bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Corinthians 15
1 Corinthians 15
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 16 →
1
Ac hyspysu yr wyf i chwi, frodyr, yr Efengyl a efengylais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch; yn yr hon hefyd yr ydych yn sefyll;
2
a thrwy yr hon hefyd yr ydych yn cael eich achub; hyspysu yr wyf i chwi â pha ymadrodd yr efengylais i chwi, os ei ddal yn dỳn yr ydych, oddieithr mai yn ofer y credasoch.
3
Canys traddodais i chwi, yn gyntaf, yr hyn a dderbyniais hefyd, y bu i Crist farw am ein pechodau yn ol yr Ysgrythyrau;
4
ac y claddwyd Ef, ac y cyfodwyd y trydydd dydd yn ol yr Ysgrythyrau;
5
ac yr ymddangosodd i Cephas;
6
yna i’r deuddeg; wedi hyny, yr ymddangosodd i fwy na phum cant o frodyr ar unwaith, o’r rhai y mae’r rhan fwyaf yn aros hyd yr awr hon, ond rhai a hunasant.
7
Wedi hyny yr ymddangosodd i Iago;
8
yna i’r apostolion oll; ac yn ddiweddaf o’r cwbl, fel i un annhymmig, yr ymddangosodd i minnau hefyd:
9
canys myfi wyf y lleiaf o’r apostolion, yr hwn nid wyf deilwng i’m galw yn apostol, o herwydd erlid o honof eglwys Dduw;
10
ond trwy ras Duw ydwyf yr hyn ydwyf; a’i ras Ef, yr hwn a fu tuag attaf, nid ofer fu, eithr yn helaethach na hwynt oll y llafuriais; ond nid myfi chwaith eithr gras Duw yr hwn oedd gyda mi.
11
Pa un bynnag, gan hyny, ai myfi, ai hwynt-hwy, felly y pregethwn, ac felly y credasoch.
12
Ac os Crist a bregethir, mai o feirw y cyfodwyd Ef, pa fodd y dywaid rhai yn eich plith chwi, “Adgyfodiad y meirwon nid oes mo’no”?
13
Ac os “Adgyfodiad y meirwon nid oes mo’no,” Crist ni chyfodwyd chwaith;
14
ac os “Crist ni chyfodwyd,” gwag, gan hyny, yw ein pregethiad ni, a gwag eich ffydd chwi;
15
a cheir ni hefyd yn au-dystion Duw, canys tystiasom yn erbyn Duw y cyfododd Efe Grist, yr Hwn ni chyfododd Efe, os yn wir meirwon ni chyfodir;
16
canys os “meirwon ni chyfodir,” ni fu i Grist chwaith Ei gyfodi;
17
ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yw eich ffydd, yr ydych etto yn eich pechodau.
18
Gan hyny, hefyd am y rhai a hunasant yng Nghrist y darfu.
19
Os yn y bywyd hwn yng Nghrist y bum a’n hunig obaith, truanach na phawb o ddynion ydym.
20
Ond yn awr, Crist a gyfodwyd o feirw, blaen-ffrwyth y rhai a hunasant;
21
canys gan mai trwy ddyn y mae marwolaeth, trwy ddyn hefyd y mae adgyfodiad meirwon;
22
canys fel yn Adam y mae pawb yn meirw, felly hefyd yng Nghrist pawb a fywheir: ond pob un yn ei drefn ei hun;
23
y blaen ffrwyth yw Crist; wedi hyny y rhai ydynt eiddo Crist, yn Ei ddyfodiad Ef;
24
yna y diwedd, pan draddoda Efe y deyrnas i Dduw a’ r Tad, pan fydd wedi diddymmu pob llywodraeth a phob awdurdod a gallu;
25
canys rhaid Iddo Ef deyrnasu hyd oni osodo Ei holl elynion dan Ei draed.
26
Y gelyn olaf a ddiddymir, sef yr angau, canys pob peth a ddarostyngodd Efe dan Ei draed Ef.
27
A phan ddywedo fod pob peth wedi ei ddarostwng, amlwg yw mai oddieithr yr Hwn a ddarostyngodd bob peth Iddo,
28
yna y Mab Ei hun hefyd a ddarostyngir i’r Hwn a ddarostyngodd bob peth Iddo Ef, fel y byddo Duw oll yn oll.
29
Canys pa beth a wna y rhai yn cael eu bedyddio dros y meirw, os y meirwon yn hollol ni chyfodir? Paham y maent yn cael eu bedyddio hefyd trostynt?
30
Paham yr ydym ninnau hefyd mewn perygl bob awr?
31
Peunydd yr wyf yn marw, myn eich ymffrost, frodyr, yr hwn sydd genyf yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
32
Os yn ol dyn yr ymleddais â bwystfilod yn Ephesus, pa lesad yw i mi? Os “meirwon ni chyfodir,” bwyttawn ac yfwn, canys y foru marw yr ydym.
33
Nac arweinier chwi ar gyfeiliorn: moesau da a lygrir gan ymddiddanion drwg.
34
Deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch; canys anwybodaeth am Dduw sydd gan rai: er codi cywilydd ynoch yr wyf yn llefaru.
35
Eithr dywaid rhyw un, Pa fodd y cyfodir y meirw? ac a pha ryw gorph y deuant?
36
O ynfyd, yr hyn yr wyt ti yn ei hau, ni fywheir oni bydd farw.
37
A’r hyn a heui, nid y corph a fydd yr wyt yn ei hau, eithr gronyn noeth, ysgatfydd o wenith,
38
neu o ryw un o’r hadau eraill, ond Duw sy’n rhoddi iddo gorph fel yr ewyllysiodd, ac i bob un o’r hadau ei gorph ei hun.
39
Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd, eithr un cnawd sydd gan ddynion, a chnawd arall gan anifeiliaid, a chnawd arall gan ehediaid, ac arall gan bysgod;
40
a chyrph nefol sydd, a chyrph daearol; eithr un yw gogoniant y rhai nefol,
41
ac arall yw gogoniant y rhai daearol: un gogoniant sydd i’r haul, ac arall yw gogoniant y lloer, ac arall gogoniant y ser, canys rhwng seren a seren y mae gwahaniaeth mewn gogoniant;
42
felly hefyd y mae adgyfodiad y meirw: heuir ef mewn llygredigaeth, cyfodir mewn anllygredigaeth;
43
heuir mewn ammharch, cyfodir mewn gogoniant; heuir mewn gwendid, cyfodir mewn gallu; heuir yn gorph anianol, cyfodir yn gorph ysprydol; os oes corph anianol, y mae hefyd un ysprydol.
44
Felly hefyd yr ysgrifenwyd, “Aeth y dyn cyntaf, Adam,
45
yn enaid byw,” a’r Adam diweddaf yn yspryd yn bywhau;
46
eithr nid cyntaf yr ysprydol, eithr yr anianol, a chwedi’n yr ysprydol.
47
Y dyn cyntaf o’r ddaear yn ddaearol; yr ail ddyn, o’r nef.
48
Ac y cyfryw ag yw y daearol, y cyfryw hefyd yw y rhai daearol;
49
ac y cyfryw ag yw y nefol, y cyfryw hefyd yw y rhai nefol; ac fel y dygasom ddelw y daearol, dygwn hefydd ddelw y nefol.
50
A hyn meddaf, frodyr, Cig a gwaed ni allant etifeddu teyrnas Dduw, a llygredigaeth nid yw’n etifeddu anllygredigaeth.
51
Wele, dirgelwch a ddywedaf wrthych, Nid pawb o honom a hunant, ond pawb o honom a newidir, mewn moment, ar darawiad llygad, wrth yr udgorn diweddaf;
52
canys udgorn a gân, a’r meirw a gyfodir yn anllygredig, a nyni a newidir;
53
canys rhaid i’r llygradwy hwn ymwisgo ag anllygredigaeth, a’r marwol hwn ymwisgo ag anfarwoldeb;
54
a phan ddarffo i’r llygradwy hwn ymwisgo ag anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn ymwisgo ag anfarwoldeb, yna y digwydd yr ymadrodd sydd ysgrifenedig, “Llyngcwyd angau am byth.”
55
Pa le, angau, y mae dy fuddugoliaeth di? Pa le, angau, y mae dy golyn di?
56
Colyn yr angau yw pechod; a gallu pechod yw’ r Gyfraith.
57
Ond i Dduw y byddo’ r diolch, yr Hwn sy’n rhoi i ni y fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist.
58
Felly, fy mrodyr anwyl, byddwch sefydlog, yn ddiymmod, yn helaethion yngwaith yr Arglwydd yn wastadol, gan wybod nad yw eich llafur yn wag yn yr Arglwydd.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16