bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Corinthians 10
1 Corinthians 10
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 11 →
1
Canys nid ewyllysiwn i chwi fod heb wybod, frodyr, y bu ein tadau oll dan y cwmmwl, ac i’r oll o honynt fyned trwy’r môr,
2
ac i’r oll o honynt eu bedyddio i Mosheh yn y cwmmwl ac yn y môr,
3
a chan yr oll o honynt yr un bwyd ysprydol a fwyttawyd,
4
a chan yr oll o honynt yr un ddiod ysprydol a yfwyd, canys yfent o graig ysprydol a’u canlynai, a’r graig oedd Crist.
5
Eithr yn y rhan fwyaf o honynt ni foddlonwyd Duw, canys cwympwyd hwynt yn yr anialwch.
6
A’r pethau hyn yn siamplau i ni y’u gwnaed, fel na byddom yn chwenychwyr pethau drwg, fel y bu iddynt hwy hefyd chwenychu.
7
Ac na fyddwch eulunaddolwyr, fel rhai o honynt hwy, fel yr ysgrifenwyd, “Eisteddodd y bobl i fwytta ac i yfed, a chyfodasant i chwareu.”
8
Ac na odinebwn, fel y bu i rai o honynt hwy odinebu, a syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain.
9
Ac na themtiwn yr Arglwydd, fel y bu i rai o honynt hwy demtio, a chan y seirph y distrywiwyd hwy.
10
Ac na rwgnechwch, fel y bu i rai o honynt hwy rwgnach, a distrywiwyd hwynt gan y distrywiwr.
11
Ac y pethau hyn ar wedd siamplau y digwyddasant iddynt hwy; ac ysgrifenwyd hwynt er cynghor i ni ar y rhai y mae terfynau yr oesoedd wedi dyfod.
12
Felly, yr hwn a dybio ei fod yn sefyll, edryched na syrthio.
13
Temtasiwn nid ymaflodd ynoch chwi oddieithr un dynol; ond ffyddlawn yw Duw, yr Hwn ni ad eich temtio chwi uwchlaw yr hyn a allwch; eithr gwnaiff ynghyda’r temtasiwn y ddiangfa hefyd, er mwyn gallu o honoch ei ddioddef.
14
Gan hyny, fy anwylyd, ffowch oddiwrth eulun-addoliaeth.
15
Megis wrth rai synhwyrol yr wyf yn dywedyd: bernwch chwi yr hyn yr wyf yn ei adrodd.
16
Phiol y fendith, yr hon a fendigwn, onid cymmun gwaed Crist yw? Y bara, yr hwn a dorrwn, onid cymmun corph Crist yw? gan mai un bara, un corph ydym, a ni yn llawer; canys yr oll o honom, o’r un bara y cyfrannogwn.
17
Edrychwch ar yr Israel yn ol y cnawd:
18
y rhai sy’n bwytta’r ebyrth, onid cyfrannogion o’r allor ydynt? Pa beth, gan hyny, yr wyf yn ei ddywedyd?
19
Fod yr hyn a aberthwyd i eulunod yn rhywbeth? neu fod yr eulun yn rhywbeth? eithr, y pethau a abertha’r cenhedloedd, i gythreuliaid y’u haberthant ac nid i Dduw;
20
ac nid ewyllysiaf i chwi fyned yn gyfrannogion â’r cythreuliaid. O phiol yr Arglwydd ni ellwch yfed,
21
ac o phiol cythreuliaid: o fwrdd yr Arglwydd ni ellwch gyfrannogi, ac o fwrdd cythreuliaid.
22
Ai gyrru eiddigedd ar yr Arglwydd yr ydym? Ai cryfach nag Ef ydym?
23
Pob peth sydd gyfreithlawn, eithr nid pob peth sy’n llesau; pob peth sydd gyfreithlawn, eithr nid pob peth a adeilada.
24
Yr eiddo ei hun na fydded i neb ei geisio, eithr yr eiddo dyn arall.
25
Pob peth o’r a werthir yn y gigfa, bwyttewch ef heb ofyn dim er mwyn y gydwybod,
26
canys i’r Arglwydd y perthyn y ddaear a’i chyflawnder.
27
Os eich gwahodd a wna rhyw un o’r rhai digred, ac ewyllysio o honoch fyned, pob peth o’r a rodder ger eich bron,
28
bwyttewch heb ofyn dim er mwyn cydwybod; ond os wrthych y dywaid rhyw un, Hwn, peth a aberthwyd yw, na fwyttewch, er mwyn yr hwn a’ i mynegodd, ac er mwyn cydwybod;
29
a chydwybod, meddaf, nid yr eiddot ti dy hun, eithr eiddo’r llall; canys paham y mae fy rhyddid i yn cael ei farnu gan gydwybod un arall?
30
Os myfi trwy ras a gyfrannogaf, paham y’m ceblir am y peth am yr hwn yr wyf fi yn diolch?
31
Pa un bynnag, gan hyny, ai bwytta yr ydych, neu yn yfed, neu yn gwneuthur rhyw beth, pob peth gwnewch er gogoniant Duw.
32
Byddwch ddidramgwydd i Iwddewon a Groegiaid ac eglwys Dduw;
33
fel yr wyf fi ymhob peth yn rhyngu bodd pawb, heb geisio fy lles fi fy hun, eithr eiddo’r rhan fwyaf, fel yr achuber hwynt.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16