bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
2 Corinthians 8
2 Corinthians 8
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 9 →
1
Yr ydym ni hefyd yn hyspysu i chwi, frodyr, ras Duw yr hwn a roddwyd yn eglwysi Macedonia,
2
ddarfod mewn mawr brofiad gorthrymder, i orlawnder eu llawenydd hwy a'u tlodi dwfn orlifo i gyfoeth eu haelioni hwy;
3
canys cyfrannasant yn ol eu gallu, yr wyf yn dyst, a thu hwnt i'w gallu, o'u dewisiad eu hun,
4
gan ddeisyfu arnom gyda llawer o ymbil am y ffafr a'r cyd‐gyfrannogiad mewn gweini i'r saint,
5
a hyn, nid fel yr oeddem ni yn gobeithio, ond hwy a'u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i'r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw;
6
mewn canlyniad, cymhellasom Titus, megys y dechreuasai efe o'r blaen, felly hefyd orphen o hono ynoch chwi y gras hwn hefyd.
7
Eithr fel yr ydych ym mhob peth yn helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob llwyrfrydedd, ac yn eich cariad tuag attom ni, gofelwch ar fod o honoch yn helaeth yn y gras hwn hefyd.
8
Nid mewn ffordd o orchymyn yr wyf yn dywedyd, eithr gan ddwyn i brawf, trwy lwyrfrydedd eraill, wiredd eich cariad chwi.
9
(Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac efe yn gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef).
10
Ac yn hyn yr ydwyf yn rhoddi fy marn: canys hyn sydd fuddiol i chwi, y rhai oeddech y cyntaf i wneuthur dechreuad flwyddyn yn ol, nid yn unig i wneuthur ond hefyd i ewyllysio.
11
Ond yn awr, gorphennwch y gwneuthur hefyd, fel, megys ag yr oedd y parodrwydd i ewyllysio, felly hefyd y byddo y cyflawniad, yn ol eich gallu.
12
Canys os yw y parodrwydd yn bresennol, y mae y rhodd yn gymmeradwy, yn ol yr hyn sydd gan ddyn, nid yn ol yr hyn nid oes ganddo;
13
canys nid fel y byddo hyn i fod er ysgafnder i eraill a gorthrymder i chwi; eithr yn ol cyfartalrwydd;
14
y pryd hwn eich helaethrwydd chwi ar gyfer eu hangen hwy, fel y delo eu helaethrwydd hwythau ar gyfer eich hangen chwi, fel y byddo cyfartalrwydd;
15
fel y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn a gasglodd lawer, nid oedd ganddo dros ben; a'r hwn a gasglodd ychydig, nid oedd ganddo lai.
16
Eithr i Dduw y byddo y diolch, yr hwn sydd yn rhoddi yr un llwyrfrydedd calon ar eich rhan yng nghalon Titus;
17
canys yn wir, efe a dderbyniodd ein hannogaeth; ond gan ei fod o'r dechreu yn eiddgar, o'i ddewisiad ei hun efe a aeth allan attoch chwi.
18
A danfonasom gydag ef y brawd yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl trwy yr holl eglwysi;
19
ond nid hynny yn unig, ond hefyd a ddewiswyd gan yr eglwysi i gyd‐ymdaith a ni yn y gras hwn, yr hwn a weinyddir gennym i ogoniant yr Arglwydd, ac i ddangos ein parodrwydd ni;
20
gan drefnu hyn, na fydd i neb feio arnom yn achos y llawndid hwn a weinyddir gennym;
21
oblegyd yr ydym yn rhag‐ddarpar pethau anrhydeddus, nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yng ngolwg dynion.
22
A danfonasom gyda hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau lawer gwaith, ei fod yn eiddgar, ond yn awr yn llawer mwy eiddgar, o herwydd ei ymddiried mawr ynoch chwi.
23
Os am Titus y gofynnir, efe yw fy nghydymaith a'm cyd‐weithiwr tuag attoch chwi; neu am ein brodyr, cenhadau yr eglwysi ydynt, gogoniant Crist.
24
Dangoswch iddynt hwy gan hynny amlygiad o'ch cariad, ac o'n hymffrost ninnau ar eich rhan yn wyneb yr eglwysi.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13