bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Corinthians 16
1 Corinthians 16
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
1
Ac am y gasgl y sydd i’r saint; fel yr ordeiniais i eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau hefyd.
2
Y dydd cyntaf o’r wythnos pob un o honoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan drysori fel y llwyddodd, rhag pan ddelwyf, yr amser hwnw, y bo’r gasgl.
3
A phan ddelwyf, pa rai bynnag a gymmeradwyoch, â llythyrau y danfonaf hwynt i ddwyn eich caredigrwydd i Ierwshalem:
4
ac os teilwng bydd o fyned o honof finnau hefyd, ynghyda mi yr ant.
5
Ond deuaf attoch, pan trwy Macedonia y byddaf wedi tramwy;
6
canys trwy Macedonia yr wyf yn tramwy; ac ynghyda chwi ysgatfydd yr arhosaf, neu y gauafaf hefyd, fel y’m hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf;
7
canys nid ewyllysiaf eich gweled chwi yn awr ar fy hynt; canys gobeithio yr wyf aros rhyw ennyd gyda chwi, os yr Arglwydd a’i caniatta.
8
Ond arhosaf yn Ephesus hyd y Pentecost; canys drws a agorwyd i mi,
9
un mawr ac effeithiol; a gwrthwynebwyr lawer sydd.
10
Ond os daw Timothëus, edrychwch ar fod o hono yn ddiofn gyda chwi, canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel yr wyf finnau hefyd.
11
Na fydded i neb, gan hyny, ei ddiystyru ef; ond hebryngwch ef mewn heddwch fel y delo attaf, canys ei ddisgwyl ef yr wyf ynghyda’r brodyr.
12
Ac am y brawd Apolos, llawer yr ymbiliais ag ef am ddyfod attoch gyda’r brodyr; ond yn hollol nid oedd ei ewyllys i ddyfod yn awr, ond daw pan fydd ganddo amser cyfaddas.
13
Gwyliwch; sefwch yn y ffydd; ymwrolwch; ymgryfhewch;
14
eich holl bethau, mewn cariad y gwneler hwynt.
15
Ac attolygaf i chwi, frodyr, (gwyddoch am dŷ Stephanas ei fod yn flaen-ffrwyth Achaia, ac i weinidogaeth y saint y gosodasant eu hunain),
16
y bo i chwithau hefyd fod yn ddarostyngedig i’r cyfryw rai, ac i bob un sydd yn cydweithio ac yn llafurio.
17
A llawen wyf am ddyfodiad Stephanas a Ffortunatus ac Achaicus; canys eich diffyg chwi hwy a gyflawnasant;
18
canys adlonasant fy yspryd i ac yr eiddo chwi; cydnabyddwch, gan hyny, y cyfryw rai.
19
Eich annerch y mae eglwysi Asia. Eich annerch yn yr Arglwydd, yn ddirfawr, y mae Acwila a Phrisca, ynghyda’r eglwys sydd yn eu tŷ.
20
Eich annerch y mae’r brodyr oll. Annerchwch eich gilydd â chusan sanctaidd.
21
Yr annerch a’m llaw i Paul.
22
Os rhyw un na char yr Arglwydd, bydded anathema, Maran atha.
23
Gras yr Arglwydd Iesu Grist fo gyda chwi.
24
Fy serch fo gyda phawb o honoch yng Nghrist Iesu. Amen.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16