bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Corinthians 1
1 Corinthians 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 2 →
1
Paul, apostol galwedig gan Iesu Grist, trwy ewyllys Duw,
2
a Sosthenes, y brawd, at eglwys Dduw, yr hon sydd yn Corinth, wedi eu sancteiddio yng Nghrist Iesu, saint galwedig, ynghyda phawb y sy’n galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist ymhob man, eu Harglwydd hwy a ninnau.
3
Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad, a Thad yr Harglwydd Iesu Grist.
4
Diolch yr wyf i fy Nuw bob amser o’ch herwydd am y gras Duw a roddwyd i chwi yng Nghrist Iesu,
5
am mai ymhob peth y’ch cyfoethogwyd chwi Ynddo Ef, ymhob ymadrodd a phob gwybodaeth,
6
fel y bu i ddirgelwch Crist ei gadarnhau ynoch;
7
fel nad ydych ar ol mewn un dawn,
8
yn disgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd, yr Hwn a’ch cadarnha hefyd hyd y diwedd yn ddiargyhoedd yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist.
9
Ffyddlawn yw Duw, trwy’r Hwn y’ch galwyd i gymdeithas Ei Fab Iesu Grist ein Harglwydd.
10
Ac attolygaf i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, y bo i’r un peth gael ei lefaru genych oll, ac na bo yn eich plith sismau, ond bod o honoch wedi eich perffeithio yn yr un meddwl,
11
ac yn yr un farn: canys amlygwyd i mi am danoch, fy mrodyr, gan y rhai o dŷ Chloe,
12
mai cynhennau sydd yn eich plith; a hyn yw fy meddwl, fod pob un o honoch yn dywedyd, Myfi wyf o Paul; ac, Myfi o Apolos; ac, Myfi o Cephas; ac, Myfi o Grist.
13
A rannwyd Crist? Ai Paul a groes-hoeliwyd trosoch? Ai i enw Paul y’ch bedyddiwyd?
14
Diolch yr wyf i Dduw nad oes un o honoch a fedyddiais oddieithr Crispus a Gaius;
15
fel na fo i neb ddweud mai i fy enw i y’ch bedyddiwyd.
16
A bedyddiais hefyd dylwyth Stephanus. Heblaw hyny,
17
nis gwn a oes neb arall a fedyddiais, canys ni ddanfonodd Crist fi i fedyddio, eithr i efengylu — nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wagheid croes Crist.
18
Canys ymadrodd y groes, i’r rhai sy’n myned ar goll, ffolineb yw; ond i ni y sy’n cael ein hachub, gallu Duw yw,
19
canys ysgrifenwyd, “Difethaf ddoethineb y doethion, A deall y rhai deallus a ddiddymaf.”
20
Pa le y mae’ r doeth? Pa le y mae’ r ysgrifenydd? Pa le y mae dadleuwr y byd hwn? Onid yn ynfydrwydd y trodd Duw ddoethineb y byd?
21
Canys pan yn noethineb Duw, nad adnabu y byd, trwy ei ddoethineb, mo Dduw, gwelodd Duw yn dda trwy ffolineb y pregethu gadw y rhai sy’n credu;
22
canys yr Iwddewon, arwydd a ofynant; a’ r Groegwyr, doethineb a geisiant;
23
ond nyni ydym yn pregethu Iesu Grist wedi Ei groes-hoelio, i’ r Iwddewon yn dramgwydd, ac i’ r cenhedloedd yn ffolineb;
24
ond iddynt hwy a alwyd, Iwddewon a Groegwyr hefyd, Crist gallu Duw a doethineb Duw:
25
canys ffolineb Duw, doethach na dynion yw; a gwendid Duw, cryfach na dynion yw.
26
Canys edrychwch eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o ddoethion yn ol y cnawd, nad llawer o alluogion, nad llawer o foneddigion a alwyd;
27
eithr ffol-bethau y byd a etholodd Duw, fel y cywilyddiai y doethion; a gwan-bethau y byd a etholodd Duw, fel y cywilyddiai y pethau cedyrn;
28
a phethau difonedd y byd, a’r pethau dirmygus, a etholodd Duw;
29
a’r pethau nad ydynt, fel y diddymai y pethau sydd, fel nad ymffrostiai un cnawd ger bron Duw.
30
Ac o Hono Ef yr ydych chwi yng Nghrist Iesu, yr Hwn a wnaed i ni yn ddoethineb oddiwrth Dduw, ac yn gyfiawnder,
31
ac yn sancteiddiad, ac yn brynedigaeth, er mwyn, fel yr ysgrifenwyd, “Yr hwn sydd yn ymffrostio, yn yr Arglwydd ymffrostied.”
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16