bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
2 Corinthians 6
2 Corinthians 6
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 7 →
1
A chan gyd‐weithio ag ef, yr ydym yn attolygu na dderbynioch ras Duw yn ofer
2
(canys dywed efe, Mewn amser cymmeradwy y'th wrandewais, Ac yn nydd iachawdwriaeth y cynnorthwyais di. Wele, yn awr yr amser cymmeradwy! Wele, yn awr ddydd iachawdwriaeth!)
3
heb roddi o honom ddim tramgwydd mewn unrhyw beth, fel na feier ar y weinidogaeth;
4
eithr ym mhob peth yn cymmeradwyo ein hunain fel gweinidogion Duw, mewn amynedd lawer, mewn cystuddiau,
5
mewn anghenion, mewn cyfyngderau, mewn gwialen‐nodiau, mewn carcharau, mewn terfysgau, mewn llafuriau, mewn gwyliadwriaethau, mewn ymprydiau;
6
mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hir‐ymaros, mewn hynawsedd, yn yr Yspryd Glân, mewn cariad diragrith;
7
yng ngair y gwirionedd, yng ngallu Duw, trwy arfau cyfiawnder ar ddehau ac ar aswy,
8
trwy barch ac ammharch, trwy anghlod a chlod; fel twyllwyr, ac yn cirwir!
9
fel yn anadnabyddus, ac yn hollol adnabyddus! fel yn meirw, ac, wele, yn byw! fel yn cael ein dysgyblu, ac heb ein lladd!
10
fel yn cael ein tristâu, ond yn wastad yn llawenhâu! fel yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer! fel heb ddim gennym, ac yn meddiannu pob peth!
11
Ein genau a agorwyd wrthych chwi, o Gorinthiaid, ein calon a eangwyd.
12
Ni chyfyngwyd arnoch ynom ni, eithr cyfyngwyd arnoch yn eich serchiadau eich hunain.
13
Ac fel ad‐daliad (fel wrth blant yr wyf yn dywedyd), eanger chwithau hefyd.
14
Na ieuer chwi yn annghymharus â rhai digred: canys pa gyd‐gyfrannogaeth sydd rhwng cyfiawnder ac annghyfraith? neu pa gymmundeb sydd rhwng goleuni a thywyllwch?
15
a pha gydgordiad rhwng Crist a Belial? neu pa gyfran i gredadyn gydag annghredadyn?
16
a pha gydsyniad rhwng cyssegr Duw ag eilunod? canys cyssegr y Duw byw ydym ni, fel y dywedodd Duw, Mi a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf ynddynt; ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi;
17
gan hynny, Deuwch allan o'u canol ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd, Ac na chyffyrddwch â pheth aflan, ac mi a'ch derbyniaf chwi.
18
Ac a fyddaf yn dâd i chwi, a chwithau a fyddwch yn feibion ac yn ferched i mi, medd yr Arglwydd Hollalluog.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13