bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
2 Corinthians 3
2 Corinthians 3
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 4 →
1
Ai dechreu drachefn i gymmeradwyo ein hunain yr ydym? neu a oes arnom raid, fel ar rai, wrth lythyrau o gymmeradwyaeth attoch neu oddiwrthych?
2
Ein llythyr ni ydych chwi, wedi ei ysgrifennu yn ein calonnau, yn ddealledig ac yn ddarllenedig gan bob dyn,
3
wedi ei wneuthur yn amlwg eich bod yn llythyr Crist, wedi ei weini gennym, wedi ei ysgrifennu, nid âg ingc, ond âg Yspryd y Duw byw; nid mewn llechau o gerrig, ond mewn llechau ydynt galonnau o gnawd.
4
A chyfryw hyder sydd gennym trwy Grist tuag at Dduw;
5
nid o herwydd ein bod yn ddigonol o honom ein hunain i gyfrif unrhyw beth megys o honom ein hunain; eithr ein digonedd ni sydd o Dduw,
6
yr hwn hefyd a'n gwnaeth yn ddigonol fel gweinidogion cyfammod newydd, nid i'r llythyren eithr i'r yspryd; canys y mae y llythyren yn lladd, ond yr yspryd yn bywhâu.
7
Ond os bu gweinidogaeth angau, wedi ei cherfio mewn llythyrennau ar gerrig, mewn gogoniant, fel na allai meibion Israel edrych yn graff ar wyneb Moses, o achos gogoniant ei wyneb, yr hwn oedd yn diflannu,
8
pa fodd yn hytrach na fydd gweinidogaeth yr yspryd gyda gogoniant?
9
Canys os bu gweinidogaeth condemniad yn ogoniant, llawer mwy y rhagora gweinidogaeth cyfiawnder mewn gogoniant.
10
Canys yn wir ni wnaethpwyd yn ogoneddus yr hyn a wnaethpwyd yn ogoneddus yn yr ystyr hyn, o achos y gogoniant tra‐rhagorol.
11
Canys os yw yr hyn sydd yn diflannu gyda gogoniant, mwy o lawer y mae yr hyn sydd yn aros mewn gogoniant.
12
Am hynny gan fod gennym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder mawr;
13
ac nid fel y gosododd Moses orchudd ar ei wyneb, fel nad edrychai meibion Israel yn graff ar ddiwedd yr hyn a ddiflannai;
14
eithr caledwyd eu meddyliau; canys hyd y dydd heddyw y mae yr un gorchudd, wrth ddarllen yr Hen Gyfammod, yn aros, gan nad yw wedi ei ddadguddio ei fod wedi ei ddileu yng Nghrist.
15
Eithr hyd heddyw, pan ddarllenir Moses, y mae y gorchudd ar eu calon hwynt;
16
eithr pan dry at yr Arglwydd, tynnir ymaith y gorchudd.
17
Yn awr, yr Arglwydd yw yr Yspryd, a lle y mae Yspryd yr Arglwydd y mae rhyddid.
18
Eithr nyni oll ag wyneb diorchudd, gan edrych megys mewn drych ar ogoniant yr Arglwydd, a drawsffurfir i'r un ddelw o ogoniant i ogoniant, megys oddiwrth yr Arglwydd, yr Yspryd.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13