bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
2 Corinthians 11
2 Corinthians 11
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 12 →
1
O na chyd‐ddygech â mi mewn ychydig o ffolineb! na, yn wir, yr ydych yn cyd‐ddwyn â mi;
2
canys yr wyf yn eiddigeddus drosoch ag eiddigedd Duw ei hun; canys mi a'ch dyweddiais chwi i un gwr, i'ch cyflwyno fel morwyn bur i Grist.
3
Ond ofni yr wyf rhag mewn un modd, fel y twyllodd y sarph Efa yn ei chyfrwystra, y cä eich meddyliau chwi eu llygru oddiwrth y symlrwydd a'r purdeb sydd tuag at Grist.
4
Canys yn wir os yw yr hwn sydd yn dyfod yn pregethu Iesu arall, yr hwn ni phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn yspryd gwahanol, yr hwn nis derbyniasoch, neu efengyl wahanol, yr hon ni dderbyniasoch, yr ydych yn dal yn rhagorol!
5
Canys yr wyf yn cyfrif nad wyf mewn dim ar ol yr Apostolion tra‐rhagorol!
6
Ac os ydwyf hefyd yn annghelfydd mewn ymadrodd, nid wyf felly mewn gwybodaeth; na, ym mhob peth gwnaethom hyn yn amlwg ym mhlith pawb tuag attoch.
7
Neu a gyflawnais i bechod wrth fy ngostwng fy hun fel y dyrchefid chwi, oblegyd pregethu o honof i chwi efengyl Duw yn rhad?
8
Eglwysi eraill a yspeiliais, gan gymmeryd cyflog ganddynt hwy er y weinidogaeth i chwi;
9
a phan oeddwn yn bresennol gyda chwi ac mewn eisieu, ni bum yn faich i neb, canys y brodyr, pan ddaethant o Macedonia, a gyflawnasant fesur fy eisieu, ac ym mhob dim y'm cedwais fy hun heb bwyso arnoch, ac a ymgadwaf.
10
Fel y mae gwirionedd Crist ynof, ni ddystewir fy ymffrost hwn ym mharthau Achaia.
11
Paham? ai am nad wyf yn eich caru chwi? Duw a ŵyr.
12
Eithr yr hyn yr wyf yn ei wneuthur a wnaf, fel y torrwyf ymaith achlysur oddiwrth y rhai sydd yn ewyllysio cael achlysur, fel yn yr hyn yr ymffrostiant, y ceir hwynt fel ninnau hefyd.
13
Canys y cyfryw rai ydynt au‐apostolion, gweithwyr twyllodrus, yn trawsffurfio eu hunain yn Apostolion Crist.
14
Ac nid rhyfedd! canys y mae Satan yntau ei hun yn ymrithio yn angel goleuni.
15
Am hynny nid yw yn beth mawr os ei weinidogion ef hefyd a ymrithiant fel gweinidogion cyfiawnder, y rhai y bydd eu diwedd yn ol eu gweithredoedd.
16
Trachefn dywedaf, Na thybied neb fy mod i yn ffol; ond os gwnewch, etto derbyniwch fi fel ffol, fel yr ymffrostiwyf finnau hefyd ychydig.
17
Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ol yr Arglwydd, eithr megys mewn ffolineb, yn yr hyder hwn o ymffrost.
18
Gan fod llawer yn ymffrostio yn ol y cnawd, minnau a ymffrostiaf hefyd.
19
Canys yr ydych yn goddef y ffyliaid yn llawen, gan eich bod eich hunain yn ddoethion.
20
Canys goddefwch ef, os rhyw un a'ch caethiwo, os rhyw un a'ch llwyr‐fwytta, os rhyw un a'ch magla, os rhyw un a ymddyrchafa, os rhyw un a'ch tery ar y wyneb.
21
Er ein gwaradwydd yr wyf yn llefaru, megys pe buasem yn weiniaid. Etto ym mha beth bynnag y mae neb yn hŷf (mewn ffolineb yr wyf yn dywedyd), yr wyf finnau hefyd yn hŷf.
22
Ai Hebreaid ydynt hwy? felly finnau: Ai Israeliaid ydynt hwy? felly finnau. Ai hâd Abraham ydynt hwy? felly finnau.
23
Ai gweinidogion Crist ydynt? (yr wyf yn llefaru fel un o'i bwyll,) mwy wyf fi: mewn llafur yn helaethach; mewn carcharau yn amlach; mewn gwialennodiau tu hwnt i fesur; mewn marwolaethau yn fynych;
24
gan yr Iuddewon bum' waith y derbyniais ddeugain gwialennod ond un;
25
tair gwaith y'm curwyd â gwiail, unwaith y'm llabyddiwyd; tair gwaith y dyoddefais longddrylliad; noswaith a diwrnod a dreuliais yn y dyfnfor;
26
mewn teithiau yn fynych; ym mheryglon afonydd; ym mheryglon yspeilwyr; ym mheryglon oddiwrth fy nghenedl; ym mheryglon oddiwrth y cenhedloedd; ym mheryglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mheryglon yn y môr; ym mheryglon ym mhlith brodyr gau;
27
mewn llafur a lludded; mewn gwyliadwriaethau yn fynych; mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn anwyd a noethni.
28
Heblaw y pethau a adewir allan, y mae yr hyn sydd yn gwasgu arnaf beunydd, y pryder am yr holl eglwysi.
29
Pwy sydd wan, nad wyf finnau wan? pwy a wneir i dramgwyddo, nad wyf finnau yn llosgi?
30
Os rhaid ymffrostio, mi a ymffrostiaf yn y pethau a berthyn i'm gwendid.
31
Duw a Thâd yr Arglwydd Iesu, yr Hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd.
32
Yn Damascus, y llywydd dan Aretas y brenin a wyliodd ddinas y Damasciaid er fy nal;
33
a thrwy ffenestr y'm gollyngwyd i lawr mewn basged ar hyd y mur, a diengais o'i ddwylaw ef.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13