bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Corinthians 9
1 Corinthians 9
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 10 →
1
Nid wyf yn rhydd! Nid wyf yn apostol! Onid Iesu ein Harglwydd a welais? Onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd?
2
Os i eraill nad wyf apostol, beth bynnag i chwi yr wyf, canys sel fy apostoliaeth ydych chwi, yn yr Arglwydd.
3
Fy amddiffyn i’r rhai sydd yn fy holi i, yw hyn.
4
Onid oes genym awdurdod i fwytta ac i yfed?
5
Onid oes genym awdurdod i arwain o amgylch chwaer o wraig, fel yr apostolion eraill, a brodyr yr Arglwydd, a Cephas?
6
Ai yn unig myfi a Barnabas sydd heb genym awdurdod i fod heb weithio?
7
Pwy sy’n milwrio un amser ar ei draul ei hun? Pwy sy’n plannu gwinllan, ac ei ffrwyth hi na fwytty? Neu pwy sy’n porthi praidd, ac o laeth y praidd na fwytty?
8
Ai yn ol dyn yr wyf yn dywedyd y pethau hyn? Neu’r Gyfraith hefyd, ai’r pethau hyn na ddywaid?
9
Canys yng Nghyfraith Mosheh yr ysgrifenwyd, “Ni rwymi safn ŷch yn dyrnu.”
10
Ai dros yr ychen y gofala Duw, neu o’n hachos ni yn hollol y dywaid? O’n hachos ni, yn wir yr ysgrifenwyd, canys mewn gobaith y dylai’r arddwr aredig, a’r dyrnwr ddyrnu mewn gobaith o gyfrannogi.
11
Os nyni a hauasom i chwi bethau ysprydol, ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnawdol chwi?
12
Os eraill a gyfrannogant o’r awdurdod hon arnoch, onid mwy nyni a gawn? Eithr nid arferasom yr awdurdod hon; eithr pob peth a oddefwn, fel na roddom neb rhyw rwystr i Efengyl Crist.
13
Oni wyddoch am y rhai sy’n offrymmu y pethau cyssegredig, mai y pethau o’r deml a fwyttant; a’r rhai sy’n gwasanaethu’r allor, â’r allor y mae eu cyfran?
14
Felly hefyd yr Arglwydd a ordeiniodd i’r rhai sy’n cyhoeddi’r Efengyl, mai o’r Efengyl y mae iddynt fyw.
15
Ond myfi nid arferais yr un o’r pethau hyn; ac ni ’sgrifenais y pethau hyn er mwyn felly y gwnelid tuag attaf, canys da i mi farw yn hytrach nag i’m hymffrost gael ei wneuthur yn wag gan neb:
16
canys os efengylaf nid oes i mi ymffrost, canys angenrhaid a osodwyd arnaf, canys gwae fydd i mi os nad efengylaf;
17
canys os o’m bodd y gwnaf hyn, gwobr sydd i mi; ond os o’m hanfodd, y ddisdeiniaeth a ymddiriedwyd i mi.
18
Pa beth, gan hyny, yw’r gwobr i mi? Fel, wrth efengylu, y gwnelwyf yr Efengyl yn ddidraul, er mwyn peidio a llawn-arferu fy awdurdod yn yr Efengyl.
19
Canys a myfi yn rhydd oddiwrth bawb, i bawb y gwnaethum fy hun yn gaethwas fel y rhan fwyaf yr ennillwn,
20
ac aethum i’r Iwddewon megis Iwddew, fel yr Iwddewon yr ennillwn; i’r rhai tan y Gyfraith, megis tan y Gyfraith, a mi heb fod tan y Gyfraith, fel y rhai tan y Gyfraith yr ennillwn;
21
i’r rhai digyfraith, megis digyfraith, a mi heb fod yn ddigyfraith i Dduw, eithr tan gyfraith i Grist, fel yr ennillwn y rhai digyfraith.
22
Aethum i’r gweiniaid yn wan, fel y gweiniaid yr ennillwn. I bawb yr aethum yn bob peth, fel ymhob modd yr achubwn rai.
23
A phob peth yr wyf yn ei wneud er mwyn yr Efengyl, fel y byddwyf yn gydgyfrannog o honi.
24
Oni wyddoch fod y rhai sy’n rhedeg mewn rhedfa i gyd yn rhedeg, ond un sy’n derbyn y gwobr?
25
Felly rhedwch, er mwyn derbyn o honoch. A phob un y sy’n ymdrechu yn y campau, ymhob peth y mae’n gymmedrol; hwynt-hwy yn wir fel y bo coron lygradwy i’w chael ganddynt; ond nyni, un anllygradwy.
26
Myfi, gan hyny, wyf felly yn rhedeg fel nid mewn ansicrwydd;
27
felly yr ymbaffiaf, fel nid yn curo’r awyr; eithr du-gleisio fy nghorph yr wyf, ac yn ei ddwyn yn gaeth, rhag mewn modd yn y byd, ar ol pregethu i eraill, i mi fy hun fod yn anghymmeradwy.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16