bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
2 Corinthians 12
2 Corinthians 12
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 13 →
1
Y mae yn rhaid i mi ymffrostio, er nad yw yn fuddiol; ond deuaf at weledigaethau a dadguddiadau yr Arglwydd.
2
Yr wyf yn adwaen dyn yng Nghrist, pedair blynedd ar ddeg yn ol (ai yn y corph, nis gwn; ai allan o'r corph, nis gwn; Duw a ŵyr), gipio y cyfryw un hyd y drydedd nef.
3
Ac yr wyf yn adwaen y cyfryw ddyn (ai yn y corph, ai ar wahân â'r corph, nis gwn, Duw a ŵyr),
4
a gipiwyd i Baradwys, ac a glywodd eiriau annhraethadwy, y rhai nid yw bosibl i ddyn eu llefaru.
5
Am y cyfryw ddyn yr ymffrostiaf; ond am danaf fy hun nid ymffrostiaf oddieithr yn fy ngwendidau.
6
Canys os ewyllysiaf ymffrostio, ni fyddaf yn ffol, canys gwirionedd a ddywedaf; eithr yr wyf yn ymattal, rhag i neb feddwl am danaf fi uwch law y mae yn gweled fy mod, neu yn ei glywed oddiwrthyf.
7
Ac o ganlyniad, fel na'm tra‐dyrchafer trwy odidowgrwydd y dadguddiadau, rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan i'm cernodio.
8
Am hwn, mi a attolygais ar yr Arglwydd deirgwaith, ar fod iddo ymadael â mi;
9
ac y mae efe wedi dywedyd wrthyf, Digon i ti fy ngras i; canys nerth a berffeithir mewn gwendid. Gyda'r llawenydd pennaf gan hynny yr ymffrostiaf yn hytrach yn fy ngwendidau, fel y cysgodo gallu Crist drosof.
10
Am hynny yr wyf yn cymmeryd hyfrydwch mewn gwendidau, mewn sarhadau, mewn anghenion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau, er mwyn Crist; canys pan wyf wan, yna yr wyf gadarn.
11
Aethum yn ffol; chwychwi a'm gorfodasoch; canys myfi a ddylaswn gael fy nghanmol gennych chwi; canys ni fum mewn dim ar ol yr Apostolion tra‐rhagorol! Er nad wyf fi ddim,
12
arwyddion Apostol yn wir a weithredwyd yn eich plith chwi mewn pob amynedd, trwy arwyddion a rhyfeddodau a nerthoedd.
13
Canys beth yw yr hyn y buoch chwi yn ol am dano, tuhwnt i'r eglwysi eraill, oddieithr na bum i fy hun yn faich arnoch? Maddeuwch i mi yr annghyfiawnder hwn!
14
Wele, hon yw y drydedd waith yr wyf yn barod i ddyfod attoch, ac ni byddaf yn faich; canys nid wyf yn ceisio eich eiddo chwi, eithr chwychwi; canys ni ddylai y plant drysori i'r rhieni, eithr y rhieni i'r plant;
15
a myfi, gyda'r llawenydd pennaf, a dreuliaf ac a ymdreuliaf allan dros eich eneidiau chwi. Os wyf fi yn eich caru yn ddirfawr, ai llai y'm cerir i?
16
Ond bydded felly: ni phwysais i arnoch; eithr gan fod o'r dechreu yn gyfrwys, mi a'ch deliais trwy ddichell.
17
A gymmerais i unrhyw fantais arnoch trwy unrhyw un o'r rhai a ddanfonais attoch?
18
Deisyfais ar Titus, ac mi a anfonais y brawd gydag ef. A gymmerodd Titus unrhyw fantais arnoch? Oni rodiasom wrth yr un Yspryd, yn yr un llwybrau?
19
Er ys meityn yr ydych yn tybied mai amddiffyn ein hunain ydym wrthych. Ger bron Duw yng Nghrist yr ydym yn llefaru: a'r oll, anwyliaid, er mwyn eich adeiladaeth chwi.
20
Canys yr wyf yn ofni, rhag mewn un modd, pan ddelwyf, i mi eich cael nid fel y dymunwn, a minnau i'm cael gennych chwithau yn gyfryw ag na ddymunech chwi: rhag mewn un modd fod cynnen, eiddigedd, llidiau, ymrysonnau, enllibiadau, ensyniadau, ymchwyddiadau, terfysgau:
21
rhag, pan ddelwyf drachefn, fy narostwng gan fy Nuw yn eich gŵydd, a galaru o honof am lawer ydynt wedi pechu eisoes, ac nad edifarhasant am yr aflendid a'r godineb a'r anlladrwydd a wnaethant.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13