bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 Corinthians 2
2 Corinthians 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 3 →
1
Hyn felly a benderfynais, sef peidio â dod atoch drachefn mewn tristwch.
2
Canys os myfi a baraf dristwch i chwi, yna pwy sydd i beri llawenydd i mi ond y sawl a dristawyd drwof i?
3
A dyma’r union beth a ysgrifennais, fel na ddelwn a chael tristwch oddi ar law y sawl a ddylai beri llawenydd i mi, canys yr oeddwn yn hyderu ar bawb ohonoch mai fy llawenydd i oedd yr eiddoch chwithau hefyd bawb ohonoch.
4
Canys o orthrymder mawr ac o wasgfa calon yr ysgrifennais atoch, drwy lawer o ddagrau, nid er mwyn i chwi brofi tristwch ond yn hytrach fel y gwypech am y cariad sydd gennyf yn dra helaeth tuag atoch chwi.
5
Os parodd rhywun dristwch nid i mi y’i parodd ef, ond i raddau — rhag i mi haeru gormod — i bawb ohonoch chwi.
6
Digon i’r cyfryw un yw’r cerydd hwn gan y mwyafrif,
7
fel y mae galw, i’r gwrthwyneb, am i chwi yn hytrach faddau a chysuro, rhag ysgatfydd i’r cyfryw un gael ei draflyncu gan dristwch eithafol.
8
Gan hynny yr wyf yn eich annog i rymuso cariad tuag ato.
9
Canys i’r diben hwn hefyd yr ysgrifennais, fel y cawn wybod, wedi eich gosod dan brawf, a ydych yn ufudd ym mhob dim.
10
Ond i’r neb y maddeuwch chwi ddim iddo felly y gwnaf innau. Canys yr hyn a faddeuais i, os maddeuais rywbeth, er eich mwyn chwi y gwneuthum hynny yng ngŵydd Crist
11
fel na cheffid mantais arnom gan Satan. Oblegid nid ydym ni heb wybod, am ei fwriadau.
12
Wedi i mi fyned i Droas ar ran efengyl Crist, er bod drws wedi ei agor i mi yno gan yr Arglwydd,
13
ni chefais lonydd i’m hysbryd oblegid na chefais hyd i’m brawd Titws; felly ffarweliais â hwynt ac euthum i Facedonia.
14
Ond i Dduw y bo’r diolch am ei fod bob amser yn peri i ni fuddugoliaethu yng Nghrist ac yn amlygu arogl gwybodaeth ohono ef drwom ni ym mhob man.
15
Canys perarogl Crist ydym i Dduw yn y rhai a gedwir ac yn y rhai a gollir,
16
i’r naill arogl marwol i farwolaeth, i’r lleill arogl bywiol i fywyd. Ac i gwrdd â’r pethau hyn pwy sy’n ddigonol?
17
Canys nid ydym, megis y mae llawer, yn gwneuthur llwgr-fasnach o air Duw, eithr megis o ddidwylledd, eithr megis o Dduw ac yng ngŵydd Duw y llefarwn yng Nghrist.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13