bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Corinthians 6
1 Corinthians 6
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 7 →
1
A feiddia neb o honoch a chanddo fatter yn erbyn arall, ymgyfreithio o flaen y rhai anghyfiawn, ac nid o flaen y saint?
2
Oni wyddoch mai y saint a farnant y byd? Ac os genych chwi y bernir y byd, ai annheilwng ydych i farnu’ r pethau lleiaf?
3
Oni wyddoch mai angylion a farnwn? Llawer mwy, ynte, bethau yn perthyn i’r bywyd hwn.
4
Gan hyny, os pethau yn perthyn i’r bywyd hwn sydd genych i’w barnu, ai y rhai a gyfrifir yn ddiddym yn yr Eglwys, ai y rhai hyn yr ydych yn eu rhoddi ar y faingc?
5
Er codi cywilydd ynoch yr wyf yn dywedyd. Ai felly nad oes yn eich plith ddim un doeth yr hwn fydd abl i farnu rhwng ei frodyr,
6
eithr brawd â brawd sy’n ymgyfreithio, a hyny o flaen y rhai digred?
7
Weithian, yn wir, gan hyny, yn hollol diffyg yw ynoch fod genych gŵyn cyfraith â’ch gilydd. Paham nad ydych yn hytrach yn dioddef cam? Paham nad ydych yn hytrach yn dioddef dwyn oddi arnoch?
8
Eithr chwychwi sy’n gwneuthur cam ac yn dwyn oddiar, a hyny i frodyr.
9
Oni wyddoch na fydd i anghyfiawnion etifeddu teyrnas Dduw? Na’ch dyger ar gyfeiliorn. Ni chaiff na godinebwyr, nac eulun-addolwyr,
10
na thorrwyr priodas, na masweddwyr, na gwrryw-gydwyr, na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na rheibusion, etifeddu teyrnas Dduw: a hyn fu rhai o honoch:
11
eithr golchwyd chwi; eithr sancteiddiwyd chwi; eithr cyfiawnhawyd chwi yn enw yr Arglwydd Iesu Grist ac yn Yspryd ein Duw.
12
I mi y mae pob peth yn gyfreithlawn, eithr nid pob peth yn llesol; i mi y mae pob peth yn gyfreithlawn, eithr arnaf fi nid awdurdodir gan ddim.
13
Y bwydydd i’r bol, a’r bol i’r bwydydd; ond Duw a ddiddyma ef a hwythau. A’r corph nid i odineb y mae, eithr i’r Arglwydd, ac yr Arglwydd i’r corph;
14
a Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a’n cyfyd ninnau hefyd trwy Ei allu.
15
Oni wyddoch am eich cyrph mai aelodau i Grist ydynt? Gan gymmeryd, gan hyny, aelodau Crist, a wnaf fi hwynt yn aelodau puttain?
16
Na atto Duw. Oni wyddoch am yr hwn sy’n ymgyssylltu â phuttain, mai un corph yw? “Canys bydd (medd Efe) y ddau yn un cnawd;”
17
ond yr hwn sy’n ymgyssylltu â’r Arglwydd un yspryd yw.
18
Ffowch oddiwrth odineb. Pob pechod a wnelo dyn, oddi allan i’r corph y mae; ond yr hwn sy’n godinebu, yn erbyn ei gorph ei hun y mae yn pechu.
19
Oni wyddoch fod eich corph yn deml i’r Yspryd Glân yr Hwn sydd ynoch, yr Hwn sydd genych oddiwrth Dduw? Ac nid ydych yn eiddoch eich hunain,
20
canys prynwyd chwi er gwerth; gogoneddwch Dduw, gan hyny, yn eich corph.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16