bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
2 Corinthians 4
2 Corinthians 4
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 5 →
1
O herwydd hyn, a chennym y weinidogaeth hon, megys y trugarhâwyd wrthym, nid ydym yn digalonni;
2
eithr ni a ymwadasom â chuddiedig bethau cywilydd, gan beidio rhodio mewn cyfrwystra a llygru gair Duw; eithr trwy amlygiad o'r gwirionedd yr ydym yn cymmeradwyo ein hunain i bob cydwybod dynion yng ngolwg Duw.
3
Ac os cuddiedig hefyd yw ein hefengyl ni, yn y rhai colledig y mae yn guddiedig;
4
yn y rhai y dallodd duw y byd hwn syniadau y rhai annghrediniol, fel na thywynai arnynt lewyrch efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Duw.
5
Canys nid ni ein hunain yr ydym yn ein pregethu, eithr Crist Iesu fel Arglwydd, a ni ein hunain yn weision i chwi er mwyn Iesu.
6
Canys Duw, yr hwn a ddywedodd: O dywyllwch goleuni a lewyrcha, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau ni er tywyniad o wybodaeth gogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist.
7
Eithr y mae gennym y trysor hwn mewn llestri pridd, fel y byddai rhagoroldeb y gallu o Dduw, ac nid o honom ni.
8
Yn cael ein gwasgu ym mhob modd, eithr heb ei bod yn gyfyng arnom; heb wybod lle i droi, eithr nid yn hollol ddi‐obaith;
9
yn cael ein herlid, eithr heb ein llwyr adael; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ddarfod am danom;
10
yn wastad yn dwyn o amgylch yn y corph farwolaeth Iesu, fel yr amlyger hefyd fywyd Iesu yn ein corph ni.
11
Canys nyni y rhai ydym yn fyw a draddodir yn wastadol i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr amlyger hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni.
12
Felly y mae angau yn gweithio ynom ni, eithr bywyd ynoch chwi.
13
Ond gan fod gennym yr un yspryd ffydd, yn ol yr hyn a ysgrifennwyd, Credais, am hynny y lleferais; yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru;
14
gan wybod y bydd i'r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu ein cyfodi ninnau hefyd gyda Iesu, a'n cyflwyno gyda chwi.
15
Canys pob peth sydd er eich mwyn chwi, fel y byddo i'r gras, wedi amlhâu trwy y mwyafrif, beri i'r diolchgarwch ymhelaethu, i ogoniant Duw.
16
O herwydd paham nid ydym yn digalonni; ond er fod ein dyn oddiallan yn dadfeilio, ein dyn oddimewn a adnewyddir o ddydd i ddydd;
17
canys y mae ein hysgafn gystudd, yr hwn sydd am y foment, yn gweithio allan i ni yn fwy‐fwy ragorol dragywyddol bwys gogoniant;
18
a ninnau, nid yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir: canys y pethau a welir ydynt am dymhor, ond y pethau ni welir ydynt dragywyddol.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13