bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
2 Corinthians 5
2 Corinthians 5
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 6 →
1
Canys ni a wyddom, os y daearol dŷ o'r babell hon a ddattodir, fod i ni adeilad oddiwrth Dduw, tŷ nid o waith llaw, tragywyddol, yn y nefoedd;
2
canys yn hon yr ydym yn ocheneidio, gan hiraethu am ymwisgo â'n tŷ sydd o'r nef;
3
os hefyd wedi ymwisgo, nid yn noethion y'n ceir.
4
Canys nyni yn wir y rhai ydym yn y babell hon, ydym yn ocheneidio o dan y baich, nid am ein bod yn chwennych ymddiosg, eithr ymwisgo, fel y llyngcer y marwol gan fywyd.
5
A'r hwn a'n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw, yr hwn a roddodd i ni ernes yr Yspryd.
6
Gan fod yn hyderus gan hynny bob amser, ac yn gwybod tra yr ydym gartref yn y corph ein bod oddi cartref oddiwrth yr Arglwydd
7
(canys trwy ffydd y rhodiwn, ac nid wrth ymddangosiad);
8
ond hyderus ydym, a rhyngir bodd i ni yn hytrach, fod oddi cartref o'r corph a chartrefu gyda'r Arglwydd.
9
O herwydd paham, yr ydym hefyd yn ymorchestu, pa un bynnag ai gartref neu oddi cartref, i ryngu ei fodd ef;
10
canys rhaid i ni oll gael ein gwneuthur yn amlwg gerbron brawdle Crist, fel y derbynio pob un yn ol y pethau a wnaed yn y corph, pa un bynnag ai da ai drwg.
11
A ni gan hynny yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn darbwyllo dynion; eithr i Dduw yr ydym wedi ein gwneyd yn amlwg; ac yr ydwyf yn gobeithio ddarfod ein gwneyd yn amlwg yn eich cydwybodau chwithau.
12
Nid cymmeradwyo ein hunain drachefn i chwi yr ydym, eithr rhoddi achlysur ymffrost i chwi o'n plegyd, fel y byddo gennych beth i gwrdd â'r rhai a ymffrostiant yn y golwg, ac nid yn y galon;
13
canys pa un bynnag ai allan o'n pwyll yr oeddem, i Dduw ydoedd; ai yn ein hiawn bwyll yr ydym, i chwi y mae.
14
Canys cariad Crist sydd yn ein cymhell ni, gan farnu o honom hyn: Bu un farw dros bawb; o ganlyniad, bu pawb feirw;
15
a bu efe farw dros bawb, fel na byddai i'r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i'r hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd.
16
Felly nyni o hyn allan nid adwaenwn neb yn ol y cnawd; ac os hyd y nod yr ydym wedi adwaen Crist yn ol y cnawd, etto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef felly mwyach.
17
Felly od oes neb yng Nghrist, y mae efe yn greadur newydd; yr hen bethau a aethant heibio; wele, daethant yn newydd!
18
A phob peth sydd o Dduw, yr hwn a'n cymododd ni âg ef ei hun trwy Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymmod,
19
sef: Yr oedd Duw yng Nghrist yn cymmodi y byd âg ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu camweddau, ac wedi rhoddi i ni air y Cymmod.
20
Dros Grist gan hynny yr ydym genhadau, megys pe bae Duw yn deisyf trwom; yr ydym yn erfyn dros Grist, Cymmoder chwi â Duw.
21
Yr hwn nid adnabu bechod a wnaeth efe yn bechod trosom ni, fel y delem ninnau yn gyfiawnder Duw ynddo ef.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13