bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 Corinthians 8
2 Corinthians 8
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 9 →
1
Gwnawn yn hysbys i chwi, frodyr, y gras a rodded gan Dduw yn eglwysi Macedonia,
2
sef bod helaethrwydd eu llawenydd a dyfnder eu tlodi, a hynny mewn aml brawf gorthrymderus a roed arnynt, wedi ymhelaethu hyd onid ydyw’n gyfoeth o haelioni ar eu rhan.
3
Canys yn ôl eu gallu, yr wyf yn tystio, a thu hwnt i’w gallu y rhoesant yn wirfoddol,
4
gan ddeisyf arnom gyda thaerineb mawr am y ffafr o gyfranogi yn y weinidogaeth i’r saint.
5
Ac nid yn ôl ein disgwyliad y gwnaethant, eithr fe’u rhoesant eu hunain yn gyntaf i’r Arglwydd ac yna i ni drwy ewyllys Duw.
6
Am hynny yr anogasom Titws, megis y cychwynnodd y gorchwyl graslawn hwn yn eich plith, felly hefyd i’w orffen.
7
Eithr megis yr ydych yn oludog ym mhob peth, mewn ffydd a gair a gwybodaeth, ym mhob ymroddiad ac yn y cariad a ddaeth i’ch plith drwom ni, felly hefyd byddwch gyfoethog yn y gras hwn.
8
Nid ar ffurf gorchymyn yr wyf yn llefaru eithr trwy sêl pobl eraill yr wyf yn gosod dilysrwydd eich cariad chwithau ar brawf.
9
Canys adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, ddarfod iddo, ac yntau’n gyfoethog, fyned yn dlawd er eich mwyn chwi fel y’ch cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef.
10
Felly cyngor a roddaf yn y mater hwn. Canys hyn sy’n fuddiol i chwi gan eich bod eisoes wedi dechrau, er y llynedd, nid yn unig wneuthur eithr hefyd ewyllysio.
11
Yn awr, ynteu, gorffennwch y gwneuthur hefyd, fel megis y bu’r parodrwydd i ewyllysio felly hefyd y bo’r cyflawni o’r hyn sydd gennych.
12
Canys os yw’r parodrwydd ar gael y mae dyn yn gymeradwy yn ôl mesur yr hyn sydd ganddo, nid yn ôl yr hyn nad yw ganddo.
13
Canys nid trefnu yr ydys i beri ysgafnhad i eraill a chaledi i chwi.
14
Eithr, yn ôl egwyddor cyfartalwch, ar hyn o bryd y mae’r hyn sydd gennych i’w hepgor yn cwrdd â’u diffyg hwy fel y bo’r hyn a fo’n weddill ganddynt hwythau yn cwrdd â’ch diffyg chwi ac y bo cyfartalwch,
15
megis yr ysgrifennwyd: Nid oedd gormod gan y sawl a gasglasai lawer ac nid oedd rhy fach gan y sawl a gasglasai ychydig.
16
I Dduw y bo’r diolch am osod ohono yng nghalon Titws yr un eiddgarwch drosoch chwi,
17
canys er iddo dderbyn ein hanogaeth, eto, gan gymaint ei sêl, o’i wirfodd yr aeth i edrych amdanoch.
18
Danfonasom gydag ef y brawd y mae ei glod yn yr efengyl drwy’r holl eglwysi;
19
ac nid hynny’n unig eithr fe’i dewiswyd gan yr eglwysi i fod yn gydymaith i ni yn y gorchwyl graslawn hwn a weinyddir gennym er gogoniant i’r Arglwydd ei hun ac o’n hewyllysgarwch ni,
20
gan ochel felly rhag i rywun ein beio parthed y cyfraniadau haelionus a weinyddir gennym.
21
Canys yr ydym yn rhagddarbod pethau gweddus nid yn unig gerbron yr Arglwydd eithr hefyd gerbron dynion.
22
Anfonasom gyda hwynt ein brawd y cawsom brawf o’i sêl lawer gwaith ac mewn llawer modd; yn awr, fodd bynnag, y mae’n llawer mwy selog oblegid yr ymddiried mawr sydd ganddo ynoch chwi.
23
Parthed Titws ar y naill law, fy nghydymaith ydyw a chyd-lafurwr yn eich plith; parthed ein brodyr, ar y llaw arall, cenhadau’r eglwysi, gogoniant Crist ydynt.
24
Rhoddwch iddynt, gan hynny, brawf eglur gerbron yr eglwysi o’ch cariad ac o gywirdeb ein hymffrost o’ch plegid.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13