnont ymlaen llaw eich rhodd haelionus a ragaddawyd ac y byddo honno, drwy fod yn barod, yn gweddu i haelioni ac nid i gybydd-dra.
6
Ond cofier hyn: a heuo’n brin yn brin hefyd y med, a heuo’n helaeth yn helaeth hefyd y med.
7
Rhodded pob un megis yr arfaethodd yn ei galon, nid o anfodd neu o orfod. Canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu.
8
Gall Duw beri i bob gras fod mewn helaethrwydd yn eich meddiant fel y bo gennych, ym mhob dim a phob amser, ddigon i gwrdd â phob angen a gweddill helaeth dros ben ar gyfer pob gweithred dda,
9
megis yr ysgrifennwyd: Gwasgarodd, rhoddodd i’r tlodion, Erys ei gyfiawnder yn dragywydd.
10
Yr hwn a ddarpar had i’r heuwr a bara yn ymborth a ddarpar had i chwi ac a’i hamlha. Pair gynnydd hefyd i ffrwyth eich cyfiawnder.
11
Fe fyddwch yn oludog ym mhob dim ar gyfer pob haelioni, ac y mae hwnnw, drwom ni, yn cynhyrchu diolchgarwch i Dduw.
12
Canys y mae gweinyddiad y gymwynas hon nid yn unig yn cyflawni angen y saint eithr y mae’n helaethach fyth trwy lawer o ddiolchiadau i Dduw.
13
Drwy gyfrwng y prawf a geir yn y gwasanaeth hwn y maent yn gogoneddu Duw oblegid ufudd-dod eich cyffes i efengyl Crist a haelfrydedd eich cydymdeimlad â hwy ac â phawb.
14
A chan weddïo drosoch y maent yn hiraethu amdanoch oblegid bod gras Duw yn dra helaeth yn eich plith.
15
I Dduw y bo’r diolch am ei ddawn anhraethadwy.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13