bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
2 Corinthians 10
2 Corinthians 10
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 11 →
1
A myfi fy hun, Paul, wyf yn attolwg i chwi, trwy addfwynder a thiriondeb Crist, yr hwn yn bresennol wyf iselwael yn eich plith, ond yn absennol ydwyf yn hŷf tuag attoch;
2
ië, ac yr ydwyf yn deisyf arnoch fod yn hŷf gyda'r hyder â'r hwn yr wyf yn meddwl bod yn eofn yn erbyn rhai sydd yn ein cyfrif ni yn rhodio yn ol y cnawd.
3
Canys er ein bod yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ol y cnawd
4
(canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond galluog trwy Dduw i fwrw cestyll i lawr);
5
gan fwrw i lawr ymresymiadau a phob uchelder sydd yn ymddyrchafu yn erbyn gwybodaeth Duw, a chaethiwo pob meddwl i ufudd‐dod Crist;
6
ac yn barod i gospi pob anufudd‐dod, pan gyflawner eich ufudd‐dod chwi.
7
Yr ydych yn edrych ar y pethau sydd o flaen y wyneb. Os ymddiried neb ynddo ei hun ei fod yng Nghrist, meddylied hyn drachefn ohono ei hun, mai fel y mae efe yn eiddo Crist, felly ninnau hefyd.
8
Canys pe ymffrostiwn ryw faint yn helaethach yng nghylch ein hawdurdod — yr hon a roddodd yr Arglwydd er eich adeiladu i fyny, ac nid er eich bwrw i lawr — ni'm cywilyddir,
9
fel nad ymddangoswyf fel yn eich dychrynnu chwi trwy fy llythyrau.
10
Ei lythyrau, meddant, ydynt drymion a chryfion, eithr presennoldeb y corph sydd eiddil, a'r ymadrodd yn ddirmygus.
11
Hyn meddylied y cyfryw un, mai y fath ydym ni mewn ymadrodd trwy lythyrau pan yn absennol, yr un fath hefyd y byddwn mewn gweithred pan yn bresennol.
12
Canys nid ydym yn beiddio cyfrif ein hunain ym mhlith neu gymharu ein hunain â rhai ydynt yn canmol eu hunain; ond hwynthwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain, a'u cymharu eu hunain â hwy eu hunain, ydynt heb ddeall;
13
eithr nid ymffrostiwn ni tuhwnt i'n mesur, ond yn ol mesur y cylch, yr hwn fel mesur a rannodd Duw i ni, i gyrhaeddyd hyd y nod attoch chwi;
14
canys nid ydym yn ymestyn allan tu hwnt i'n mesur, megys pe buasem heb gyrhaeddyd attoch chwi, canys ni a ddaethom hyd y nod hyd attoch chwi yn efengyl Crist;
15
nid gan ymffrostio tu hwnt ein mesur, sef yn llafur rhai eraill, eithr gan fod gennym obaith, fel y cynnyddo eich ffydd, y cawn ein mawrygu ynoch chwi yn helaethach yn ol ein cylch,
16
fel ag i efengylu hyd y nod yn y parthau tu hwnt i chwi, nid i ymffrostio yng nghylch un arall am bethau yn barod i'n llaw.
17
Eithr yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd;
18
canys nid yr hwn sydd yn canmol ei hun sydd gymmeradwy, eithr yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ganmol.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13