bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
2 Corinthians 2
2 Corinthians 2
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 3 →
1
Eithr mi a benderfynnais hyn i mi fy hun, na ddeuwn drachefn mewn tristwch attoch.
2
Oblegyd os myfi a'ch tristâf chwi, pwy yw yr hwn ynte a'm llonna i, ond yr hwn a dristâwyd gennyf fi?
3
Ac ysgrifennais hyn yma, rhag, pan ddelwn, y cawn dristwch oddiwrth y rhai y dylwn gael llawenydd; gan hyderu ynoch oll fod fy llawenydd i yn llawenydd yr oll o honoch.
4
Canys o orthrymder lawer ac o gyfyngder calon yr ysgrifennais attoch â dagrau lawer, nid fel y tristêid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennyf yn helaethach tuag attoch chwi.
5
Ond os oes neb wedi peri tristwch, nid i myfi y mae wedi peri tristwch, ond mewn rhan (fel na phwyswyf yn ormodol) i chwi oll.
6
Digon i'r cyfryw un yw y gosp yma a weinyddiwyd gan y mwyafrif,
7
fel yn y gwrthwyneb y dylech yn hytrach faddeu iddo a'i ddyddanu, rhag rhywfodd i'r cyfryw gael ei lyngcu gan ormod tristwch.
8
Gan hynny yr wyf yn attolwg i chwi gadarnhau eich cariad tuag atto.
9
Canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifennais, fel y gwybyddwn y prawf o honoch, a ydych yn ufudd ym mhob peth.
10
Ac i'r hwn yr ydych yn maddeu dim, yr wyf finnau hefyd: canys yr hyn hefyd yr wyf wedi ei faddeu, os maddeuais ddim, er eich mwyn chwi y maddeuais ef ym mherson Crist,
11
fel nad enniller mantais arnom gan Satan, canys nid ydym heb wybod ei ddyfeision ef.
12
Ac wedi dyfod i Troas er efengyl Crist, a drws wedi ei agoryd i mi yn yr Arglwydd,
13
ni chefais esmwythâd i'm hyspryd, gan na chefais Titus fy mrawd; eithr wedi canu yn iach iddynt, mi a aethum allan i Macedonia.
14
Ond i Dduw y byddo y diolch, yr hwn sydd yn ein harwain mewn buddugoliaeth yng Nghrist, ac yn amlygu arogledd y wybodaeth o hono trwom ni ym mhob lle;
15
canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig ac yn y rhai colledig:
16
i'r naill yn arogl marwolaeth i farwolaeth, ac i'r lleill yn arogl bywyd i fywyd. Ac i'r pethau hyn, pwy sydd ddigonol?
17
Canys nid ydym ni fel y llawer yn llygru gair Duw; eithr megys o burdeb, megys o Dduw, wyneb yn wyneb â Duw, yng Nghrist yr ydym yn llefaru.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13