bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Corinthians 2
1 Corinthians 2
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
1
Ac myfi, pan ddaethum attoch, frodyr, a ddaethum, nid â rhagoroldeb ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi ddirgelwch Duw,
2
canys penderfynais na wyddwn ddim yn eich plith oddieithr Iesu Grist, ac Ef yn groes-hoeliedig.
3
Ac myfi, mewn gwendid ac ofn a chryndod mawr yr oeddwn yn eich plith;
4
ac fy ymadrodd a’m pregethiad nid oeddynt yng ngeiriau darbwyllus doethineb,
5
eithr yn arddangosiad yr Yspryd a gallu, fel y byddai eich ffydd, nid yn noethineb dynion, eithr yn ngallu Duw.
6
Ond doethineb a lefarwn ym mhlith y rhai perffaith; ond doethineb nid o eiddo y byd hwn, nac o eiddo llywodraethwyr y byd hwn y rhai sy’n myned yn ddiddym;
7
eithr llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch yr ydym, yr hwn oedd guddiedig, yr hwn a rag-ordeiniodd Duw cyn na’r oesoedd i’n gogoniant ni;
8
yr hwn ni fu i undyn o lywodraethwyr y byd hwn ei adnabod; canys pes adwaenasent, Arglwydd y gogoniant ni chroes-hoeliasent.
9
Eithr fel yr ysgrifenwyd, “Y pethau na fu i lygad eu gweled, a chlust ni chlywodd, Ac i galon dyn nad esgynasant, Cynnifer bethau ag a barottodd Duw i’r rhai sydd yn Ei garu;”
10
ond i nyni y datguddiodd Duw hwynt trwy’r Yspryd; canys yr Yspryd a chwilia bob peth, hyd yn oed ddyfnderau Duw.
11
Canys pwy o ddynion a ŵyr bethau dyn, oddieithr yspryd dyn, yr hwn sydd ynddo? Felly, pethau Duw hefyd, nid oes neb a’u gŵyr oddieithr Yspryd Duw.
12
Ond nyni, nid yspryd y byd a dderbyniasom, eithr yr Yspryd y sydd oddiwrth Dduw, fel y gwypom y pethau a rad-roddwyd i ni:
13
y rhai hefyd a lefarwn, nid mewn geiriau a ddysgwyd gan ddoethineb dynol, eithr a ddysgwyd gan yr Yspryd, gan gydmaru pethau ysprydol â phethau ysprydol.
14
Ond y dyn anianol ni dderbyn bethau Yspryd Duw; canys ffolineb ydynt ganddo ef, ac ni all eu gwybod, gan mai yn ysprydol y bernir hwynt.
15
Ond y dyn ysprydol a farn bob peth; ond ef ei hun ni fernir gan undyn.
16
Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, ac a’i cyfarwydda Ef? Ond nyni sydd a chenym feddwl Crist.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16