bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
2 Corinthians 1
2 Corinthians 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 2 →
1
Paul, Apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, a'r brawd Timotheus, at eglwys Dduw yr hon sydd yn Corinth, gyda'r holl saint sydd yn holl Achaia;
2
Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist.
3
Bendigedig fyddo Duw a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist, Tâd y tosturiaethau a Duw pob dyddanwch,
4
yr hwn sydd yn ein dyddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddyddanu y rhai sydd ym mhob gorthrymder, trwy y dyddanwch â'r hwn y'n dyddenir ni ein hunain gan Dduw.
5
Canys fel y mae dyoddefiadau Crist yn gorlifo i ni, felly trwy Grist y mae ein dyddanwch ni yn gorlifo.
6
Ond pa un bynnag ai ein gorthrymmu yr ydys, er mwyn eich dyddanwch a'ch iachawdwriaeth chwi y mae, yr hwn sydd yn gweithio yng ngoddefiad dewr yr un dyoddefiadau, y rhai yr ydym ninnau hefyd yn eu dyoddef,
7
ac y mae ein gobaith am danoch yn ddiysgog; ai ein dyddanu yr ydys, er eich dyddanwch a'ch iachawdwriaeth chwi y mae; gan wybod mai, megys yr ydych yn gyfrannogion o'r dyoddefiadau, felly hefyd yr ydych o'r dyddanwch.
8
Canys ni fynnem i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein gorthrymder a ddygwyddodd yn Asia, mai yn ddirfawr, tu hwnt i'n gallu, y pwyswyd yn drwm arnom, nes i ni anobeithio yn hollol hyd y nod i gael byw;
9
ië, yr ydym ni ein hunain wedi cael ynom ein hunain yr atteb o farwolaeth, fel na fyddem yn ymddiried ynom ein hunain, ond yn Nuw, yr hwn sydd yn cyfodi y meirw;
10
yr hwn a'n gwaredodd ni allan o'r cyfryw ddirfawr farwolaeth, ac a'n gwared: yn yr hwn yr ydym wedi gobeithio y gwared ni etto hefyd,
11
a chwychwi yn cyd‐gynorthwyo ar ein rhan trwy eich deisyfiad, fel, am y rhodd a rodded i ni trwy lawer, y rhoddid diolch trosom gan lawer o bersonnau.
12
Canys ein hymffrost ni yw hyn, tystiolaeth ein cydwybod, mai mewn sancteiddrwydd a'r purdeb sydd o Dduw, nid mewn doethineb cnawdol, ond yng ngras Duw, yr ymddygasom yn y byd, ac yn helaethach tuag attoch chwi.
13
Canys nid ydym yn ysgrifennu pethau eraill attoch amgen na'r rhai yr ydych yn eu darllen, neu hyd y nod yn eu cydnabod, ac yr wyf yn gobeithio a gydnabyddwch hyd y diwedd;
14
fel hefyd y cydnabuoch ni o ran, mai nyni yw eich ymffrost chwi, fel ag yr ydych chwi ein hymffrost ni, yn Nydd ein Harglwydd Iesu.
15
Ac yn yr hyder hwn yr oeddwn yn chwennych dyfod attoch o'r blaen, fel y caffech ail ras;
16
a thrwoch chwi fyned trwodd i Macedonia, a dyfod drachefn o Macedonia attoch, a chael fy hebrwng gennych i Judea.
17
Gan hynny pan yn chwennych hyn, a arferais i yn wir ysgafnder o gwbl? Neu y pethau yr wyf yn eu bwriadu, ai yn ol y cnawd yr wyf yn eu bwriadu, fel y byddai gyda mi yr Ië, Ië, a'r Nage, Nage?
18
Eithr ffyddlawn yw Duw fod ein hymadrodd ni wrthych chwi nid yn Ië a Nage.
19
Canys Mab Duw, Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd yn eich plith gennym ni, gennyf fi a Silvanus a Thimotheus, nid ydoedd Ië a Nage, eithr y mae wedi dyfod yn Ië ynddo ef.
20
Canys cynnifer ag yw addewidion Duw, ynddo ef mae yr Ië; o herwydd hynny hefyd trwyddo ef mae yr Amen, er gogoniant i Dduw trwom ni.
21
A'r hwn sydd yn ein cadarnhâu ni gyda chwi yng Nghrist, ac a'n henneiniodd ni, yw Duw;
22
yr hwn hefyd a'n seliodd, ac a roddodd i ni ernes yr Yspryd yn ein calonnau.
23
Ac yr wyf yn galw Duw yn dyst yn erbyn fy enaid, mai er eich arbed ni ddaethum i etto i Corinth:
24
nid am ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd, ond yr ydym yn gyd‐weithwyr i'ch llawenydd; oblegyd trwy ffydd yr ydych yn sefyll.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13