bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Corinthians 12
1 Corinthians 12
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
1
Ac am ddoniau ysprydol, frodyr, nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod.
2
Gwyddoch mai pan cenhedloedd oeddych, at yr eilunod mudion y’ch arweinid ymaith, ym mha fodd bynnag y’ch arweinid.
3
Gan hyny, hyspysu i chwi yr wyf, nad yw neb, yn llefaru yn Yspryd Duw, yn dywedyd, Anathema yw’ r Iesu; ac nad oes neb all ddywedyd, Yr Arglwydd yw’ r Iesu, oddieithr trwy yr Yspryd Glân.
4
Ac amryw ddoniau sydd, ond yr un Yspryd, ac amryw weinidogaethau sydd, ac yr un Arglwydd;
5
ac amryw weithrediadau sydd, ond yr un Duw,
6
yr Hwn sy’n gweithredu pob peth ym mhawb.
7
Ond i bob un y rhoddwyd eglurhad yr Yspryd er llesad:
8
canys i un, trwy yr Yspryd, y rhoddwyd ymadrodd doethineb; ac i arall, ymadrodd gwybodaeth, yn ol yr un Yspryd;
9
i arall ffydd, gan yr un Yspryd; ac i arall ddoniau i iachau, gan yr un Yspryd;
10
ac i arall, weithrediadau gwyrthiau; ac i arall, brophwydoliaeth; ac i arall, wahan-farnu ysprydoedd; i arall, amryw dafodau; ac i arall gyfieithiad tafodau.
11
A’r holl bethau hyn a weithreda yr un a’r unrhyw Yspryd, gan rannu, o’r neilldu, i bob un fel yr ewyllysia.
12
Canys fel y mae y corph yn un, ac aelodau lawer ganddo, a holl aelodau’r corph, a hwy yn llawer, un corph ydynt, felly hefyd y mae Crist;
13
canys yn un Yspryd, nyni oll, i un corph y’n bedyddiwyd, pa un bynnag ai Iwddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion; a’r oll o honom, ag un Yspryd y’n diodwyd.
14
Canys y corph nid yw un aelod, eithr llawer.
15
Os dywaid y troed, Am nad wyf law, nid wyf o’r corph, nid yw efe, gan hyny, “Nid o’r corph.”
16
Ac os dywaid y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o’r corph, nid yw hi, gan hyny, “Nid o’r corph.”
17
Pe yr holl gorph fyddai llygad, pa le y byddai’r clywed? Pe’r oll fyddai clywed, pa le y byddai’ r arogliad?
18
Ond yn awr, Duw a osododd yr aelodau, bob un o honynt, yn y corph fel yr ewyllysiodd.
19
A phe bai’r oll yn un aelod, pa le y byddai’ r corph?
20
Ond yn awr, llawer aelod, ond un corph.
21
Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Rhaid wrthyt nid oes arnaf; nac etto y pen wrth y traed, Rhaid wrthych nid oes arnaf.
22
Eithr llawer mwy, yr aelodau o’r corph y sy’n edrych yn wannach, angenrheidiol ydynt;
23
ac y rhannau o’r corph y tybiwn eu bod yn ammharchediccach, ar y rhai hyn y rhoddwn barch helaethach; ac ein rhannau anhardd, harddwch helaethach a gant;
24
ond i’n rhannau hardd nid oes rhaid wrtho; eithr Duw a gyd-dymherodd y corph, gan roddi i’r rhan oedd ddiffygiol barch helaethach;
25
fel na byddai sism yn y corph, eithr yr un pryder dros eu gilydd gan yr aelodau;
26
a pha un bynnag ai dioddef a wna un aelod, cyd-ddioddef y mae yr holl aelodau; neu os gogoneddir aelod, cyd-lawenychu y mae yr holl aelodau.
27
A chwychwi ydych gorph Crist, ac yn aelodau o ran.
28
A rhai a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf, apostolion; yn ail, brophwydi; yn drydydd, athrawon; wedi hyny, wyrthiau; wedi hyny, ddoniau i iachau, cynnorthwyau, llywodraethau, rhywiogaethau tafodau.
29
Ai pawb sydd apostolion? Ai pawb yn brophwydi? Ai pawb yn athrawon? Ai pawb yn wneuthurwyr gwyrthiau?
30
Ai pawb sydd â doniau i iachau ganddynt? Ai pawb sy’n llefaru â thafodau? Ai pawb a gyfieithant?
31
Ond ceisiwch y doniau mwyaf. Ac etto ffordd dra-rhagorol yr wyf yn ei dangos i chwi.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16