bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
2 Corinthians 13
2 Corinthians 13
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
1
Hon yw y drydedd waith yr ydwyf yn dyfod attoch. Yng ngenau dau dyst neu dri y sefydlir pob gair.
2
Rhag‐ddywedais ac yr wyf yn rhag‐ddywedyd, fel pan yn bresennol yr ail waith, ac yr awrhon yn absennol, wrth y rhai a bechasant eisoes, ac wrth y lleill oll, os deuaf drachefn, nad arbedaf:
3
gan eich bod yn ceisio prawf o'r Crist sydd yn llefaru ynof, yr hwn tuag attoch chwi nid yw wan, eithr sydd nerthol yn eich mysg;
4
canys croeshoeliwyd ef yn wir trwy wendid, eithr byw y mae trwy allu Duw. Canys ninnau hefyd ydym weiniaid ynddo ef, eithr byw fyddwn gydag ef trwy allu Duw tuag attoch chwi.
5
Profwch eich hunain a ydych yn y ffydd: gwnewch brawf o honoch eich hunain: neu oni lawn adnabyddwch eich hunain fod Iesu Grist ynoch chwi? oddieithr yn wir eich bod yn annghymmeradwy.
6
Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn annghymmeradwy.
7
Ac yr ydym yn gweddio ar Dduw na wneloch ddim sydd ddrwg; nid fel yr ymddangosom ni yn gymmeradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd iawn, er i ni fod fel yn annghymmeradwy.
8
Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd, eithr dros y gwirionedd.
9
Canys llawenychwn pan fyddom ni yn weiniaid a chwithau yn gryfion; hyn hefyd yr ydym yn gweddio am dano, sef eich perffeithiad chwi.
10
O herwydd hyn, a myfi yn absennol, yr wyf yn ysgrifennu y pethau hyn, fel pan fyddwyf yn bresennol, nad ymddygaf yn llym yn ol yr awdurdod a roddodd yr Arglwydd i mi er adeiladaeth, ac nid er tynnu i lawr.
11
Bellach, frodyr, byddwch wych: byddwch berffaith: dyddaner chwi: syniwch yr un peth: byddwch heddychol: a Duw y cariad a'r heddwch fyddo gyda chwi.
12
Annerchwch eich gilydd â chusan sanctaidd:
13
Y mae yr holl saint yn eich annerch.
14
Gras yr Arglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Yspryd Glân, a fyddo gyda chwi oll.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13